Newyddion

Beth yw Cyfarwyddwr?

12 Gorffennaf 2022

Pan fyddwch chi’n dod i berfformiad opera gan Opera Cenedlaethol Cymru, byddwch yn gweld ac yn clywed cantorion anhygoel Corws WNO a Gerddorfa bwerus WNO gyda’r Arweinydd yn arwain, ond pwy sy’n dod â phawb at ei gilydd i greu’r perfformiad cyflawn? Siaradom gyda’r cyfarwyddwr Caroline Clegg a fydd yn dychwelyd i WNO ar gyfer ein Tymor y Gwanwyn 2023 i gyfarwyddo Blaze of Glory.

‘Cyfrifoldeb y cyfarwyddwr yw gosod y weledigaeth greadigol ar gyfer yr opera, a helpu’r perfformwyr i ddweud y stori. Rwy’n paratoi cymaint â phosibl cyn ymarferion. Os yw’n ddarn cyfarwydd, rwy’n treulio amser yn gwrando ar y gerddoriaeth i geisio deall y stori a sut mae’r cyfansoddwr wedi ffurfio’r arc gerddorol. Gan ymchwilio’n fanylach, byddaf yn darllen cymaint ag sy’n bosibl ynghylch sut, pryd a pham y cafodd ei ysgrifennu. O ddarllen y stori wreiddiol, beth sydd heb ei gynnwys yn yr opera? Beth yw’r mân newidiadau ar gyfer heddiw? Rwy’n cadw cynyrchiadau eraill mewn cof, rhai da a rhai drwg, ac yn chwilio am rywbeth newydd sy’n berthnasol i gynulleidfa’r 21ain ganrif.

Mae cydweithio ar sioe newydd yn talu ar ei ganfed, a chyfarwyddo yw’r swydd orau yn y byd. Mae comisiwn newydd sy’n archwilio syniadau artistig a rhannu dychymyg yn hynod gyffrous - mae’n debyg i syrffio da. Rydych yn dal ton ac i ffwrdd â chi, ac yna, mae’r gerddorfa’n ymuno. Mae’n anodd disgrifio boddhad oherwydd yn aml mae cyfarwyddwyr yn credu y dylent fod wedi, neu y gallant fod wedi gwneud rhywbeth yn wahanol.

Rwy’n benodol yn mwynhau’r sesiynau goleuo. Mae’r theatr yn dawel a byddwch chi, y dylunydd goleuadau a’r technegwyr yn dod o hyd i’r elfennau golau hudolus sy’n ymateb i’r set, y gwisgoedd a’r gerddoriaeth ac yn dod â nhw at ei gilydd i gwblhau’r matrics adrodd stori. Mae boddhad mawr o weld yr arweinydd a’r cast yn mwynhau eu hunain ar y llwyfan fel tîm agos iawn yn manteisio i’r eithaf ar bob un o’u talentau. Fel coreograffydd yn ogystal â chyfarwyddwr, byddaf yn enwedig yn mwynhau gweithio ar rannau sy’n gofyn am ddawns - mae dod o hyd i’r union dempo ar gyfer y cantorion yn hwyl dda.

Rwy’n mwynhau gwylio ymarferion cerddoriaeth i glywed sut mae’r cantorion yn dehongli’r rolau, a sut mae’r arweinydd yn gweithio gyda nhw. Cyn edrych ar lwyfannu rydym yn trafod yr olygfa’n gerddorol, yna weithiau’n actio’r olygfa heb gerddoriaeth. Gyda darn newydd, mae’n bosibl y bydd y cyfansoddwr hefyd yn dod i’r ymarferion, sy’n golygu y gallwn roi addasiadau ar waith, a bydd y cyfansoddwr, y libretydd, y cyfarwyddwr, y coreograffydd a’r arweinydd oll yn chwarae rhan wrth ddatblygu’r darn. Unwaith y byddwn wedi blocio, bydd Sitzprobe yn cael ei gynnal lle mae’r cantorion yn canu gyda’r gerddorfa am y tro cyntaf cyn mynd ar y llwyfan.

Mae’r cyfarwyddwr yn gadael ar ôl noson y perfformiad cyntaf, ac yn trosglwyddo’r awenau i’r arweinydd a’r cast. 

Gweld y gynulleidfa’n gadael gyda gwên ar eu hwynebau yw’r boddhad mwyaf!

Rwyf wedi cael sawl profiad diddorol yn gweithio ym maes opera, ond rwy’n ymateb orau i heriau. Roedd cyfarwyddo Aida mewn arena â 45,000 sedd, a’r cynhyrchydd yn mynnu ein bod ni’n defnyddio hebog i hedfan o Ramfis i Radames ar 4 bar penodol yn ddiddorol. Afraid dweud, nid oedd yr aderyn yn fodlon. Yn ofalus iawn, roedd rhaid i mi newid y blocio i gadw’r cynhyrchydd, yr aderyn a’r cantorion yn hapus. Mae her yn gyfle i wneud rhywbeth yn wahanol.’