

Datganiad amser cinio Birmingham Artistiad Cyswllt WNO
Trosolwg
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o gael perfformio datganiad amser cinio am ddim yng Nghadeirlan Birmingham, gan ddathlu doniau ein hartistiaid cyswllt arbennig. Ymunwch â ni raglen 40 munud o hyd sy’n cynnwys y sopranos Eiry Price ac Erin Rossington, ynghyd â’r bariton William Stevens – tri llais newydd anhygoel sydd yn amlwg iawn yn y maes operatig yng Nghymru ar hyn o bryd.
Gyda nodweddion mewnol hyfryd a hynafol Cadeirlan Birmingham yn gefndir i’r cyfan, byddwch yn barod i gael eich swyno gan arias ysgytwol a cherddoriaeth hudolus a chael amser i fyfyrio am ennyd i ffwrdd o fwrlwm canol y ddinas. Nid oes angen archebu – galwch heibio, eisteddwch a gadewch i’r gerddoriaeth eich diddanu.
Defnyddiol i wybod
40 munud heb egwyl
Mae'r digwyddiad amser cinio yma am ddim.