Ymunwch â’n Cylch Prif Chwaraewyr

Helpwch i ddiogelu safon rhagoriaeth y Gerddorfa a chefnogi Prif Chwaraewr Adran o fewn Cerddorfa WNO.

Mae gan Gerddorfa WNO enw da fel ensemble o safon fyd-eang. Yn ogystal â darparu trac sain i berfformiadau opera’r Cwmni, maent hefyd yn perfformio rhaglen helaeth o ymrwymiadau cerddorfaol ledled Cymru, Lloegr a thramor.

Mae’r Gerddorfa i’w chlywed yn rheolaidd yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd, Proms Cymru, ac mewn gwyliau mawreddog ledled y byd, ochr yn ochr â rhaglenni cymunedol amrywiol y Cwmni.


Yn gyfnewid am eich cefnogaeth hael, byddwch yn cael:

  • Diweddariadau rheolaidd ar weithgarwch cerddorfaol
  • Cydnabyddiaeth yn rhaglenni WNO 
  • Y cyfle i feithrin perthynas ystyrlon gyda’r cerddor rydych yn ei gefnogi

Mae cefnogaeth yn dechrau o £125 y mis. Gallwch ymuno â’r Cylch Prif Chwaraewyr ar-lein.  Neu os hoffech drafod ffyrdd eraill i ddod yn rhan o’r Cylch Prif Chwaraewyr, cysylltwch â Sally Ann Bird trwy: sally.bird@wno.org.uk neu 02920 635 015.




£1,500 yn flynyddol. I gefnogi Cylch y Prif Chwaraewyr, rydym yn chwilio am roddion o £1500 y flwyddyn i bob Prif Gerddor Adran.  Mae croeso ichi wneud rhandaliadau neu daliad untro e.e. £1500 y flwyddyn, £375 bob chwarter neu £125 y mis dros 12 mis.