Newyddion

Sgwrs gyda’n Hartistiaid Cyswllt 25/26: Ross Fettes

25 Mehefin 2026

Mae rhaglen Artistiaid Cyswllt Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnig i raddedigion diweddar sydd wedi arbenigo mewn unrhyw faes perfformio neu astudiaethau lleisiol, y cyfle i ddatblygu eu sgiliau perfformio a’u gyrfa mewn amgylchedd proffesiynol, dan arweiniad Hyfforddwr Datblygu Artistiaid Cyswllt WNO, y soprano fyd-enwog o Gymru, Rebecca Evans.
Ochr yn ochr ag Opera Ieuenctid, mae’n un o ddwy raglen o waith sy’n darparu cyfleoedd dysgu a pherfformio o ansawdd ar gyfer y genhedlaeth nesaf o artistiaid. Pob blwyddyn, bydd ein haelodau cyswllt yn cynnal datganiad personol, lle byddant yn perfformio detholiad o’u hoff repertoire.

Mae Ross Fettes wedi bod yn un o’n Hartistiaid Cyswllt, ochr yn ochr ag Owain Rowlands, ar gyfer 25/26. Wrth i’w gyfnod gyda ni ddirwyn i ben, cawsom sgwrs am yr hyn a ddysgodd o’r profiad, a’i obeithion ar gyfer y dyfodol.

Dywedwch wrthym sut y daethoch yn ganwr opera, beth a’ch denodd at y gelfyddyd?

Dois ar draws opera’n eithaf annisgwyl. Dechreuais ganu yn ystod fy mlwyddyn olaf ond un yn yr ysgol. Cyn hynny roeddwn wedi bod yn canolbwyntio ar chwarae’r ffidil. Roeddwn yn awyddus i ennill mwy o brofiadau cerddorol ac edrych ar ochr arall o berfformio, ac yn fuan daeth canu yn rhywbeth yr oeddwn yn frwd drosto. Penderfynais fynd i glyweliad am le yn Conservatoire Brenhinol yr Alban, a mwynheais bob eiliad o’m 4 blynedd yno! Yr hyn a’m denodd at opera oedd y cyfuniad o gerddoriaeth, adrodd stori ac emosiwn dynol. Mae rhywbeth pwerus iawn am allu cyfathrebu drwy eiriau a cherddoriaeth, ac roeddwn wedi fy nghyfareddu gan faint a dwyster y gelfyddyd. O hynny ymlaen, gwyddwn fy mod eisiau mynd amdani go iawn.

Pam wnaethoch chi gais ar gyfer rhaglen Artistiaid Cyswllt WNO?

Wedi astudio am 4 blynedd yn barod yn y Coleg Cerdd Brenhinol ar gyfer fy ngradd Meistr ac ysgol opera, gwyddwn fod angen i mi gymryd y cam nesaf gyda fy ngyrfa. Gwyddwn fod gan Opera Cenedlaethol Cymru amgylchedd cefnogol ac ysbrydoledig, felly gwnes gais ar gyfer y rhaglen Artistiaid Cyswllt gan fy mod yn awyddus i herio fy hun ymhellach, dysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol a mireinio fy nghrefft. Roedd y cyfle i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr talentog wrth dderbyn arweiniad a chefnogaeth yn rhywbeth na allwn droi fy nghefn arno.

Beth fu’n foment ddiffiniol y rhaglen Artistiaid Cyswllt WNO i chi?

Un o agweddau diffiniol y rhaglen yw’r hyder a roddodd i mi fel perfformiwr. Mae gweithio’n agos gyda hyfforddwyr, cyfarwyddwyr ac artistiaid cyswllt eraill wedi fy ngwthio y tu hwnt i’r hyn yr wyf yn gyfforddus ag ef yn y ffordd orau bosibl. Mae cael fy annog i gymryd risgiau, ymddiried yn fy ngreddf ac ymrwymo i fy mherfformiadau wedi bod yn hynod werthfawr. Helpodd fi i dyfu nid yn unig fel canwr, ond hefyd fel storïwr a chydweithiwr. Yn amlwg, roedd gallu perfformio yn fy nwy hoff opera, sef Tosca a The Flying Dutchman , yn brofiad anhygoel!

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf am Ddatganiad Artistiaid Cyswllt WNO?

Rwy’n edrych ymlaen yn arw at rannu’r gwaith y buom yn ei wneud gyda chynulleidfa. Mae perfformio mewn datganiad yn cynnig cyfle hyfryd i gyfleu fy mrwdfrydedd dros berfformio!

Beth all cynulleidfaoedd ei ddisgwyl o’r perfformiad?

Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl rhaglen amrywiol a difyr sy’n arddangos fy unigoliaeth fel perfformiwr. Rwy’n edrych ymlaen at roi cynnig ar rai Cymraeg, ond bydd rhai caneuon Albanaidd a rhywfaint o opera hefyd!

Sut mae bod yn rhan o’r rhaglen Aelodau Cyswllt wedi’ch helpu neu’ch newid fel perfformiwr?

Mae’r rhaglen wedi fy helpu i fod yn berfformiwr mwy hyderus a hunan-sicr. Mae wedi fy annog i ymddiried yn fy ngalluoedd a chroesawu heriau newydd, yn gerddorol ac yn ddramatig. Rwyf wedi datblygu gwell dealltwriaeth o sut i gyfathrebu’n effeithiol gyda chynulleidfa a sut i ddod â dilysrwydd i’r cymeriadau yr wyf yn eu portreadu. Mae’r gefnogaeth a’r mentora a dderbyniais wedi cael effaith barhaus ar fy natblygiad artistig.

Beth ydych yn ei obeithio amdano nesaf yn eich gyrfa?

Rwy’n gobeithio gallu parhau i adeiladu ar y profiadau a gefais hyd yn hyn drwy ymgymryd â rolau mwy heriol ac ehangu fy repertoire. Rwyf yn awyddus i wthio fy hun yn artistig a datblygu i fod y perfformiwr gorau a allaf ei fod. Yn fwy na dim, rwy’n gobeithio cael parhau i rannu cerddoriaeth gyda chynulleidfaoedd, creu cysylltiadau ystyrlon drwy berfformio a chyfrannu at y gelfyddyd sydd wedi rhoi cymaint i mi. Rwy’n edrych ymlaen at weld lle fydd cam nesaf fy ngyrfa yn fy arwain.

Mae WNO yn ddiolchgar am gefnogaeth hael Philip Carne MBE, Bwrsariaeth Shirley a Rolf Olsen, Bwrsariaeth Sheila a Richard Brooks, Ysgoloriaeth Anthony Evans, Bwrsariaeth Eira Francis Davies, Ymddiriedolaeth Elusennol Fidelio, Ymddiriedolaeth Joseph Strong Frazer, Ymddiriedolaeth Stanley Picker, Sefydliad Noël Coward, Ymddiriedolaeth Elusennol Thriplow a Bwrsariaeth Chris Ball tuag at ein rhaglen Artistiaid Cyswllt WNO.