Yng nghynhyrchiad David Pountney o La voix humaine gan Poulenc, ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, mae'r plot yn canolbwyntio ar gymeriad o'r enw 'L'. Hi yw'r unig gymeriad, a Claire Booth sydd wedi canu'r rôl ar y ddau achlysur rydyn ni wedi cynnal yr opera. Gwnaethom ofyn iddi am ei barn ar L, beth mae hi'n ei weld yng nghefndir y cymeriad, pwy yw L yn ei llygaid hi, a sut mae hi'n ymdrin â'r rôl:
'Mae'r stori rydyn ni'n ei gweld ar ddechrau'r opera yn eithaf diflas - merch ar ei phen ei hun yn ei fflat. O ran ei pherthynas, mae'n amlwg ei bod wedi dod i ben, ac mae'r libreto Ffrengig gwreiddiol [lle mae'n cael ei hadnabod fel Elle] yn awgrymu ei bod hi naill ai'n feistres, neu'n rhan o berthynas gyfrinachol wedi ei chadw yn y cefndir.
Ni wyddom a yw ei llety yn fath o dâl am y berthynas, sy'n gwneud i ni gwestiynu a yw hi'n ferch sy'n cael ei 'chadw'n ariannol' neu a oes ganddi arian ei hun. Rwyf eisoes wedi teimlo fod y ferch hon yn gallu cael swydd, ond mai'r berthynas sydd bellach yn ei diffinio hi, ac yn ei chynnal hi. Beth bynnag yw ei swydd, nid yw'n rhoi boddhad na hunanhyder iddi. Mae'r ffaith ei bod hi'n cael ei 'ffeirio' am ferch (ieuengach efallai) arall yn arwain i ni i feddwl ei bod hi'n ferch hŷn. I ryw raddau, does dim ots os yw y ferch newydd yn ieuengach / mwy soffistigedig / o ddosbarth gwahanol, mae L yn deall nad yw'n hi'n gallu cystadlu.
Bellach, mae'r amser wedi dod i'w phartner symud ymlaen at berthynas arall, sy'n fwy 'addas'. At briodi, efallai? Felly, nid yn unig mae L wedi cael ei gadael, ond mae holl olion y berthynas wedi cael eu dileu - mae ei chyn-gariad anhysbys yn mynnu bod unrhyw luniau a llythyrau sy'n eiddo iddi hi'n cael eu dychwelyd iddo.
Mae'r amrywiaeth o ffyrdd mae L yn ymddwyn yn ystod y darn yn dweud ei bod hi - ar brydiau - yn allblyg; mae'n gallu cael hwyl, bod yn ddigymell, a chymryd risgiau. Ond, mae'r opera'n gorfodi'r gynulleidfa i gwestiynu 'beth yw'r pris am hyn?' Pa gyfres o amgylchiadau sydd wedi arwain y ferch hon [sbwyliwr!] i gymryd gorddos? Teimlir fod holl wynebau'r cymeriad yn cael eu harddangos yn yr opera, yn hytrach na'r cymeriad yn datblygu. Ailymwelir â llinellau mae hi'n eu hadrodd yn fuan yn yr opera, gan gwestiynu ac amau ei chymhelliad. Ar brydiau, tanseilir ei gallu i reoli'r sefyllfa, ar adegau eraill, cawn ein llethu gan eironi dramatig ei chyflwr.
Mae L yn datguddio cyfres o emosiynau dynol - mae hi'n gallu bod yn fregus, ffyddiog, twyllodrus, yn genawes, ac yn ddioddefwr. Mae'n anodd dod o hyd i gymeriad cyffelyb mewn unrhyw opera arall, ac yn aml, mae cymeriadau benywaidd yn ymddangos yn gwbwl dda neu ffyddiog, ond efallai bod un yn ddireidus gyda chalon dda, ac yn aml yn dioddef dan amgylchiadau.
Efallai bod ganddi fwy yn gyffredin â chymeriadau llenyddol yn hytrach na difas opera, am fod ei hymgnawdoliad wedi ymddangos yn nrama Cocteau yn gyntaf, yn hytrach nag opera Poulenc. Yn La voix humaine, mae'n amlwg bod rhyddid i ddisgrifio pob agwedd o ymddygiad - fel Anna Karenina, yn hytrach nag Anne Truelove. Wrth fynd drwy'r canon operatig, ymddengys bod cymeriadau'n llai lluniaidd, ac yn aml mae arlliw a chymhlethdod yn cael eu hamlygu gan y cyfarwyddwr, yn hytrach na bodoli yn y testun yn unig. Efallai y byddwn yn dod ar draws arwres Handelinaidd, neu ddifa ddryslyd Donizetti, ond o ran libreto, maent wedi'u gwreiddio mewn stereoteip neu pastiche, yn amlach na pheidio. Wrth reswm, ceir nifer o brif gymeriadau arlliw, o Elvira i Ellen Orford; er hynny, nid yw natur testun operatig yn aml yn gadael llawer o le i gyfleu'r cymeriadau hyn yn 'gyfan'. Yr hyn sy'n hyfryd am L yw bod ei chymeriad cyfan yn cael ei ddehongli - drwy ei geiriau a'i distawrwydd - mewn amrywiaeth syfrdanol.
Os yw L yn ymddangos yn wir ar y dudalen, mae ganddi'r gallu i ffitio'n berffaith mewn perfformiad. Mae'r themâu yn yr opera, sef unigrwydd, colli, cysylltiad a chariad yn berthnasol i bob unigolyn, ac i berfformwyr hefyd. Felly, yn anffodus, nid yw'n anodd dod o hyd i brofiadau bywyd go iawn sy'n uniaethu ag ymdeimlad L o afiaith...yn ogystal â'i phenderfynoldeb i beidio â cholli gobaith.