Newyddion

Verdi, Verdi a mwy o Verdi...

3 Ebrill 2018

Mae Verdi’n un o gyfansoddwyr mwyaf poblogaidd y byd, ac mae wedi ysgrifennu operâu y gellir eu hadnabod yn syth. Gyda’i felodïau hyfryd a’i straeon cyfareddol, yr oedd – ac mae’n parhau hyd heddiw – yn un o’r cyfansoddwyr mwyaf toreithiog erioed. ‘Does ryfedd, felly, ein bod wedi llenwi 2018 a 2019 â Verdi. 

Roedd Verdi’n werinwr a byddai’n ysgrifennu operâu, nid ar gyfer y beirniaid, ond ar gyfer pawb. Ceir digwyddiad enwog pan wahoddodd Verdi feirniad i ddod i wrando ar ddetholiadau tra’r oedd yn ysgrifennu Il Trovatore. Pob tro y byddai Verdi’n chwarae darn iddo, byddai’r beirniad yn llefain pa mor wael ydoedd. Ond gwenodd Verdi, gan gofleidio’r beirniad a bloeddio;

‘Diolch yn fawr. Rwyf wedi bod yn ysgrifennu opera ar gyfer pobl gyffredin yr Eidal. Petaech chi, y beirniad enwog a hyddysg, wedi ei hoffi, ni fyddai neb arall wedi. Ond os ydych chi’n ei chasáu, mae hynny’n golygu y bydd pawb yn y byd wrth eu bodd â hi!’

Yn ystod Tymor y Gwanwyn 18, cafwyd y cyntaf o’n trioleg newydd sbon o waith Verdi, La forza del destino, sydd wedi bod yn llwyddiannus hyd yma ac wedi cael adolygiadau pedair a phum seren. Mae’n cynnwys un o’i agorawdau enwocaf y gellir eu hadnabod yn syth, sydd wedi cael eu defnyddio’n helaeth – o sgoriau ffilmiau clasurol (Jean de Florette) i hysbysebion ‘calonogol ddrud’; efallai y byddwch yn cofio rhai ohonynt, megis yr un isod.

Croesawyd yn ôl Mary Elizabeth Williams a’r tenor o Gymru, Gwyn Hughes Jones, ar gyfer ein cynhyrchiad; ac am gampwaith ydoedd. Mae’r cynhyrchiad yn waith ar y cyd â Theater Bonn a bydd y set yn cael ei hailddefnyddio a’i gweddnewid y flwyddyn nesaf ar gyfer ail ran y drioleg.  

Yn Nhymor y Gwanwyn 2019, byddwn yn cyflwyno Un ballo in maschera, sy’n seiliedig stori go iawn y Brenin Gustav III o Sweden a gafodd ei lofruddio. Mae’n opera sy’n ‘gwneud beth mae’n ei ddweud ar y tun’: y cyfieithiad o’r teitl (Eidaleg) yw ‘Dawns Fygydau’, felly mae’r ddrama’n datblygu mewn dawns fygydau. Yn wreiddiol, roedd fersiwn gyntaf Verdi wedi’i lleoli yn Sweden ym 1792, ond oherwydd y dadleuon gwleidyddol ynghylch hyn, fe symudodd leoliad yr opera i Unol Daleithiau America. 

I barhau â’n carwriaeth gyda Verdi, byddwn yn atgyfodi ein cynhyrchiad o La traviata yn Nhymor yr Hydref 2018, gan fynd â chi yn ôl i Baris yn y 18fed ganrif lle mae’r prif gymeriad Violetta, putain llys ym Mharis, yn cynnal parti. Mae hon yn un o operâu mwyaf adnabyddus Verdi ac mae’r plot wedi cael ei ddefnyddio fel ysbrydoliaeth ar gyfer y ffilm gerddorol Moulin Rouge. Yn ogystal â dylanwadu ar y stori ei hun, maent yn cyfeirio at La traviata yn y ffilm Pretty Woman – dyma’r opera y mae Edward yn mynd â Vivian i’w gweld ac mae’r gerddoriaeth o’r opera’n cael ei defnyddio yng ngolygfa olaf y ffilm. 

Yn wir, fe welwch fod dylanwad cerddorol Verdi wedi lledaenu tu hwnt i fyd opera, i mewn i ddiwylliant poblogaidd. Dyna un yn unig o’r rhesymau pam rydym yn hyrwyddo Verdi.