Newyddion

Opera Ieuenctid WNO yn perfformio i Barti Brenhinol

15 Hydref 2021

Yn ystod Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd ym Mae Caerdydd ddoe (dydd Iau 14 Hydref), cafodd Opera Ieuenctid WNO gyfle anrhydeddus i berfformio o flaen Ei Mawrhydi’r Frenhines, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a’i Huchelder Duges Cernyw.

Yn ystod wythnos arferol, mae dros 120 o gantorion rhwng 6 a 18 oed o bob cwr o Brydain yn cymryd rhan yn ein rhaglen hyfforddi lwyddiannus. Yn anffodus, yn sgil y pandemig, roedd yn rhaid i’n grwpiau Opera Ieuenctid yng Nghaerdydd, Llandudno a Birmingham stopio eu sesiynau wythnosol, ac ymuno â’i gilydd arlein.

Roedd y dathliad hwn yn nodi perfformiad byw cyntaf Opera Ieuenctid De Cymru WNO ers cyn mis Mawrth 2020, ac roedd yn gyfle anhygoel i’n perfformwyr ifanc.

Yn ystod y seremoni, gwnaethant berfformio trefniant arbennig iawn o’r alaw werin Gymreig draddodiadol, Ar Lan y Môr, gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Opera Ieuenctid WNO Dan Perkin, a ddywedodd: 

Pan ddigwyddodd y cyfnod clo cyntaf, roeddem ddau benwythnos i ffwrdd o berfformio ein cynhyrchiad o The Black Spider gan Judith Weir. Ar ôl blwyddyn o ymarferion dros zoom, roedd yn rhaid i’r tîm creadigol arloesi a meddwl am yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n cyfranogwyr. Gwnaethom ffurfio côr rhithiwr, cynhyrchu a recordio dwy opera radio, ac edrych ar sawl repertoire gwahanol yn cynnwys perfformiad digidol o I Shall Not Live in Vain, ond roedd bob un yn ail i greu cerddoriaeth fyw gyda’n gilydd. Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd oedd ein perfformiad byw cyntaf gyda’r grŵp ers 18 mis, ac roedd yn brofiad arbennig i gael perfformio o flaen Ei Mawrhydi’r Frenhines, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a’i Huchelder Duges Cernyw. Roedd yn garreg filltir enfawr ar ôl cyfnod heriol iawn.

Agorwyd Cynulliad Cenedlaethol cyntaf Cymru yn 1999 gan y Frenhines, ac ers hynny mae hi wedi agor pob sesiwn yn dilyn etholiad yng Nghymru. Yn ychwanegol at leisiau ifanc rhagorol ein Hopera Ieuenctid, cafodd y Parti Brenhinol fwynhau perfformiadau gan Alis Huws, Telynores Swyddogol Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, cwmni theatr Hijinx, Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru.

Mwynhewch berfformiad o Ar Lan y Môr gan Opera Ieuenctid WNO, sy’n cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol, gydag aelodau o Gerddorfa WNO - wedi’i ffilmio yn gynharach yn y flwyddyn yn Theatr ragorol Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Ers dod yn Noddwr yn 1997, mae Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru wedi bod yn gefnogwr brwd i Opera Cenedlaethol Cymru, ac wedi mynychu sawl perfformiad yn ystod y blynyddoedd, yn cynnwys Die Fledermaus (2017), La forza del destino (2018) lle cafodd ei groesawu gyda pherfformiad o Sisi Ni Moja, gan Jacob Narverud, gan 72 o gantorion ifanc o Opera Ieuenctid WNO, ac yn fwy diweddar, Un ballo in maschera.