Mae taith yr Hydref wedi hen ddechrau, ac ynghyd ag Ainadamar, mae ein cynhyrchiad hynod boblogaidd o La traviata wedi diddanu cynulleidfaoedd ym mhob lleoliad ar hyd y daith hyd yn hyn.
Caiff La traviata ei hystyried gan nifer fel opera fwyaf poblogaidd y byd, felly mae’n siŵr y byddwch yn gyfarwydd â hi. Fodd bynnag, rydym wedi canfod rhai ffeithiau a all eich synnu.
Nid oedd mor boblogaidd â heddiw erioed...
Perfformiwyd La traviata am y tro cyntaf yn 1853, a chafodd ei hystyried yn fethiant llwyr. Roedd y derbyniad negyddol yn rhannol oherwydd perfformiad y soprano Fanny Salvini-Donatelli, a feirniadwyd fel un a oedd yn rhy hen a’n rhy dew i chwarae'r Violetta ifanc mewn ffordd gredadwy.
Ar frig y siartiau
La traviata yw’r opera sydd wedi’i pherfformio fwyaf ledled y byd, ac mae wedi bod ar frig y siartiau ar gyfer y nifer uchaf o berfformiadau byd-eang sawl gwaith. Yn syfrdanol, yn ystod tymor 2015/2016, perfformiwyd campwaith Verdi 4,190 o weithiau ar draws 869 o wahanol gynyrchiadau.
Gwisgoedd gwych
Un o uchafbwyntiau ein cynhyrchiad yw ei apêl weledol, ac ynbenodol, y gwisgoedd hardd o’r cyfnod.Wedi’i gosod ym Mharis yng nghanol y 19eg ganrif, mae’r gwisgoedd yn adlewyrchu’r cyfnod, gyda steil dillad menywod i gyd, fwy neu lai,yntarddu o brifddinas Ffrainc. Gallwch ddarllen mwy am ffasiwn Paris yn ein blog Ffasiwn Paris – pam mae La traviata yn edrych fel y mae… .Ond nid gwisgoedd La traviata yn unig sy’n cynnig gwledd i’r llygaid; mae wigiau a cholur yn chwarae rhan allweddol wrth bortreadu cyfnod yr opera, yn ogystal â dangos treigl amser neu bortreadu salwch. Gall gymryd rhwng 45 munud i awr i roi colur a wigiau ar y merched sy'n chwarae'r prif rannau.
Yn seiliedig ar stori wir
Seiliodd Verdi ei opera arLa Dame aux Camélias, y ddrama o 1852 aaddaswydo’rnofel o 1848 o’runenwgan Alexandre Dumas. Roedd y Dumas ifanc wedi ysgrifennu ei nofel yn seiliedig ar ei brofiadau ei hun gyda Marie Duplessis, putain llys enwog o Ffrainc, yr oedd wedi cael perthynas â hi. Roedd Duplessis ynfeistres i lu o ddynion pwysig a chefnog, ac, fel Violetta yn La traviata, bu farw yn ifanc iawn, yn 23 oed.
Ysbrydoli diwylliant poblogaidd
Mae La traviata wedi cael bywyd cyfoethog ac amrywiol y tu hwnt i’r llwyfan, yn ysbrydoli amryw o ffilmiau, ac yn cynnig ei cherddoriaeth i nifer eraill. Yn fwyaf enwog, defnyddiwyd plot La traviata fel y sail argyfer y comedi rhamantus, Pretty Woman, yn 1990, a sioe gerdd epig Baz Luhrmann yn 2001, Moulin Rouge. Mae ein blog La traviata mewn diwylliant poblogaidd yn archwilio meysydd modern eraill sydd wedi dwyn ysbrydoliaeth o waith Verdi.
Opera gyfoes
Hon yw’r unig un o operâu Verdi i gael ei lleoli yn ei chyfnod ei hun, sef 1853, yr un flwyddyn ag ysgrifennwyd yr opera. Fodd bynnag, nid oedd cwmnïoedd opera am gydymffurfio, ac yn ystod y perfformiad cyntaf, gorfododd y sensoriaid iddo osod y cynhyrchiad ganrif a hanner yn gynt, yn ystod oes Louis XIV, ynghyd ag wigiau cyrliog hir, trowsus balŵn ac esgidiau bwcl. Dyna oedd yr unig ffordd i Verdi weld ei opera, a pharhaodd i gael ei pherfformio fel hyn tan 1906, bum mlynedd wedi iddo farw.
Erbyn hyn, rydym yn cael mwynhau La traviata yn y cyfnod y bwriadodd Verdi, ac mae amser i chi wylio ein cynhyrchiad o’r campwaith hwn ar ein taith o hyd.