Newyddion

Cost Cariad: Santes Dwynwen a The Flying Dutchman

23 Ionawr 2026

Mae straeon caru yn aml yn addo diweddglo hapus. Ond nid y ddwy yma, yn bendant. Mae’r ddwy yn gofyn cwestiwn craff: beth yw cost cariad pan nad yw’n syml?

Caiff Santes Dwynwen ei hadnabod fel nawddsant cariadon Cymru, a ddethlir ar 25 Ionawr. Mae ei chwedl yn sôn am dorcalon, penderfyniadau anodd, a throi poen personol yn ofal i eraill. Mae The Flying DutchmanWagner yn wahanol mewn arddull, yn llawn stormydd a cherddoriaeth ysgubol, ond mae’n ymdrin â themâu tebyg: ffyddlondeb, aberth, ac achubiaeth.

Ffyddlondeb

Yn The Flying Dutchman, mae ffyddlondeb yn cychwyn cyn rhamant. Mae Senta wedi gwirioni gyda’r chwedl am y Dutchman ymhell cyn iddi gwrdd ag ef. Mae’n credu ei bod hi i fod i’w achub, ac mae’r gred honno yn llywio popeth a wna. Mae’n ei thynnu i ffwrdd o ddyfodol arferol gydag Erik, y dyn sydd eisiau iddi ddewis bywyd cyfarwydd, mwy diogel.

Mae ffyddlondeb Dwynwen yn dawelach ac yn fwy personol. Mae’n syrthio mewn cariad gyda Maelon, ond mae ei thad yn gwrthod cytuno. Yn y chwedl, mae Dwynwen yn gweddïo i’w anghofio a chaiff Maelon ei droi yn rhew. Yna caiff Dwynwen dri dymuniad: sef dadmer Maelon, bod Duw yn helpu gwir gariadon, ac na fydd hi byth yn priodi. Yn hytrach nag adeiladu bywyd o amgylch y cariad a gollodd, trodd Dwynwen at ffydd a gwasanaeth.

Y cysylltiad: mae’r ddwy’n ymrwymo i rywbeth mwy na’u cysur eu hunain. Mae Senta yn ymrwymo i berson y mae’n credu y gall ei achub. Mae Dwynwen yn ymrwymo i helpu eraill, hyd yn oed pan na chaiff yr hyn y mae ei eisiau.

Aberth

Mae’r ddwy stori yn mynnu bod cariad yn cael ei brofi gan yr hyn a aberthwch.

Mae aberth Senta ar unwaith ac yn ddramatig. Pan mae’r Dutchman yn credu ei fod wedi cael ei fradychu ac yn paratoi i adael, mae’n gwrthod gadael i amheuaeth ennill. Yn y stori wreiddiol, mae’n taflu ei hun i’r môr. Ym myd Wagner, y math hwnnw o ffyddlondeb yw’r unig beth digon pwerus i dorri’r felltith.

Mae aberth Dwynwen yn arafach ac yn anoddach i’w ddangos ar y llwyfan. Nid yw hi’n marw dros gariad. Mae hi’n byw wedyn. Mae’n dewis peidio priodi, ac mae’n glynu at y penderfyniad hwnnw am weddill ei bywyd.

Felly, mae’r ddwy yn aberthu eu dyfodol. Tra bod Senta yn rhoi gorau i’w dyfodol gydag un weithred, mae Dwynwen yn dewis rhoi gorau i’w un hi trwy ddewis parhaus.

Achubiaeth

Mae achubiaeth yn ganolog i’r ddwy stori, ond mae’n gweithio mewn gwahanol ffyrdd.

Yn The Flying Dutchman, mae achubiaeth yn uniongyrchol. Mae’r Dutchman wedi’i felltithio, a chariad ffyddlon yw’r unig beth a all ei ryddhau. Ffyddlondeb Senta yw’r trobwynt.

Yn chwedl Dwynwen, nid yw achubiaeth yn ymwneud â “thrwsio’r” gorffennol. Mae’n ymwneud â’i drawsnewid. Ni all Dwynwen ddychwelyd i stori garu hawdd, ond mae hi’n troi torcalon yn fendith. Caiff ei henw ei gysylltu â gobaith i gariadon, nid oherwydd iddi gael yr hyn oedd arni ei eisiau, ond oherwydd iddi ddewis caredigrwydd.

Wedi’ch ysbrydoli?

Cewch weld The Flying Dutchman Opera Cenedlaethol Cymru, rhwng 16 Ebrill a 15 Mai 2026 yng Nghaerdydd, Plymouth, Birmingham neu Milton Keynes.