Rhowch eich gwregys ymlaen, wrth i ni baratoi am daith i fyd o ffantasi a thylwyth teg gyda La Cenerentola lliwgar a mawreddog Rossini. Yn seiliedig i ryw raddau ar blot Sinderela Charles Perrault, gallwch ddisgwyl ambell i dro annisgwyl yn y stori dylwyth teg tra gwahanol hon. Mae Rossini, cyfansoddwyr enwog a llwyddiannus, yn darparu persbectif ffres wrth gael gwared ar hyd hud a lledrith er mwyn pwysleisio pwysigrwydd moesau a gwerthoedd, gan dynnu sylw at ragrith pŵer.
Cyfansoddwyd La Cenerentola ar y cyd â’r libretydd Jacopo Ferretti mewn 24 diwrnod gwyllt ar gyfer Gŵyl San Steffan yn ystod Carnifal Rhufain. Mae cyfyngiadau amser a’r oes yr oedd Rossini yn cyfansoddi ynddi yn amlwg wedi cael effaith ar y plot amgen hwn. Ar y pryd, sensoriwyd operâu, ac o ganlyniad cyfnewidiwyd y sliper wydr am freichled, gan y byddai’r syniad o ferch yn datgelu ei ffêr noeth yn destun gwarth. Sylweddolodd Rossini a Ferretti wrth drafod llwyfannu’r opera y byddai cynnwys yr elfennau goruwchnaturiol yn rhy gymhleth. Felly i’w chadw yn fwy syml ac i sicrhau ei bod yn llifo cafwyd gwared ar yr elfennau hyn, megis y ceffyl a throl yn troi’n bwmpen.
Ond mae’n debyg mae’r newid mwyaf i’r stori oedd cyfnewid y fam bedydd tylwyth teg am gymeriad Alidoro, yr athronydd a thiwtor i’r Tywysog. Gyda’r Oes Oleuedig yn dylanwadu ar y 19eg ganrif, gellid dadlau bod Rossini eisiau symud i ffwrdd o’r lledrith dychmygol tuag at stori fwy realistig, yn dilyn y syniad fod ymddygiad moesol yn bwysicach na hud, arian neu bŵer.
Yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar 25 Ionawr 1817, broliodd Rossini sut y byddai’n achosi cynnwrf yn yr Eidal ac yn rhyngwladol, gydag impresarios a phrif gantoresau yn brwydro am rannau. Roedd Rossini yn llygad ei le, cynyddodd La Cenerentola yn ei phoblogrwydd yn ystod y 19eg ganrif nes iddi ragori ar opera fwyaf poblogaidd Rossini hyd yma, The Barber of Seville.
Er mwyn glynu at y thema straeon tylwyth teg, byddwn yn nhymor y Gwanwyn 2019 yn perfformio un o operâu mwyaf enwog Mozart, The Magic Flute. Er bod defnyddio straeon tylwyth teg yn boblogaidd yn Ffrainc ers 1771, The Magic Flute fu’n gyfrifol am sbarduno’r diddordeb yn eu defnyddio fel genre operatig.
Felly, ymunwch â ni ar gyfer dau dymor hudolus, a fydd yn eich clwyfo â’r holl chwerthin ac yn cyffroi eich dychymyg, gyda lliwiau lliwgar, cymeriadau ffraeth a straeon digrif.