Newyddion

Diwrnod San Ffolant yn WNO

14 Chwefror 2019

Dethlir Gŵyl San Ffolant, sy'n fwy adnabyddus fel Dydd San Ffolant, ar 14 Chwefror a dyma'r achlysur lle bydd cariadon yn dangos eu cariad tuag at ei gilydd gydag anrhegion rhamantus megis blodau, siocled ac wrth gwrs, tocynnau opera. Dyma'r diwrnod perffaith, felly, i egluro ac archwilio'r perthnasau amrywiol yn ein Tymor y Gwanwyn 2019. Gall perthnasau rhwng cymeriadau gwahanol mewn unrhyw opera fod yn hynod gymhleth, a allai wneud y themâu a'r straeon yn anodd eu dilyn, yn arbennig os ydych chi'n newydd i opera.

Yn awyddus i chi gael y profiad gorau posibl gydag WNO, dyma ein mewnwelediad i'r perthnasau amrywiol yn ein Tymor y Gwanwyn 2019 torcalonnus. 


Un ballo in maschera

Mae Riccardo yn arweinydd gwleidyddol sydd wedi'i ddieithrio ei hun rhag nifer o'i gefnogwyr. Yn dawel fach mae mewn cariad ag Amelia, gwraig ei gyfaill agosaf a'i gynghorydd, Renato, sydd wedi rhybuddio Riccardo o gynllwyn yn ei erbyn.  Yn dilyn gorchymyn i weithredu yn erbyn Ulrica (sipsi sy'n dweud ffortiwn), rhy Oscar (cynorthwyydd Riccardo) amddiffyniad ysbrydol o'r ddynes sy'n gwneud i Riccardo ymweld â'i chartref. Pan mae Ulrica yn proffwydo newid yn lwc Silvano (llongwr ifanc), daw Riccardo, sydd yn gwisgo cuddwisg, â'r holl beth yn wir drwy roi dogfen ddyrchafiad yn ei boced. Yn ystod yr un noswaith, mae Amelia yn ymweld ag Ulrica ac yn cyfaddef ei chariad euog tuag at Riccardo, mewn sgwrs a glywir gan Riccardo. Pan mae Renato yn dod i wybod am y brad hwn, mae'n benderfynol o ddial ac ymuna â'r grŵp o cynllwynwyr (a arweinir gan Samuel a Tom) sy'n penderfynu mai'r ffordd orau iddynt wneud hynny yw drwy gael gwared ar Riccardo. Yn y ddawns fygydau, tery Renato yr ergyd angheuol ac mae Riccardo, gyda'i anadl olaf, yn protestio diniweidrwydd Amelia ac yn maddau i'w gyfaill.


The Magic Flute 
Caiff Tamino ei achub rhag sarff gan Dair Boneddiges ryfedd (gweision i Frenhines y Nos). Mae'n cyfarfod â Papageno, daliwr adar, ac anfonir y ddau i achub Pamina (merch Brenhines y Nos), sydd wedi'i herwgipio a'i charcharu gan Sarastro (Offeiriad yr Haul). Gyda ffliwt hud a set o glychau hud i'w hamddiffyn, cânt eu harwain i deml Sarastro gan Dri Bachgen. Daw Tamino ar draws y Llefarydd (dirprwy Sarastro) sy'n dweud wrtho nad yw Sarastro y dyn drwg y gwnaethpwyd iddo feddwl. Yn y cyfamser, daw Papageno o hyd i Pamina ac mae'n ei helpu hi i ddianc rhag Monostatos (Pennaeth caethweision Sarastro). Mae Sarastro yn caru Pamino yn fwy nag y dylai ond mae'n deall ei bod hi'n caru Tamino ac felly mae'n gwahodd Tamino i ddod yn aelod newydd o'i frawdoliaeth, gan wneud iddo ymgymryd â chyfres o brofion i brofi ei fod yn ddigon da ar gyfer cariad Pamina. Yn y deml, daw Papageno o hyd i'w gariad, Papagena, un o weision Sarastro sydd wedi'i chuddio fel hen ddynes.


Roberto Devereux

Er mwyn amddiffyn ei henw da ei hun, mae Brenhines Elisabeth I (a adnabyddir fel Elisabetta yn yr opera) wedi anfon ei hannwyl Roberto Devereux (Iarll Essex) ar genhadaeth filwrol i'r Iwerddon. Yn ei absenoldeb mae'r Arglwydd Cecil a'i chynghorwyr eraill, sy'n genfigennus mai ef yw ffefryn y Frenhines, yn manteisio ar y cyfle i wneud cyhuddiad o frad yn ei erbyn yn y Senedd. Yn ddiarwybod i'r Frenhines, mae Devereux dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â Sara (Duges Nottingham), sydd yn ei absenoldeb wedi'i gorfodi i briodas ddigariad gyda Nottingham (ei gyfaill a'i gefnogwr). Yn ddiweddarach, mae Sara a Devereux yn cyfaddef eu cariad at y naill a'r llall ond yn cydnabod nad oes dyfodol iddynt. Mae'n ymddiried ynddi â modrwy'r Frenhines (a roddwyd iddo i warantu ei ryddid) a rhodda hi sgarff wedi'i brodio iddo. Pan mae Elisabeth yn dod i ddeall am frad Devereux, rhaid i Devereux fynd wyneb yn wyneb â'i ddiwedd anochel a rhaid i'r Frenhines wynebu henaint a marwolaeth ar ei phen ei hun.