Newyddion

Beth mae Cynhyrchydd WNO yn ei wneud?

7 Hydref 2022

Mae Opera Ieuenctid WNO yn rhaglen hyfforddi clodwiw ar gyfer pobl rhwng 8-25 oed sydd wrth eu bodd â chanu, adrodd storiâu a gwneud ffrindiau newydd. Cawsom sgwrs â Paula Scott sydd wedi bod yn Gynhyrchydd Opera Ieuenctid WNO dros y 16 mlynedd ddiwethaf.

'Rwyf wedi bod ynghlwm â cherddoriaeth ers yn ifanc iawn, gan gymryd rhan mewn cynyrchiadau amrywiol mewn opera a theatr gerdd a chystadlu mewn gwyliau cerdd clasurol. Ar ôl y Brifysgol, hyfforddais ar gwrs 'The Knack' a gweithiais gyda Mary King ar The Bayliss Programme gyda English National Opera, ac yna mynd ymlaen i astudio Theatr Gerdd gyda Mary Hammonds yn y Royal Academy of Music, Llundain. Rwy'n teimlo'n lwcus mod i dal yn gallu gwylio WNO a chynyrchiadau theatr eraill fel rhan o'm swydd.

Fel Cyfarwyddwr, rydych yn gyfrifol am gyfeiriad creadigol cyffredinol eich rhaglen, yn cynnwys dod â'r timau cynhyrchu cywir o weithwyr gorau'r diwydiant at ei gilydd, a darparu cyfleoedd perfformio unigryw sy'n parhau i wthio ffiniau artistig ar gyfer perfformwyr ifanc.

Nid oes y fath beth â diwrnod nodweddiadol, mae'n amrywio yn dibynnu ar yr amserlen. Un diwrnod fe allwn fod yn ymweld â Phropiau WNO, yna'r diwrnod wedyn, rheiliau gwisgoedd cyn yr ymarfer.

Tel rhan o Dymor yr Hydref WNO, bydd Opera Ieuenctid WNO yn perfformio fersiwn newydd o Cherry Town, Moscow, Shostakovich ar Lwyfan Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae'r Cwmni'n cynnwys 40 o berfformwyr ifanc rhagorol 18-25 oed sydd wedi eu dethol o bob rhan o'r DU drwy glyweliad. Mae nifer o'r perfformwyr a'r rhai sydd gyda ni ar brofiad gwaith yn y diwydiant yn cael cefnogaeth grantiau a bwrsariaethau; heb y cymorth ariannol hwn, ni fyddai modd inni recriwtio mor eang na darparu cyfleoedd gyrfa anhygoel i gymryd rhan mewn opera broffesiynol lawn gyda'r fath uchelgais i'r bobl ifanc hyn.

Mae'r tîm creadigol yn cynnwys y cyfarwyddwr Daisy Evans, a gynhyrchodd Don Pasqualei WNO yn gynharach, yr arweinydd Alice Farnham, a arweiniodd Kommilitonen!gan Maxwell Davies a Paul Bunyan gan Britten i Opera Ieuenctid WNO, a'r arbenigwr llais, Mary King.

Tra fy mod wrth fy modd â sawl agwedd ar fy swydd, fy hoff ran yw pan rwy'n mynychu clyweliadau, mewn ymarferion, neu'n gwylio perfformiadau byw. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda'r rhai sy'n cymryd rhan yn yr Opera Ieuenctid gan eu bod yn dod â'r fath egni cadarnhaol i bob ystafell ymarfer ac mae'n bleser gweld sut mae pob unigolyn yn datblygu mewn hyder ac yn adeiladu ar eu sgiliau perfformio.

Mae'n bwysig bod WNO yn gallu darparu llwybr hygyrch i fyd yr opera. Mae Opera Ieuenctid WNO yn croesawu pob cyfranogwr a'r nod yw creu amgylchedd cyfartal i bob aelod. Ein nod yw agor byd o brofiadau a chyfleoedd newydd sy'n hwyliog a chyffrous, ble caiff cyfranogwyr fewnwelediad i weithio gyda chwmni opera proffesiynol a dysgu ynghylch y nifer o lwybrau gyrfa gwahanol sydd ar y llwyfan ac oddi arno, wrth ddatblygu sgiliau a magu hunanhyder.