Newyddion

Opera Cenedlaethol Cymru - Heddiw

29 Ebrill 2021

Wedi i ni edrych yn ôl ar darddiad Opera Cenedlaethol Cymru, dyma ni'n dychwelyd at y presennol i weld sut mae'r Cwmni yn datblygu yn y 21 ganrif.

Yn 2021, mae Prydain a'r byd mewn 'rhyfel' o fath arall: mae dros flwyddyn o bandemig byd-eang wedi cael canlyniadau enfawr. Mae'r celfyddydau wedi cael ergyd fawr: y pethau sy'n cysuro ac yn codi calon, sy'n meithrin yr enaid i nifer, wedi'u cau. Ac eto...mae WNO wedi addasu a datblygu perfformiadau digidol a ffyrdd diogel o gwrdd, ymarfer a pherfformio gyda'i gilydd.

Er y dechreuodd Opera Cenedlaethol Cymru fel grŵp bach o gantorion amatur yn ymarfer mewn capel Methodistaidd yng nghanol y 1940au, 75 mlynedd yn ddiweddarach, mae'n Gwmni byd-enwog sydd â 90 o gantorion a cherddorion proffesiynol a 250 o staff rheoli, gweinyddol a chymorth.

Mae gan Gerddorfa WNO safiad rhyngwladol mawr gyda dros 50 o gerddorion proffesiynol, tîm rheoli a chymorth o 12 staff, yn perfformio cyngherddau ac operâu yn rheolaidd ledled Cymru, Lloegr a dramor. Mae 16 o gerddorion wedi bod yn chwarae yng Ngherddorfa WNO ers dros 20 mlynedd.

Mae Corws WNO wedi cynnal ei enw da byd-enwog dros nifer o flynyddoedd. Ers y dyddiau o gantorion amatur gwirfoddol yn perfformio yn Sadler's Wells, Llundain yn gynnar yn y 1950au, mae'r Corws wedi datblygu canmoliaeth fawr a chlod gan gynulleidfaoedd. Addas yw y dylai cwmni opera sydd wedi'i seilio ar ganu Cymraeg gael un o'r Corysau opera uchaf eu parch yn Ewrop, gyda bron i 40 o gantorion proffesiynol llawn amser, y mae chwech ohonynt wedi bod gyda ni ers dros 20 mlynedd. Caiff y Corws ei gefnogi gan bum aelod o staff llawn amser a Meistr Corws.

O'r dyddiau cynnar pan oedd gwirfoddolwyr yn gwnïo eu gwisgoedd eu hunain ac yn peintio golygfeydd dros dro, bellach mae gan WNO ei gwmni adeiladu golygfeydd ei hun, sef Gwasanaethau Theatraidd Caerdydd, a gafodd ei sefydlu yn 1984. Yn ogystal, mae gan WNO adran Wisgoedd bwrpasol, a thimau Propiau, Gwisgoedd ar Daith, a Wigiau a Cholur. Mae hyn oll yn cyfuno i'n gwneud ni'n gwmni opera teithiol mwyaf Ewrop yn ymweld â 11 o leoliadau mawr a 20 o theatrau llai ledled Cymru a Lloegr: o'n canolfan o'r radd flaenaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Yn ogystal, mae WNO wedi teithio'n helaeth dramor.

Mae logisteg cwmni opera teithiol yn rhyfeddol o ran graddfa mewn cymhariaeth â'r teithiau cynnar. Byddin fach o staff sy'n helpu i symud cynhyrchiad o leoliad i leoliad: mae rheolwyr llwyfan, rheolwyr cwmni, staff cerddoriaeth, gwisgoedd teithiol, tîm wigiau a cholur, seiri, trydanwyr, peirianyddion sain, gyrwyr, technegwyr a llwythwyr oll yn cyfrannu at allu WNO i deithio cynyrchiadau opera mor fawr. Yn ogystal, mae codwyr arian, marchnatwyr a staff gweinyddol yn gweithio y tu ôl i'r llen, yn cynllunio teithiau sydd i ddod ac yn cyfathrebu digwyddiadau ar y gweill gyda'n cynulleidfaoedd.

Dros y blynyddoedd, mae'r gwaith allgymorth yr ydym yn ei wneud gyda'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu wedi tyfu ac esblygu. Mae'r tîm Rhaglenni ac Ymgysylltu yn cynhyrchu ystod enfawr o weithgareddau a digwyddiadau i ymgysylltu â chynulleidfa mor eang ac amrywiol â phosibl: prosiectau digidol; Opera Ieuenctid WNO; Corws Cymunedol WNO; gwaith gydag ysgolion a Hybiau Cymunedol; digwyddiadau Chwarae Opera BYW i deuluoedd; y Côr Cysur i deuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan ddementia; canu mewn ysbytai - rydym wedi trosglwyddo'r rhan fwyaf o'r rhain i fod arlein yn ystod y pandemig.

Mae meithrin doniau ifanc wastad wedi bod yn rhan annatod o WNO. Mae gan y Cwmni bartneriaeth hir â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a'r National Opera Studio. Mae datblygu doniau ifanc yn parhau gyda rhaglen Artistiaid Cyswllt WNO a Chymrodoriaeth y Cyfarwyddwr.

I gwmni opera mawr fel WNO, mae cyllid yn hanfodol; mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr, partneriaid corfforaethol, noddwyr mawr, Ymddiriedolaethau a chronfeydd elusennol, cymynroddion a chymuned lewyrchus Cyfeillion a Phartneriaid WNO oll yn ein helpu ni i gyflawni ein nodau ac rydym yn hynod ddiolchgar.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi esblygu a ffynnu ac wedi addasu i wasanaethu cymunedau gyda'r ffurf ryngwladol hon ar gelfyddyd, sef opera. Ac yn 75 oed, mae WNO mor sionc ac uchelgeisiol ag erioed ac mewn sefyllfa wych i barhau â'i waith gwerthfawr a gwerth chweil am y 75 mlynedd nesaf...