Newyddion

Hanes WNO yn Southampton

2 Tachwedd 2021

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi bod yn teithio i Southampton ers mis Tachwedd 1970, pan berfformiodd y Cwmni yn Theatr Gaumont ar y pryd, gyda Ffilharmonia Cymru. Newidiodd enw’r Gaumont i’r Mayflower yn 1987, ac mae bellach yn gartref i weithgaredd allgymorth WNO ar arfordir de Lloegr. Aethom yn ôl i Southampton ar gyfer ein Tymor yr Hydref yn 1971, ac rydym wedi bod yn mynd bob blwyddyn (bron â bod) ers hynny, yn sefydlu perthynas gadarn rhwng WNO, Theatr Mayflower a chymunedau lleol Southampton.

Roedd y Tymor WNO cyntaf hwnnw yn Southampton yn cynnwys perfformiadau o Die Fledermaus, La bohème, Aida a Simon Boccanegra – ac, os oes diddordeb â chi, gallwch weld copi o raglen wreiddiol Aida ar archif arlein Mayflower. Roedd ein cyfnod yn Southampton yn ffurfio rhan o raglen ‘fwyaf uchelgeisiol erioed’ Alfred Francis (Cadeirydd Gweithredol WNO), gyda 14 wythnos o berfformiadau’n cael eu cynnal dros y flwyddyn, gan gynnwys wyth wythnos yng Nghymru a chwe wythnos yn Lloegr, gyda phedwar cynhyrchiad newydd. 

Ar ôl hynny, y tro nesaf i ni fynd ar daith i Southampton oedd yn 1980, gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru (enw Cerddorfa WNO bryd hynny), am ddau Dymor y flwyddyn, gyda chyfnod o berfformiadau ym mis Ebrill, ac yna’n dychwelyd ar ddechrau mis Rhagfyr - yr ail gyfnod yn cynnwys cynhyrchiad newydd, ar y pryd, David Pountney o The Cunning Little Vixen. Ers hynny, dim ond pedair gwaith mae’r cynhyrchiad hwnnw wedi cael ei adfywio, yn fwyaf diweddar yn ein Tymor yr Hydref 2019. Southampton fyddai wedi bod y lleoliad nesaf ar ein taith Tymor y Gwanwyn 2020, a oedd i fod i ddechrau wythnos ar ôl i’r cyfnod clo cael ei gyhoeddi.

Yng Ngwanwyn 2016, torrwyd ar draws Drydedd Act The Marriage of Figaro gan gyfres o doriadau pŵer, a ddiffoddodd yr holl oleuadau llwyfan, a Cherddorfa WNO dan orchudd tywyllwch yn y pwll, ond, gwnaethant barhau i chwarae - wedi’r cwbl, maen nhw’n offerynwyr proffesiynol.

Mae ein Cerddorfa wedi perfformio’n rheolaidd ar lwyfan cyngherddau Southampton hefyd, fel Turner Sims, lle rydym wedi bod yn perfformio ein cyngherddau Blwyddyn Newydd Fienna hynod boblogaidd. Mae ein Cyngherddau i Deuluoedd ac Ysgolion hefyd wedi bod yn uchafbwynt i nifer o blant dros y blynyddoedd, fel y dywedodd un athro:

Roedd y plant wrth eu bodd, ac yn canu’r holl ffordd adref. Ar y cyfan, roedd yn un o’r cyngherddau ysgol gorau rwyf wedi’u gweld, rhaglen wych a pherfformwyr ardderchog - taith arbennig iawn!

Drwy ein rhaglen o weithgaredd cymunedol ar hyd y flwyddyn yn Southampton, rydym eisiau ysbrydoli calonnau a meddyliau unigolion na fyddai fel arfer yn profi pŵer opera a chreu cerddoriaeth eu hunain. Gall hyn gynnwys cyngherddau a gweithdai ysgolion; prosiectau gyda chymunedau ar y cyrion fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches; a pherfformiadau ar gyfer pobl yn y system gofal iechyd. Mae'r gwaith hwn wedi'i alinio'n agos â’r Mayflower Theatre i sicrhau y bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn parhau i ysbrydoli ei chymunedau am flynyddoedd lawer i ddod.