Newyddion

Trystan Llŷr Griffiths; Caneuon o’r galon

11 Gorffennaf 2023

Yr haf hwn, bydd Cerddorfa WNO yn mynd ar daith gyda Cerddoriaeth o’r Galon. Fe fydd y noson yn llawn o’r alawon opera mwyaf rhamantus a swynol a gyfansoddwyd erioed, a’r nod fydd cynhyrfu emosiynau a chyfleu cariad, trachwant a chystudd calon dwfn. Cawsom air gyda’r tenor a’r unawdydd Trystan Llŷr Griffiths a fydd yn ymuno â Cherddorfa WNO a’r soprano Nadine Benjamin ar y daith, er mwyn gweld pa ganeuon sy’n agos at ei galon ef.

Una furtiva lagrima o The Elixir of Love 

All neb anghofio’i aria gyntaf, a dyna pam mae gan y darn hwn le mor arbennig yng nghalon Trystan. Ysgrifennwyd Una furtiva lagrima  gan y cyfansoddwr Gaetano Donizetti. Mae’r aria yn sôn am y cariad sydd gan Nemorino tuag at Adina. Mae Nemorino yn prynu diod serch ac mae Adina yn ei hyfed, ac wrth i’r ‘deigryn dichellgar’ ymddangos yn ei llygaid, mae Nemorino yn credu ar gam bod y ddiod yn gweithio. 

Intermezzo o Cavalleria rusticana 

Dyma gampwaith cerddorfaol, a gynhwysir yng nghanol yr opera un act gan Pietro Mascagni. Gwelir bod y darn yn llawn hiraeth, traserch a chariad a’i fod wedi esgyn ymhell y tu hwnt i’w wreiddiau. Caiff ei gynnwys yn rheolaidd ymhlith y darnau cerddorol hyfrytaf a gyfansoddwyd erioed. I Trystan, mae ystyr lawer dyfnach a mwy personol yn perthyn i’r darn: ar ddiwrnod eu priodas, cerddodd gwraig Trystan at yr allor i gyfeiliant y gerddoriaeth hynod hardd hon.

Nadolig o’r Newydd 

Bydd lle arbennig i’r darn hwn yng nghalon Trystan bob amser. Cyfansoddwyd y gân i ddathlu Nadolig cyntaf ei ferch yn 2019, ac mae’n disgrifio sut y newidiodd safbwynt ac emosiynau Trystan ynglŷn â’r ŵyl ar ôl iddo ddod yn dad am y tro cyntaf. Mae’r geiriau, a ysgrifennwyd gan y bardd Cymraeg enwog Ceri Wyn Jones, yn cyd-fynd â cherddoriaeth dragwyddol Caradog Williams.

O soave fanciulla o La bohѐme 

Dywedir mai’r opera hon yw un o’r operâu mwyaf rhamantus a thorcalonnus a gyfansoddwyd erioed, ac mae’r ddeuawd yma’n cyfrannu’n fawr at hyn. Mae cerddoriaeth ogoneddus Puccini yn adrodd hanes dau gariad sy’n cyffesu eu cariad tuag at ei gilydd yn fflat oer Rodolfo ym Mharis. Mae O soave fanciulla yn cyfleu chwant a dymuniad i’r dim, ac mae hanes y cariad cynyddol hwn wedi bod yn ffefryn drwy gydol yr ugeinfed ganrif ac yn rhywbeth nad oes wiw i selogion cerddoriaeth glasurol ei golli. Gyda llaw, gallwch glywed Trystan a Nadine yn perfformio’r campwaith hwn yn ystod y daith Cerddoriaeth o’r Galon.

Llanrwst

Mae’r darn hwn yn un o hanfodion y repertoire Cymreig – hoff gân Gymraeg Trystan. Cyfansoddwyd y gân gan Gareth Glyn, y cyfansoddwr blaenllaw, ar gyfer geiriau a ysgrifennwyd gan ei dad, y bardd T Glynne Davies. Mae’n sôn am Lanrwst yng Ngogledd Cymru, sef y fan lle ganwyd T Glynne Davies, ac yn y geiriau cawn glywed ei gariad at y lle a’i ddyhead i ddychwelyd yno.

Bydd Cerddoriaeth o’r Galon ar daith tan ddydd Iau 20 Gorffennaf. Peidiwch â cholli eich cyfle i fwynhau noson ramantus yn llawn ffefrynnau cerddorol, gyda Trystan Llŷr Griffiths, Nadine Benjamin a Cherddorfa WNO yn perfformio a Matthew Kofi Waldren yn arwain.