Newyddion

Chwaraewr Soddgrwth WNO Rosie Biss ar y Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol

1 Hydref 2019

Cawsom sgwrs gyda Rosie Biss, Prif Chwaraewr Adran Soddgrwth Cerddorfa WNO, ynghylch y Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol a gynhelir cyn hir.

Beth ydych chi'n ei hoffi orau am chwarae yng Ngherddorfa WNO?
Mewn cerddorfa opera, mae rhywun yn cael treulio digonedd o amser ar bob darn o gerddoriaeth - yn ystod ymarferion ac wrth berfformio dro ar ôl tro. O ganlyniad, mae'r ensemble yn adnabod y gerddoriaeth fel pe bai ym mêr eu hesgyrn. Fy hoff rannau yw'r ariâu prin, lle mae'r grŵp soddgrythau a basau yn atalnodi'r llinell drwy blycio'r llinynnau gyda'n bysedd. Gallwn ganiatáu i'r canwr fod yn hollol rydd, ond mae'r 10 ohonom yn gwybod yn union ble i osod y nodyn gyda'n gilydd. Mae'n beth arbennig.

Pa bryd oedd y tro cyntaf ichi glywed Concerto Op. 104 Dvořák y bydd y Gerddorfa'n ei berfformio?
Dydw i ddim yn cofio'r tro cyntaf imi glywed y concerto hwn gan Dvořák. Yn bendant, roedd gennym dâp o Rostropovich a fyddai'n dod allan yn aml ar deithiau hir yn y car, felly mae'n teimlo fel pe bawn i wedi ei wybod erioed. Dysgais yr ail symudiad pan oeddwn i'n 14, a'r cyntaf a'r olaf dros y blynyddoedd dilynol. Yr oed hwnnw, dydy rhywun ddim yn deall go iawn pa mor anodd ydy pethau o safbwynt technegol, ac roeddwn i'n sicr yn fwy dewr yn fy arddegau. Fe'i chwaraeais gyda Cherddorfa Prifysgol Caergrawnt yn fy mlwyddyn olaf, ac rwy'n credu mai dyna pryd y sylweddolais faint mwy o waith roedd angen i mi ei wneud i fod yn chwaraewr soddgrwth proffesiynol. Y tro diwethaf imi berfformio'r concerto oedd ychydig flynyddoedd yn ôl, ac mae wedi bod yn braf dod yn ôl ato fel oedolyn, yn enwedig gan fod fy ngwybodaeth gerddorol yn llawer ehangach erbyn hyn.

Beth sydd dan sylw wrth baratoi ar gyfer perfformiad byw?
Fel gyda phopeth y byddwn ni'n ei chwarae, gronyn bach o amser yw'r perfformiad o'i gymharu â'r holl baratoi a wnawn i gyrraedd yno. Mae'n cynnwys llawer iawn o ymarfer manwl ac araf, gwaith gyda'r sgôr heb yr offeryn, a datblygu stamina. Mae'r concerto wedi'i sgorio'n hyfryd fel bod modd clywed y soddgrwth drwy gydol yr amser, ond crefft yr unawdydd yw llwyddo i wneud i bob nodyn gyrraedd pen draw'r neuadd, ni waeth pa mor dawel y mae'n dewis chwarae.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sydd heb fod mewn cyngerdd cerddorfa o'r blaen?
Bydda i bob amser yn cynghori pobl i wrando ar y darnau cyn dod i gyngerdd - dim ond yn y cefndir wrth goginio, efallai, neu yn y car. Rwy'n meddwl bod hyd darnau clasurol yn dychryn pobl, ond os ydych chi'n adnabod yr hyn rydych chi'n ei glywed, mae'n haws gwrando arno, a chyn pen dim rydych chi'n hymian gyda'r gerddoriaeth. Eisteddwch mor agos ag y gallwch at flaen y balconi, neu yn y seddi blaen uwch, fel eich bod chi'n gallu gweld mynegiant chwaraewyr y gerddorfa, a'r rhyngweithio rhyngddyn nhw, yn glir. Mae'n beth hynod ddiddorol cael gwylio pobl fel hyn, ac mae'n gyfle i glywed rhywbeth y gallech syrthio mewn cariad ag e. A chofiwch, dydy'r sain ddim yn cael ei chwyddo o gwbl - mae grym y sain mae cerddorfa'n ei chynhyrchu yn anghredadwy, ac mae'n rhaid ichi glywed hynny drosoch chi'ch hun.