Cefnogwch Peter Grimes

Cynhyrchiad Gwanwyn 2025 Opera Cenedlaethol Cymru o Peter Grimes yw ein hail opera gan Britten yn y ddwy flynedd ddiwethaf, yn dilyn llwyddiant sylweddol Death in Venice yng Ngwanwyn 2024.
 
Mae gan Peter Grimes gast gwefreiddiol, yn cynnwys Nicky Spence sy'n perfformio Grimes a'r Fonesig Sarah Connolly sy'n perfformio Auntie am y tro cyntaf. Mae'r cynhyrchia dyn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus.
 
Ni allwn gynnal ein cynyrchiadau rhagorol a chast o safon fyd-eang heb gymorth ein cefnogwyr.

Un ffordd y gallwch gynorthwyo yw drwy roi rhodd i gefnogi ein cynhyrchiad o Peter Grimes. Gall eich rhodd gyfrannu at sgoriau Cerddorfa a Chorws WNO, propiau a gwisgoedd ynghyd â rhestr hir o'r rhannau allweddol o greu opera a theithio gyda hi.  

I'r rhai sydd â diddordeb mewn rhoi rhodd sylweddol, cysylltwch â Sally Ann Bird neu 02920 635 058 ar sally.bird@wno.org.uk i drafod ymuno â'n Syndicet Britten, lle rydym yn croesawu rhoddion o £1000