Newyddion

Leitmotifau Wagner: Rhodd Fwyaf Wagner i Gerddoriaeth

5 Mai 2026

Mae cynhyrchiad newydd-sbon WNO o The Flying Dutchman nawr ar daith – ac mae ei sgôr fyddarol, socian gyda’r môr eisoes wedi gadael cynulleidfaoedd yn llawn cyffro. Ond o dan y tonnau geirwon a’r alawon ysgubol mae un o adnoddau adrodd stori fwyaf pwerus Wagner: y leitmotif.

Felly, beth yw leitmotif?

Syniad cerddorol mynych yw leitmotif a gysylltir â chymeriad, gwrthrych, emosiwn neu thema arbennig. Gall fod yn ychydig nodau neu’n gymal cerddorol estynedig, ond pan mae’n dychwelyd, rydym yn ei adnabod - mae’n ein hatgoffa ni o sut i deimlo, am bwy mae’n sôn neu beth sydd yn y fantol.

Y cyfansoddwr o’r Almaen, Richard Wagner, sy’n cael y clod am arloesi a datblygu’r dechneg, gan ddefnyddio leitmotifau nid yn unig mewn operâu unigol, ond ar draws cylchoedd aml-opera yn helaeth. Y canlyniad? Cerddoriaeth sydd ddim yn unig yn cyd-fynd â’r ddrama ond yn ei gyrru.

Arloeswr yr Opera

Roedd Wagner yn radical. Ailddychmygodd adrodd straeon operatig drwy arbrofi’n feiddgar gyda llwyfannu, ehangu maint y gerddorfa’n sylweddol a gwthio’r berthynas rhwng y llais a’r gerddorfa i dir newydd. Bwydodd yr arloesiadau hyn i gorff o waith sy’n dal yn flaengar – o The Flying Dutchman a Tristan und Isolde i’r Der Ring des Nibelungen (The Ring Cycle) anferthol, un awr-ar bymtheg, pedair-opera hirfaith wedi’u plethu ynghyd gan we gymhleth o leitmotifau.

Leitmotifau ar y Môr: The Flying Dutchman

Caiff The Flying Dutchman ei hystyried yn eang fel archwiliad mawr cyntaf Wagner o leitmotifau – ac mae ei heffaith yn ddigamsyniol.

Daw’r môr ei hun yn gymeriad. Rhyddid a charchar ar yr un pryd, mae’n grymuso ac yn condemnio. Llwydda Wagner i ddal hyn gyda‘r llinynnau cyflym-iawn sy’n ymchwyddo a chorddi, gan adlewyrchu natur anrhagweladwy’r môr.

Dengys alaw Wagner gyda’r llinynnau cyflym natur anrhagweladwy’r dŵr. Mae gan y Dutchman ei leitmotif ei hun hefyd, a gyflwynir yn syth yn y preliwd. Mae’r thema yn cynnwys llinynnau ac offerynnau pres brys sy’n adlewyrchu anobaith y morwr, gan gyferbynnu â thema deimladwy, ysgafnach Senta ei hun.

Gweithiau eraill Wagner

Yn Tristan und Isolde, defnyddir leitmotifau i gynrychioli emosiwn. Gellir dadlau mai’r enwocaf yw’r Desire leitmotif, sy’n cynrychioli’r dyhead nas cyflawnwyd rhwng y cwpl ac yn awgrymu diweddglo trasig y stori gariad. Mae’n cynnwys y “cord Tristan” anghytsain sy’n ailymddangos drwy gydol yr opera ac mae cyfansoddwyr eraill wedi ei fenthyg i gynrychioli chwant a dyhead. Mae poblogrwydd y cord Tristan yn pwysleisio nad oes yn rhaid i leitmotifau fod yn faith er mwyn bod yn gofiadwy. Mae The Ring Cycle yn cynnwys y Ring leitmotif, sy’n cynrychioli’r fodrwy dan felltith a ddwynodd Brenin y Duwiau gan Alberich y corrach. Caiff ei adnabod gan ei alaw gromatig sinistr sy’n adlewyrchu grym tra llafurus y fodrwy. Mae The Dragon leitmotif hefyd yn amlwg yn ‘Siegfried,’ yr ail o’r pedair opera. Defnyddia Wagner offerynnau pres â thraw isel i arddangos maint a grym y ddraig afrosgo. Cysyllta hyn â thema’r Fodrwy, gan fod y gerddoriaeth yn cynrychioli gafael llwgr y fodrwy dros y ddraig sy’n ei gwarchod.

O Wagner i’r Sgrin Fawr

Ni ddaeth dylanwad Wagner i ben gyda’r opera. Gwelir leitmotifau ym mhob man wrth adrodd straeon modern. O Star Wars, Avengers ac Indiana Jones i gemau fideo fel The Legend of Zelda, Resident Evil a Pokémon Mystery Dungeon, mae themâu cerddorol ailadroddus yn helpu i lunio cymeriad, yn dyfnhau’r tensiwn ac yn gwneud y straeon yn fythgofiadwy.

Dewch i Gael Profiad Byw

Cewch glywed leitmotifau Wagner yn eu holl nerth a’u harddwch yng nghynhyrchiad newydd gwefreiddiol WNO o The Flying Dutchman. Dewch draw i’w gweld ym Mirmingham a Milton Keynes cyn iddi orffen.