Newyddion

Yn lle dw i wedi clywed hyn o'r blaen...?

11 Hydref 2019

Mae cerddoriaeth yn aros yn y cof yn fwy na dim byd arall. Mae llawer o ymchwil wedi cael ei wneud i sut mae cerddoriaeth yn deffro atgofion ac yn ein galluogi i gadw gwybodaeth. Mae'r ateb i'r cwestiwn pam eich bod yn cofio alaw fywiog yn well na lle y gadawsoch eich allweddi yn dibynnu ar un peth; amlygiad. Mae cerddoriaeth gefndirol yn treiddio i mewn i'n bywydau bob dydd yn yr archfarchnad, mewn bwytai ac wrth gwrs drwy hysbysebion ar y teledu.

Mae hyn yn golygu ein bod ni weithiau yn canfod ein hunain yn hymian i gân nad ydym yn sylweddoli ein bod yn ei gwybod. Dyma lle mae WNO yn dod i mewn, mae gan opera rai o'r alawon mwyaf cofiadwy yn y byd a'r Tymor hwn mae gennym ddwy opera sy'n cynnwys y gorau ohonynt i gyd. 


Os edrychwch ar IMDb, mae gan Georges Bizet, 418 o gredydau trac sain ar ôl ei enw - swm sylweddol sy'n cwmpasu 27 o ffilmiau gan gynnwys Hip Hopera Beyonce, fersiwn Bollywood BBC 3 a'r sioe gerdd Carmen Jones, pob un yn ail-ddychmygu'r campwaith, Carmen.

Golyga ei hyblygrwydd y gellir ei defnyddio'n eang, meddyliwch am fersiwn y cerddor byd enwog Stromae o Habanera, yn hytrach na chân hudolus daw'r aderyn gwyllt yn symbol o Twitter a'r gymdeithas brynwriaethol yr ydym yn byw ynddi. Fodd bynnag, mae hefyd yn gweithio'n dda iawn mewn comedi - gyda chartwnau ymhlith y gorau o'r rhain. Seliodd Tom and Jerry bennod gyfan arni lle maent yn canfod eu hunain yn arwain yn y Met: defnyddiodd yr Animaniacs hi yn y bennod O Silly Mio ac efallai y bydd selogion Family Guy yn cofio'r adeg pan mae Brian y ci yn closio at fenyw hŷn ar ôl clywed hi'n canu'r aria enwog. 


Yn yr un modd, mae La donna è mobile, Verdi o Rigoletto wedi cael ei haddasu, ei newid a'i hail-greu yn driad o gyfryngau gwahanol. Ni all hysbysebwyr faddau iddi gan ei bod yn aros yn eich cof gan ei gwneud yn arf marchnata gwych. Dyma rai cwmnïau sydd wedi'i defnyddio: Nestlé, chwistrell corff Lynx, pâst tomato Leggo’s a'r hysbyseb Doritos adnabyddus yn y Super Bowl.

Yn y ffilm, The Family Man, mae Nicolas Cage, yn addas iawn, yn perfformio La donna è mobile gan ruthro i mewn drwy'r drysau ar ôl noson o angerdd yn ddim ond ei ddillad isaf; yn union fel y Dug sy'n hoff o fercheta yn yr opera. Mae'n ymddangos mewn nifer o'i ffilmiau megis Captain Corelli's Mandolin, Honeymoon in Vegas, a Guarding Tess.

Ond nid ffilmiau'n unig sydd wedi manteisio i'r eithaf ar yr alaw hwyliog, mae'r byd teledu wedi gwneud yr un fath gyda sioeau fel The Mentalist, Brooklyn 99 a The Simpsons, ac mae rhaglenni teledu realiti yn ei defnyddio hefyd; gan ymddangos ar Dancing with the Stars. Mae hefyd wedi ymestyn i'r gêm fideo hynod boblogaidd Grand Theft Auto.


Gŵyr pawb mai'r ffordd orau o gael gwared ar enwair yn eich clust yw gwrando ar y gân wreiddiol eto. Dewch i weld y Dug yn morio canu La donna è mobile yn ei holl ogoniant gwreiddiol, neu Carmen yn codi'r to gyda'i chân agoriadol gyffrous, Habanera. Yna'r tro nesaf y byddwch yn meddwl 'lle dw i wedi clywed hyn o'r blaen?' byddwch yn gwybod - yn WNO, wrth gwrs.