Sut beth yw bod yn aelod o gerddorfa, yn enwedig yma yn Opera Cenedlaethol Cymru? Rhaid i aelodau Cerddorfa WNO deimlo’r un mor gartrefol ar y llwyfan yn perfformio cyngerdd ag y gwnân nhw wrth eistedd ym mhwll y gerddorfa ar gyfer tymor o operâu. Ond beth yn union y mae hyn yn ei olygu? Pa arferion a phrosesau a gaiff eu dilyn – arferion a phrosesau nad ydym ni, y gynulleidfa, yn ymwybodol ohonyn nhw? Er mwyn taflu goleuni ar hyn buom yn siarad â Róisín Walters, Prif Chwaraewr Ail Feiolin WNO, a Lucie Sprague, Pennaeth Adran Obo WNO, i ddysgu rhagor am rai o’r cyfrinachau sy’n perthyn i fod yn aelod o Gerddorfa WNO.
Efallai eich bod wedi sylwi yn isymwybodol ar y ffaith nad yw aelodau o’r Gerddorfa yn gallu gweld yr hyn sy’n digwydd ar y llwyfan pan fyddan nhw’n canu eu hofferynnau yn ystod perfformiad opera. Golyga hyn y bydd nifer ohonyn nhw heb weld ein cynyrchiadau o gwbl, hyd yn oed wrth inni ymarfer. Dywed Róisín: ‘Yn ystod y broses ymarfer mae yna rai adegau doniol pan fyddwch chi’n perfformio’r gerddoriaeth fwyaf anhygoel a gyfansoddwyd erioed ac yn clywed lleisiau swynol yn ffrydio i lawr oddi fry, ac yna yn sydyn fe glywch chi lais o rywle yn dweud rhywbeth tebyg i “rhaid inni ailddechrau, mae rhai o’r merched wedi mynd yn sownd yn y garej”!’
Cafwyd esboniad gan Róisín ynglŷn â phroses ddiddorol arall hefyd, sef yr hyn sy’n digwydd pan fydd rhywun yn torri llinyn wrth berfformio: ‘Bydd pwy bynnag sydd wedi torri llinyn yn pasio’r offeryn i’r ‘chwaraewr mewnol’ agosaf – sef yr aelod hwnnw o’r ddesg sy’n eistedd bellaf oddi wrth y gynulleidfa [‘desg’ yw dau gerddor yn rhannu stand miwsig], ac yna fe fyddan nhw’n cyfnewid offerynnau. Wedyn, bydd y chwaraewr mewnol yn troi i wynebu’r cerddor sy’n union y tu ôl iddo, ac yn cyfnewid offerynnau. Bydd hyn yn parhau hyd nes y bydd yr offeryn y torrwyd un o’i linynnau wedi cyrraedd cerddor sydd mor agos â phosibl at allanfa’r llwyfan. Bydd y cerddor hwnnw yn picio allan i newid y llinyn ac aildiwnio’r offeryn, ac yna bydd y broses cyfnewid offerynnau yn digwydd eto o chwith hyd nes y bydd pawb wedi cael eu hofferynnau gwreiddiol yn ôl.’
Fel mae’n digwydd, Lucie, fel Pennaeth Adran Obo, sy’n chwarae’r nodyn tiwnio ar gyfer y Gerddorfa ar ddechrau’r perfformiad, ar ôl yr egwyl a hefyd, o dro i dro, rhwng gwahanol ddarnau. ‘Yn WNO, fe fydda i’n chwarae tri nodyn A gwahanol: un ar gyfer yr offerynnau chwyth a’r offerynnau pres, un ar gyfer yr offerynnau llinynnol isaf ac un ar gyfer yr offerynnau llinynnol uchaf. Go brin eich bod yn gwybod fy mod yn defnyddio dyfais o’r enw ‘peiriant tiwnio’ i wneud yn siŵr fy mod yn chwarae’r un traw yn union bob tro. Yn WNO, rydym yn tiwnio ar sail A 440hz, tra mae cerddorfeydd Ewrop yn tiwnio yn ôl traw uwch, hyd at 443hz o dro i dro.’
Un o’r pethau mwyaf rhyfeddol yw’r ffaith ei bod hi, fel oböydd, yn gwneud ei chyrs ei hun: ‘Mae hon yn broses faith sy’n golygu cafnio, siapio a chrafu darnau o fambŵ. Er fy mod yn gwneud pob corsen trwy ddilyn yr un broses, rydw i’n teilwra pob un i weddu i repertoire pob perfformiad.’
Mae Lucie yn esbonio sut y mae aelodau’r Gerddorfa yn cyrraedd ar ddechrau’r cyfnod ymarfer – boed hynny ar gyfer opera neu gyngerdd – a hwythau wedi paratoi eu darn unigol eu hunain yn drylwyr. Wedyn, ‘wrth ddarllen trwy repertoire newydd am y tro cyntaf, gallwn chwarae’r nodau yn barod. Yn ystod y broses ymarfer, gallwn ganolbwyntio ar fanylion y repertoire, gan ddatgymalu pethau a’u rhoi’n ôl at ei gilydd unwaith eto, a gorffen gyda pherfformiad caboledig.’
Wel, rydych bellach wedi dysgu un neu ddau o bethau am yr hyn sy’n digwydd cyn i’r arweinydd gamu ar y podiwm. Beth am werthfawrogi hyn oll yn y cnawd gyda Cherddorfa WNO yng Nghyngerdd Clasurol Caerdydd yn Neuadd Dewi Sant neu ymuno â ni wrth inni gychwyn ar ein taith nesaf yn y gwanwyn.