Newyddion

The Marriage of Figaro – stori am ddosbarthiadau cymdeithasol

14 Ionawr 2020

Mewn gwirionedd, mae isleisiau mwy difrifol o aflonyddwch gwleidyddol i gomedi enwog Mozart ynglŷn â chariad, awydd a thwyll, sy'n adlewyrchu'r brwdfrydedd chwyldroadol ledled y byd yn hwyr yn y 18fed ganrif.

Ysgrifennodd Pierre Beaumarchais, dramodydd Ffrengig (a gwneuthurwr clociau, chwyldroadwr, a llawer o bethau eraill) drioleg o ddramâu yn hanner olaf y 1770au yn seiliedig ar gymeriad o'r enw Figaro a gafodd eu gwahardd i ddechrau gan Frenin Louis XVI. Defnyddiodd Mozart a'i libretydd Da Ponte ganol y tair drama fel sylfaen i The Marriage of Figaro ond, yn ymwybodol o gryfder teimlad gwleidyddol (radical) y ddrama, bu iddo ei haddasu i ddarostwng y cynnwys ychydig, felly ar yr wyneb ymddengys yr opera yn stori am gariad a maddeuant.

Roedd dramâu Beaumarchais yn cynnwys agweddau bywgraffiadol, o'r Cherubino ifanc yn The Marriage of Figaro yn cynrychioli fersiwn ieuengach ohono'i hun, i Susanna wedi'i seilio ar ei drydedd wraig. Gyda'r agweddau cymdeithasol chwyldroadol yn adlewyrchu ei gredoau: roedd yn gefnogwr 'ymarferol' Rhyfel Annibyniaeth America a'r Chwyldro Ffrengig – gwir frwydrau'r rhengoedd.

Ysgrifennwyd The Marriage of Figaro yn 1786 a'i berfformio gyntaf yn yr un flwyddyn, dwy flynedd ar ôl codi'r gwaharddiad ar ddrama Beaumarchais (a dim ond tair blynedd cyn dechrau'r Chwyldro Ffrengig). Roedd y ddwy fersiwn yn sylwebaeth ar y gwahaniaethau rhwng dosbarthiadau cymdeithasol, gyda'r droit de seigneur dan fygythiad yn dangos pwerau'r pendefigion dros fywydau'r dosbarth gweithiol. Er hynny, mae Figaro a Susanna, fel aelodau'r dosbarth gweini, yn arddangos ffraethineb a dyfeisgarwch sy'n eu galluogi nhw i oresgyn eu 'gwell', i sicrhau bod pethau'n mynd eu ffordd nhw ond gan wneud i'r Iarll, yn enwedig, deimlo ei fod yn dal i reoli.

I bob golwg, nid oedd penderfyniadau syml bob dydd yr ydym ni'n eu cymryd yn ganiataol heddiw –  megis ein dillad neu gyda phwy ydym – yn rhan o fywyd bryd hynny, ac yn Figaro dengys hyn o gychwyn cyntaf yr opera. Mae Figaro a Susanna yn rhannu eu teimladau ynglŷn â lleoli eu hystafell newydd (drws nesaf i'r Iarll). Creda Figaro fod hyn yn wych, yn ei gwneud hi'n haws ac yn gyflymach i ymateb i unrhyw alwadau o'r drws nesaf. Ond sylweddola Susanna sut gall hyn weithio'r ffordd arall hefyd, gan roi 'mynediad rhwydd' i'r Iarll i'w hystafell wely, a hithau...heb fod mewn sefyllfa ddelfrydol mewn cyfnod o fraint aristocrataidd!

Roedd y cyfnod y cyfansoddodd Mozart yr opera Figaro (a The Magic Flute, sy'n cynnwys islifau gwleidyddol drwy ei symbolaeth Masonaidd) yn un o derfysgoedd gwleidyddol mawr y byd, gyda Rhyfel Annibyniaeth America (sef y Rhyfel Annibyniaeth) a soniwyd amdano uchod a'r Chwyldro Ffrengig yn digwydd. Lledaenodd yr anfodlonrwydd gyda'r dosbarthiadau 'uchaf', y dosbarthiadau llywodraethol, o un wlad i'r llall, gan arwain at ysgytwad i'r statws cymdeithasol traddodiadol yr oedd rhyfeloedd o'r fath yn eu hysgogi. Roedd y cyfnod hefyd yn nodi dechrau'r galw am ddiddymiad caethwasiaeth, yn ogystal â'r Chwyldro Diwydiannol. Felly roedd hwn yn chwyldro o fath gwahanol, ond un a wnaeth hefyd altro yn ddiwrthdro bywoliaethau a bywydau'r dosbarth gweithiol.

Roedd strwythurau cymdeithasol traddodiadol yn cael eu herio ar bob lefel ac roedd Mozart yn chwarae i hynny gyda'i opera boblogaidd, The Marriage of Figaro, y comedi â chydwybod gymdeithasol.