Newyddion

WNO's Christmas gift guide

9 Rhagfyr 2021

Mae'r Nadolig ar y gorwel unwaith eto a dyma Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnig syniadau i chi am anrhegion perffaith ar gyfer selogion opera. Gydag amrywiaeth o anrhegion a pherfformiadau arbennig, dyma'r lle perffaith i siopa a rhoi opera yn rhodd y Nadolig hwn. 

Tynnwch y pwysau sydd ynghlwm â siopa Nadolig oddi ar eich ysgwyddau eleni, mae gennym lond sach o anrhegion y gallwch eu rhoi i'ch anwyliaid. O docynnau ar gyfer perfformiadau ein Tymor y Gwanwyn 2022, i aelodaethau rhodd Cyfaill WNO lle all aelodau fanteisio ar gynigion arbennig amrywiol. Does yr un rhodd gystal â’r celfyddydau, felly beth am fanteisio ar WNO yn dychwelyd i gynnal perfformiadau byw a phrynu tocynnau i ymweld â ni yn un o leoliadau ein taith ar draws y DU gwanwyn nesaf. Mae ein Tymor nesaf yn fwrlwm o ddrama ac emosiwn, gan gynnwys Jenůfa gan Janáček, cyfansoddwr o'r Weriniaeth Tsiec, sy'n stori ddwys a thorcalonnus ar y thema gobaith. Mae'r Tymor hefyd yn cynnwys yr opera hynod boblogaidd Don Giovanni – lle mae Mozart yn cynnwys gwg a gwên yn y sgôr eithriadol hon. Byddwn hefyd yn perfformio Madam Butterfly, sy'n gampwaith gan Puccini, y cyfansoddwr o'r Eidal. Bu'r stori rymus hon o gariad digydnabod a brad yn llwyddiant ysgubol yn y Tymor diwethaf ac rydym yn dychwelyd y Gwanwyn hwn gyda chynhyrchiad cyfoes pedair seren gan Lindy Hume, sy'n dehongli'r opera glasurol hon drwy lens y 21ain ganrif. 

Nid yn unig y gall WNO gynnig Tymor amrywiol o opera, ond gallwn hefyd gynnig rhywbeth at ddant selogion cerddoriaeth glasurol ledled y wlad hefyd. Gan fynd ar daith i wyth lleoliad ledled Cymru a Lloegr, mae ein Cerddorfa WNO arbennig yn dychwelyd gyda rhaglen yn cwmpasu cyfansoddwyr megis Strauss, Lehár a Korngold. Dechreuwch 2022 gyda noswaith arbennig o gerddoriaeth gerddorfaol. O Fryste i Fangor, rydym yn mynd ar daith ar draws y wlad, ac mae'r cyngerdd hwn yn sicr o'ch arwain ar daith i Fienna ac yn ôl. Neu beth am fynnu tocynnau ar gyfer Cyngerdd Clasurol Caerdydd gan Gerddorfa WNO ym mis Mai – gyda blas ar ddarnau symffonig eithriadol gan Smetana, Shostakovich a Beethoven.

Yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd wrth ei bodd ag opera a chefnogwyr WNO, beth am roi rhodd bersonol o aelodaeth Cyfaill WNO iddynt? Mae dod yn Gyfaill WNO yn cynnig mynediad arbennig at yr hyn mae'r Cwmni yn ei wneud a pha bryd, a chewch blymio'n ddyfnach i waith WNO gyda'n cylchlythyrau rheolaidd i gefnogwyr, cewch fanteisio ar archebu â blaenoriaeth ar gyfer ein Tymhorau sydd ar y gweill a mwynhau amrywiaeth o berfformiadau, sgyrsiau a thrafodaethau agos-atoch gydag aelodau a thimau creadigol ein Cwmni. Drwy roi aelodaeth Cyfaill WNO yn rhodd i rywun y Nadolig hwn, wedi blwyddyn erchyll i'r celfyddydau, byddwch yn ein cefnogi ni i barhau stori WNO ac atgyfnerthu mwy o fywydau drwy rym opera. 

Dymuna pawb yn WNO Nadolig Llawen iawn i chi ac edrychwn ymlaen at barhau â'n gwaith cerddorol yn 2022.