Newyddion

Beth yw disgrifiad sain?

6 Chwefror 2020

Efallai eich bod wedi gweld y logo AD wrth ymyl rhai o'n perfformiadau, ac wedi pendroni tybed beth mae'n ei olygu. Sylwebaeth lafar ar gyfer pobl ddall neu sydd â nam golwg sydd yn mwynhau mynd i'r theatr yw disgrifiad clywedol. Mae'n ceisio gwella hygyrchedd i'r celfyddydau drwy gynnig disgrifiad o'r hyn sy'n digwydd yn weledol ar y llwyfan. Mae WNO wedi bod yn cynnig Disgrifiad Sain, ar y cyd â Gwasanaethau Disgrifiad Sain Sightlines, mewn nifer o leoliadau ers blynyddoedd. Mae hyn wedi galluogi rhai pobl sydd â nam golwg i brofi opera am y tro cyntaf, ac i eraill barhau eu hangerdd at y genre, er gwaetha'r ffaith eu bod wedi colli eu golwg.

Mae aelodau'r gynulleidfa yn dilyn y disgrifiad maent yn ei glywed dros y clustffonau personol a ddarperir. Mae'r disgrifiad yn digwydd rhwng y ddeialog, yn seibiannau naturiol y canu neu'r sgwrs. Wedi ei ddarparu ochr yn ochr â'r perfformiad, mae'r disgrifiad yn llenwi'r bylchau, yn disgrifio mynegiadau wyneb ac iaith y corff, ac yn arwain y gwrandäwr drwy olygfeydd newydd, gwisgoedd, a pherthynas a safle'r cymeriadau. Mae hefyd yn tynnu sylw at arddull y cynhyrchiad, yn cynnig gwybodaeth ynghylch golau, lleoliadau ac awyrgylch, yn galluogi pobl ddall a rhannol ddall i rannu'r profiad gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau.

Mae WNO hefyd yn cynnig Taith Gyffwrdd i gyd-fynd â'r perfformiad, ar gyfer ein cefnogwyr sydd â nam golwg a'u cyfeillion. Wedi ei gynnal cyn y sioe, mae ein Pennaeth Rheolaeth Llwyfan, Julia Carson Sims, yn gwahodd cyfranogwyr ar y llwyfan lle gallant archwilio'r set, gwisgoedd a phropiau.

Rydym wedi derbyn adborth gwych gan bobl a ddaeth i'n perfformiad Disgrifiad Sain o Carmen a'r Daith Gyffwrdd yn yr Hydref: 

It was perfect

adborth gan berson ifanc sydd bellach wedi cofrestru ar raglen ieuenctid WNO

Without the AD it would have meant nothing

Really enjoyed the details that the touch tour provided

Will definitely be coming again for another WNO AD

Thoroughly enjoyable and helpful, will be back for The Marriage of Figaro in the Spring

Os ydych yn adnabod unrhyw un a all elwa o'r gwasanaeth hwn, beth am ddod â nhw i'n cynyrchiadau Gwanwyn? Bydd Disgrifiad Sain i The Marriage of Figaro ar gael yng Nghaerdydd, Southampton, Plymouth, Norwich a Birmingham. Bydd y gwasanaeth hefyd ar gael ar gyfer perfformiad Carmen ym Mryste ac yn Milton Keynes. Mae'r Daith Gyffwrdd am ddim, ond mae gofyn ichi archebu ymlaen llaw, ac mae posib gwneud hynny drwy'r Swyddfa Docynnau pan fyddwch yn archebu eich tocynnau opera.