Adnabyddir Cymru fel Gwlad y Gân ers cyn cof, ac mae rheswm am yr enw da yma. Gyda hanes cyfoethog o ganu corawl, Corau Meibion ac enwogion fel Tom Jones, Katherine Jenkins a Charlotte Church, mae'n debyg nad yw’n syndod bod cyfran deg o ddawn operatig wedi tarddu o Gymru dros y blynyddoedd. Rydym ni wedi rhestru rhai o Sêr Opera Cymru eisoes, a dyma'r rhai nesaf ar ein rhestr.
Y cyntaf ar y rhestr heddiw yw Mostyn Thomas, bariton a aned yn y Blaenau, Sir Fynwy ym 1896. Fel llawer o ddynion ifanc a aned ar ddiwedd y 19eg ganrif yng Nghymru, aeth Thomas i weithio yn y pwll glo lleol yn ifanc. Darganfuwyd llais anhygoel Mostyn yn Eisteddfod Rhydaman, a daeth cymuned y Blaenau ynghyd i gasglu arian i'w anfon i'r theatr enwog La Scala ym Milan i gael hyfforddiant ffurfiol. Ym 1929 gwnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf fel Tonio yn opera glasurol Leoncavallo, Pagliacci. Perfformiodd hefyd y gân werin draddodiadol Gymreig 'Dafydd y Garreg Wen' yn narllediad cyntaf y BBC yng Nghymru yn 1923, y person cyntaf i ganu cân Gymraeg ar y radio.
Mae’r bariton Jeremy Huw Williams, a aned yng Nghaerdydd, yn ddehonglwr arall gwych o ddawn leisiol Cymru. Perfformiodd Williams am y tro cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn rôl Guglielmo yn Così fan tutte Mozart, ac aeth yn ei flaen i berfformio mwy na 60 o rannau operatig ar draws y byd. Oddi ar y llwyfan, mae Williams wedi dod yn artist recordio toreithiog, ac wedi rhyddhau dros 10 CD, ac mae'n perfformio gweithiau cyfansoddwyr Cymreig, megis Alun Hoddinott, William Mathias a Mansel Thomas yn rheolaidd. Ymddangosodd fel prif leisydd gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru ar noson agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru, ac yn fuan wedi hynny enillodd wobr gyntaf Syr Geraint Evans gan Urdd Cerddoriaeth Cymru, i gydnabod ei gyfraniad sylweddol i gerddoriaeth yng Nghymru.
Yr olaf ar ein rhestr heddiw yw'r bariton Roderick Jones, a berfformiodd i Sadlers Wells ac Opera Cenedlaethol Cymru ym mlynyddoedd cynnar y Cwmni. Ganed Jones i deulu glofaol ym 1910 a gadawodd i astudio yn y Royal Academy of Music. Fodd bynnag, amharodd yr Ail Ryfel Byd ar ei astudiaethau a gadawodd fyd addysg i wasanaethu yn y Llynges Frenhinol. Ar ôl i'r rhyfel ddod i ben, cyflogwyd Jones gan Sadlers Wells lle perfformiodd yn ei opera broffesiynol gyntaf fel Balstrode yn y perfformiad cyntaf erioed o Peter Grimes, Britten. Aeth ymlaen i ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru yn 1951 ac yno y bu am weddill ei yrfa. Ar ôl ymddeol, aeth Jones ymlaen i ddysgu yn Ysgol Gerdd Jamaica a Choleg Prifysgol Aberystwyth.
Nid dynion o'r gorffennol yn unig yw dynion operatig Cymru. Bydd y tenor a aned yn Sir Benfro, Trystan Llŷr Griffiths yn perfformio rhan Tamino yng nghynhyrchiad newydd sbon y Tymor hwn o The Magic Flute, Mozart. Bydd nifer o gantorion Cymreig fel Jeffrey Lloyd-Roberts, Mark Llewelyn Evans ac Artist Cyswllt WNO, Dafydd Allen, yn mynd i’r afael â’n hopera newydd sbon, Blaze of Glory! Bydd y perfformwyr Cymreig hyn i gyd i'w gweld y Gwanwyn hwn.