Newyddion

Tymor RHYDDID- archwilio'r themâu

7 Mawrth 2019

Mae'r perfformiadau ar y llwyfan yn ein Tymor RHYDDID yn archwilio ystod eang o bynciau, o drosedd a chyfiawnder i fewnfudo a gormes. Gan fod y themâu hyn yn dal i fod mor berthnasol, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol, rydym wedi trefnu rhaglen gyfan o ddigwyddiadau o gwmpas y Tymor i ganiatáu i bobl ddod draw ac archwilio'r pynciau yn fwy manwl.

Yn dechrau ar ddydd Llun 3 Mehefin bydd yna gyfres o sgyrsiau, trafodaethau a dadleuon yn cael eu cynnal i edrych ar rai o'r materion a godir yn yr operâu ac i ddangos sut y maent yn dal i effeithio ar gymaint o bobl heddiw. Rydym wedi trefnu nifer o arbenigwyr proffil uchel yn eu meysydd i gadeirio'r sesiynau hyn, ynghyd â phanelwyr a all ychwanegu eu profiadau eu hunain a chymryd cwestiynau o'r llawr. Mae WNO yn gweithio gyda chyfres o bartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i gyflwyno a llywio'r digwyddiadau hyn: Amnesty International, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd, Canolfan Celfyddydau Chapter, Comisiynydd Plant Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Oasis Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

Byddem yn eich annog i gymryd rhan yn y digwyddiadau hyn a thyrchu’n ddyfnach i bynciau, megis caethwasiaeth fodern, rhyddid i lefaru, ymgyrch Croeso i Ffoaduriaid Amnesty International, trosedd a chyfiawnder a hawliau plentyn lle gallwch ddarganfod y gwaith sy'n cael ei wneud yn lleol yn y meysydd hyn yn ogystal â chael gwybod mwy am y sefyllfa fyd-eang.

Rhan arall o'r Tymor RHYDDID yw arddangosfa drochol, sy'n defnyddio rhith-wirionedd, realiti estynedig a ffilm i roi cipolwg i chi ar y storïau dynol y tu ôl i'r penawdau. Bydd pum profiad yn cael eu lleoli yng nghyntedd Canolfan Mileniwm Cymru, a fydd yn rhoi profiadau unigryw i ymwelwyr o fydoedd gwahanol iawn. Cewch gyfle i fod yn gymeriad sy'n gorfod gwneud penderfyniadau tyngedfennol (Terminal 3); edrych ar y byd trwy lygaid un o oroeswyr yr Holocost (The Last Goodbye), a gweld sut mae bachgen ysgol y mae ei fywyd wedi cael ei droi wyneb i waered gan y rhyfel wedi creu gweledigaeth anhygoel ar gyfer y dyfodol (Future Aleppo). Yna mae gennym dau ddarn o waith hollol newydd: mae WNO wedi ymuno â BBC Cymru Wales i weithio ar osodiad trochol arbennig a ysbrydolwyd gan straeon personol ffoaduriaid sydd wedi teithio i Gymru.  Mae Carys Lewis, Gwneuthurwr Ffilm Preswyl WNO, wedi bod yn gweithio gyda'r artist o Syria, Kinana Issa, i gynhyrchu ffilm ar y themâu o ryddhad a chaethiwed.

Bydd WNO hefyd yn gweithio gyda phlant ysgol lleol ar brosiect a ysbrydolwyd gan Mohammed Kteish, a wnaeth greu Future Aleppo, i gyflwyno eu barn o Gaerdydd yn y dyfodol. Bydd y plant yn cael y cyfle i siarad â Mohammed trwy gyswllt fideo ac yna'n cael gweld eu syniadau yn dod yn fyw mewn rhith-wirionedd.

Rydym hefyd yn falch i ddod â'r arddangosfa The Girls of Room 28 i Gaerdydd, hwn fydd y tro cyntaf i'r arddangosfa gael ei dangos yn y DU. Crëwyd yr arddangosfa i gofio am grŵp o ferched a lofruddiwyd yn yr Holocost, cafodd ei dylunio gan eu ffrindiau a oroesodd i gofnodi eu profiadau yn ystod y cyfnod y cawsant eu dal yn gaeth ac i ddathlu'r oedolion a fu'n gofalu amdanynt.

Ymunwch â ni i gael golwg ar y straeon y tu ôl i'r straeon yn ein perfformiadau clasurol a chyfoes yn y Tymor RHYDDID. Bydd tocynnau ar gyfer yr holl ddigwyddiadau yn mynd ar werth ar 11 Mawrth.