Suor Angelica & Gianni Schicchi Puccini
–Trosolwg
Aberth a chynllwyniau – opera dwbl cyfareddol
Suor Angelica a Gianni Schicchi gan Puccini yw’r pâr perffaith o emosiwn uchel, drama ddwys a chomedi du. Yn gwau stori ingol am aberth a gwaredigaeth, mae Suor Angelica yn dilyn aberth lleian a’i hiraeth am ei theulu ar ôl iddi gael ei hanfon i’r lleiandy i edifarhau am ei phechodau tra bod Gianni Schicchi yn llawn troeon annisgwyl, twyll a thrachwant wrth i deulu ddadlau am ewyllys coll.
Wedi'i chyfarwyddo gan y Cyfarwyddwr rhyngwladol enwog, Syr David McVicar (La traviata WNO), a chyda cherddoriaeth wych megis yr aria boblogaidd O mio babbino caro, mae elfennau sy’n ategu ac yn cyferbynnu yn y bil dwbl dramatig hwn.
Lluniau trwy garedigrwydd Scottish Opera
Archebu rhaglen
Cefnogaeth cynhyrchu arweiniol gan Colwinston Charitable Trust. Tymor 2024/2025 wedi'i genogi gan Dunard Fund.
Defnyddiol i wybod
Tua dwy awr a 35 munud, gan gynnwys un egwyl
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg.
O dan 16 mlwydd oed
£10 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Cyd-gynhyrchiad â Scottish Opera