Newyddion

Rôl Blaenwr y Gerddorfa

14 Ebrill 2020

Pa un ai eich bod yn mynychu un o'n hoperâu neu gyngerdd gan Gerddorfa WNO, os cyrhaeddwch eich cadair yn gynnar byddwch yn gweld a chlywed aelodau o'r Gerddorfa yn gosod eu hunain ac yn tiwnio eu hofferynnau.  Cyn i'r Arweinydd gymryd ei le ar y podiwm, bydd Blaenwr y Gerddorfa yn dod â'r holl gerddorion ynghyd yn barod ar gyfer y perfformiad - ond beth yn union mae Blaenwr y Gerddorfa yn ei wneud? Gofynasom i David Adams, Blaenwr Cerddorfa WNO ers Awst 2009, i egluro mwy.

'Rôl fwyaf amlwg Blaenwr y Gerddorfa yw cyfathrebu gyda'r arweinydd yn ystod yr ymarferion i helpu'r Gerddorfa gyflwyno eu syniadau a'u perfformio nhw yn y modd y gwnaethant eu dychmygu. Mae'n effeithio fwyaf ar y llinynnau, ond gall effeithio ar weddill y Gerddorfa hefyd. Efallai mai mater o newid marc y bwa ydyw, neu sicrhau bod pawb wedi deall y syniad ac yn ei berfformio yn yr un ffordd.'

Yn ogystal â gwylio'r arweinydd, mae'r cerddorion hefyd yn cadw llygad ar flaenwr y Gerddorfa - gan nad yw'r arweinydd yn gwneud sŵn, yn aml bydd y Gerddorfa yn gwneud sŵn dan arweiniad blaenwr y Gerddorfa. Mae llawer o eithriadau i hyn, yn dibynnu ar y cyd-destun a'r arweinydd, ond mae'n elfen hanfodol o fewn y rôl.

Fel gyda'r holl brif chwaraewyr yn y Gerddorfa, bydd gan y blaenwr nifer o unawdau i'w perfformio, gyda rhai ohonynt yr un mor heriol â repertoire concerto unigol er eu bod nhw'n fyrrach gan amlaf, gyda lwc! Mae'n bwysig bod yr unawdau ar y lefel uchaf.

Bydd gan bob Cerddorfa ei set o ddelfrydau ei hun, yn dibynnu ar y repertoire a'r rhaglen mae'n ddarparu. Mae Cerddorfa WNO yn gofyn am hyblygrwydd o ran mynegiant, dealltwriaeth o addasu at ffurfiau gwahanol a ffordd benodol o wrando a siapio brawddegau i gefnogi'r cantorion, ynghyd â phethau eraill. Mae'n bwysig i'r arweinydd osod esiampl a chynnal yr egwyddorion a'r delfrydau hyn.

Mae'r cyfrifoldebau y tu allan i berfformio yn gyffelyb i'r prif gerddorion eraill, cynnal ymarferion adrannol, eistedd ar banelau clyweliadau, cynrychioli'r Gerddorfa mewn derbyniadau a seremonïau. Bydd y blaenwr hefyd yn ymgynghori ar drefnu ymarferion, cynllunio, repertoire a dewis arweinyddion.

Mae gan Gerddorfa WNO amrywiaeth eang o berfformiadau. Ynghyd â'n hopera raddfa fawr, rydym yn perfformio nifer o gyngherddau drwy gydol y Tymor. Mae gennym hefyd ein taith Fiennaidd a chyngherddau 'annibynnol' eraill (heb arweinydd), gwahoddiadau i wyliau a all gynnwys amrywiaeth o gyngherddau cerddoriaeth gemau fideo, galâu Opera, cyngherddau cerddoriaeth siambr fach, cyngherddau cerddorfa llinynnau neu chwyth yn yr un wythnos, ac wrth gwrs, gwaith allgymorth sy'n aml yn cynnwys cyngherddau i Ysgolion neu Deuluoedd gyda'r Gerddorfa lawn. Mae bob un o'r prosiectau yn gofyn i mi chwarae rôl wahanol, yn aml oherwydd y repertoire yn ogystal â'r ffordd yr arweinir y prosiect.

Rwy'n ddigon ffodus i allu cyfarwyddo nifer o gyngherddau o'r ffidil bob Tymor, sy'n cynnwys paratoadau ychwanegol, sylweddol. Mae dewis rhaglen yn cymryd cryn dipyn o amser, heb ystyried ei ddysgu a'i baratoi ar gyfer yr ymarferion a chyngherddau, ond mae'n rhywbeth rwy'n mwynhau'n fawr, a'r syniad yw ein bod ni, y Gerddorfa, yn dysgu i fod yn annibynnol yn ystod y prosiectau hyn, sy'n wych ar gyfer ein hyder a chydweithio.'

Darllenwch fwy am Gerddorfa WNO yma