Newyddion

Beth mae WNO yn ei olygu i mi –Tywysog Cymru

12 Mai 2021

Anfonwyd cyfarchion i ddathlu penblwydd Opera Cenedlaethol Cymru yn 75 oed gan lu o enwau enwog y mis diwethaf, gan gynnwys un cyfrannwr arbennig iawn, ein Noddwr, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.

Mae cysylltiad y Cwmni â’r Tywysog yn dyddio’n ôl i’w arwisgiad, fel y mae’r gyfrol a gyhoeddwyd ar ein penblwydd yn 40 oed yn ei ddisgrifio, (Welsh National Opera gan Richard Fawkes), ‘1969 will be best remembered in Wales, and beyond, as the year of the Investiture of the Prince of Wales. Members of the Voluntary Chorus and Chorale joined with choirs from all over Wales to sing during the ceremony at Carnarvon Castle, and WNO decided to mount two special events to celebrate the occasion. The first of these was a gala performance of Fidelio’.

Yr ail o’r digwyddiadau hyn oedd cynhyrchiad newydd WNO o Falstaff gyda Geraint Evans yn serennu a dywedir bod Y Tywysog wedi mynychu’r perfformiad yng Nghaerdydd ar 14 Hydref.

Daeth Ei Uchelder Brenhinol yn Noddwr i WNO yn 1997, ac mae wedi bod yn gefnogwr ardderchog ers hynny. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae wedi ymuno â ni ar gyfer perfformiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gan gynnwys Die Fledermaus a La forza del destino, gan gwrdd â chantorion, cerddorion a staff yn ystod ei ymweliadau.

Yn ystod ymweliad â La forza del destino yng Ngwanwyn 2018, perfformiodd aelodau o Opera Ieuenctid WNO wrth iddo gyrraedd – profiad gwych ac unigryw i’r bobl ifanc ddawnus.