Merched: Pwy sy’n Adrodd ein Storiâu? Trafodaethau Madam Butterfly
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Mae WNO yn cymryd stori Cio-Cio-San fel ysbrydoliaeth ar gyfer cyfres o sgyrsiau digidol yn ystyried ystod eang o bynciau rydym yn dal i fynd i’r afael â nhw yn yr 21ain Ganrif
Mae’n ffaith mai anaml iawn mae prif gymeriadau benywaidd opera yn cael diweddglo hapus. Mae cymeriadau benywaidd yn aml yn dioddef o achos eu hamgylchiadau, ac mae’r rheiny sydd â phŵer mewn operâu a storiâu eraill yn cael eu portreadu fel bwystfilod.
Pwy sy'n penderfynu heddiw pa storiâu sy'n cael eu rhannu neu eu perfformio’n gyhoeddus? Sut mae merched yn cael eu cyflwyno yn y storiâu? Pam ei bod yn bwysig i ni barhau i gwestiynu pwy sy’n ysgrifennu’r storiâu a beth maent yn sôn amdanynt?
Wedi’i gadeirio gan Brif Swyddog Gweithredol a sylfaenydd sefydliad The WOW (Gwyliau Merched y Byd), bydd Jude Kelly CBE yn arwain trafodaethau gyda phanel o ferched arbennig sy’n gweithio yn y byd theatr a theledu heddiw, gan gynnwys: Lindy Hume, cyfarwyddwr Madam Butterfly; Caroline Clegg, cyfarwyddwr a choreograffydd; Lucy Brydon, cyfarwyddwr a sgriptiwr.
Defnyddiol i wybod
Bydd trafodaethau’n para tua un awr
Bydd digwyddiadau byw’n cael eu cynnal dros Zoom - bydd cyfarwyddiadau ymuno’n cael eu hanfon ar ôl ichi gofrestru