Y Wasg

Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno perfformiad cerddorol ecogyfeillgar

17 Mai 2024

Bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno perfformiad arbennig i arddangos doniau Opera Ieuenctid gwobrwyol y Cwmni yn The Very Last Green Thing – sef perfformiad cerddorol ecogyfeillgar.

Eleni, bydd Perfformiad Opera Ieuenctid Seligman yn cael ei gyfarwyddo gan Rhian Hutchings a’i ddylunio gan y Dylunydd Greta Baxter. Bydd yn dilyn criw o blant ysgol a’u hathro android wrth iddynt fynd ar daith i’r awyr agored yn y flwyddyn 2423.

Yn y dyfodol dystopaidd hwn, heb arlliw o fyd natur ar ei gyfyl, mae’r plant yn dod o hyd i gapsiwl amser sy’n cynnwys olion olaf y byd natur sy’n dal i fyw ar y Ddaear.

Gan gyd-fynd â themâu amgylcheddol y stori, ceisiwyd cynhyrchu pob agwedd ar y perfformiad mewn modd cynaliadwy, ond yn benodol felly o ran y modd y cafodd y perfformiad ei ddylunio.

Mae propiau a gwisgoedd y cynhyrchiad yn cynnwys gwahanol ddeunyddiau a ailgylchwyd. Yn wir, roedd nifer o’r eitemau yn perthyn i gynyrchiadau hŷn neu cawsant eu haddasu at ddibenion y cynhyrchiad hwn. Rhoddodd y dylunydd Greta Baxter ystyriaeth i ddull ecogyfeillgar o’r cychwyn cyntaf yn ei phroses ddylunio.

O ran ei hymagwedd gynaliadwy at ddylunio, dyma a ddywedodd Greta:

‘Yn fy ngwaith dylunio, mae osgoi defnyddio eitemau untro yn bwysig imi. O ran y set a’r gwisgoedd, y prif ffactor oedd canfod cynifer â phosibl o ddeunyddiau ail law – naill ai trwy fynd i siopau elusennau neu trwy addasu setiau a gwisgoedd a ddefnyddiwyd mewn sioeau blaenorol.’

Dylunydd o Gymru yw Greta. Graddiodd yn ddiweddar o Sefydliad Celfyddydau Perfformio Lerpwl. Mae’n dilyn yn ôl troed dylunwyr blaenorol fel Gabriella Slade.

Gabriella a ddyluniodd gynhyrchiad Opera Ieuenctid WNO o Kommilitonen! yn 2017. Ers hynny, mae hi wedi mynd yn ei blaen i ddylunio Six: The Musical a The Spice Girls World Tour.

O ganlyniad, ystyrir bod y rôl hon fel dylunydd yn swydd uchel ei bri yn y diwydiant gan ei bod yn cynnig ffordd i ddylunwyr gamu yn eu blaen o hyfforddiant at yrfa broffesiynol mewn dylunio.

Dyma a ddywedodd Greta ar ôl iddi ennill y cyfle clodfawr hwn:

“A minnau newydd raddio yr Haf diwethaf, mae hi’n anhygoel cael gweithio gydag WNO a chael profiad o ddylunio ar gyfer Opera. Gwych yw gweld yr holl bethau a ddysgais yn cael eu defnyddio mewn swydd broffesiynol, yn ogystal â gallu cyfarfod a chydweithio ag unigolion talentog.”

Mae Opera Ieuenctid WNO yn rhaglen hyfforddi wobrwyol ar gyfer pobl ifanc 10-25 oed sydd wrth eu bodd yn canu ac yn perfformio. Ochr yn ochr â chynnig adloniant anhygoel i gynulleidfaoedd, mae’r bobl ifanc sy’n rhan o Opera Ieuenctid WNO yn cael profiad hyfforddi proffesiynol ac unigryw wrth weithio gyda Cherddorfa, dylunwyr, rheolwyr llwyfan a thechnegwyr WNO. Hefyd, caiff y darpar gantorion eu mentora a’u rhoi ar ben ffordd gan rai o weithwyr proffesiynol mwyaf blaenllaw’r diwydiant.

Medd Paula Scott, Cynhyrchydd Opera Ieuenctid WNO:

‘Sefydlwyd Opera Ieuenctid WNO yng nghanol y 1990au er mwyn i’r Cwmni allu rhannu ei gariad at opera gyda darpar gantorion ifanc. Ein nod yw cynnig profiadau a chyfleoedd newydd hwyliog a chyffrous – lle bydd y cyfranogwyr yn cael cipolwg ar sut brofiad yw gweithio gyda Chwmni Opera proffesiynol a dysgu am y gwahanol lwybrau gyrfa, ar y llwyfan ac oddi arno, gan fynd ati ar yr un pryd i feithrin sgiliau bywyd, magu hunanhyder a gwneud cyfeillion newydd.’

Bydd The Very Last Green Thing yn cael ei berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sadwrn 25 a dydd Sul 26 Mai. I gael rhagor o fanylion, ewch i https://wno.org.uk/cy/__home__

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

Opera Cenedlaethol Cymru yw’r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu cyngherddau, gwaith allgymorth ac operâu ar raddfa fawr ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysg ac allgymorth a’n prosiectau digidol llwyddiannus. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, a’n nod yw dangos i genedlaethau’r dyfodol bod opera’n gelfyddyd foddhaus, berthnasol a byd-eang sydd â’r grym i gael effaith ac ysbrydoli.

Mae lluniau o gynyrchiadau WNO ar gael i’w lawrlwytho o wno.org.uk/cy/press

  • Cefnogir Opera Ieuenctid WNO gan Rodd Seligman, Ymddiriedolaeth Elusennol y Teulu Bateman, Sefydliad Kirby Laing, Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs, Andrew Fletcher, Paul a Marie Carson, Partneriaid WNO, Sefydliad Siôn Mullane ac Ymddiriedolaeth Theatr Unity.

I gael rhagor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch â’r canlynol:

Rhys Edwards, Rheolwr Cyfathrebu

rhys.edwards@wno.org.uk

Christina Blakeman, Rheolwr y Wasg

christina.blakeman@wno.org.uk

Penny James a Rachel Bowyer, Pennaeth Cyfathrebu (rhannu swydd)

penny.james@wno.org.uk / rachel.bowyer@wno.org.uk

wno.org.uk