Newyddion

Diwrnod ym mywyd... Staff Cerdd WNO

11 Tachwedd 2019

Un o'r pethau arbennig am gwmni opera fel WNO yw'r ystod eang o swyddi a'r amryw o bobl sy'n dod ynghyd i weithio a chreu rhywbeth arbennig.

Cawsom sgwrs ag aelod o Staff Cerdd WNO, David Doidge wrth iddo deithio i Plymouth (lleoliad cyntaf taith y Tymor hwn). Buom yn trafod ei waith o ddydd i ddydd, ei rôl a'r gwahaniaeth yn ei rôl yn ystod y cyfnod ymarfer a mynd ag WNO ar daith. 

'Ar ddiwrnod arferol o ymarfer, pan ydym yn ein cartref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, rwyf yn deffro tua 8:30am, ac yn cael cawod a brecwast cyn cychwyn am y gwaith. Rwyf yn anelu at fod yn y gwaith erbyn 10am er mwyn dechrau am 10.30am, oherwydd gall y cyfnod ymarfer fod yn ddwys iawn, ac mae'n syniad da paratoi am y diwrnod drwy fynd dros yr hyn y byddwn yn ei wneud. Yn ystod y cyfnod ymarfer, rwy’n chwarae’r piano oherwydd nid yw'r cantorion yn canu gyda Cherddorfa WNO nes tua wythnos cyn y perfformiad cyntaf. Mae'n rhaid imi geisio efelychu sain y gerddorfa gyda phiano yn unig, felly pan mae'r cantorion yn cwrdd a'r gerddorfa yn y sitzprobe (pan mae'r cantorion a'r gerddorfa'n cwrdd am y tro cyntaf), mae'r sain yn gyfarwydd. Mae'n rhaid imi ganu hefyd o bryd i'w gilydd, pan fydd rhywun yn sâl neu'n methu dod i'r ymarferion. Mae'n rhaid imi ddysgu rhan pawb; gall hyn gymryd misoedd, hyd yn oed blynyddoedd! Mae fy nghyfrifoldebau eraill yn cynnwys hyfforddi'r cantorion ac weithiau'r corws, i sicrhau ei bod yn hyderus â'r iaith, dehongliad ac arddull gerddorol gywir.

Pan rydym ar daith, mae'n stori gwbl wahanol, mae'n llawer iawn mwy cymdeithasol ac mae pawb yn cyfarfod yn y dafarn wedyn am ddiod. Mae'r cast a'r criw, yn ogystal â'r holl bobl eraill ar hyd y ffordd, yn dod yn deulu. Er enghraifft, mae yna siop pysgod a sglodion arbennig gyferbyn â drws llwyfan Bristol Hippodrome, ac mae pawb yn gwneud yn siŵr eu bod yn mynd - ac os ydych yn lwcus, rydych yn cael donut am ddim!'

'Mae'n siŵr mai fy hoff le yw Llandudno, gan ei fod wrth y môr, ac mae'n hyfryd yna, gyda golygfeydd hardd a chaffis bach hyfryd. Rwy’n aros yn yr un Gwely a Brecwast pob tro oherwydd eu bod nhw mor groesawgar ac yn fy nghofio i bob blwyddyn. Ond, gall fynd ar daith achosi straen oherwydd bod pob lleoliad yn wahanol, felly gall gosod pethau yn eu lle fod yn anodd; nid oes gan rai theatrau bwll i'r Gerddorfa hyd yn oed. Er enghraifft, yn The Magic Flute, roedd yn rhaid imi arwain oddi ar y llwyfan ac yna rhedeg i'r pwll er mwyn chwarae fy rhan i ar y piano, felly roedd ceisio trefnu llwybr gwahanol ar gyfer pob lleoliad yn un o'r pethau cyntaf imi ei wneud.

Wrth weithio i Opera Cenedlaethol Cymru, rwy'n ffodus iawn ar brydiau i gael fy rhyddhau o ddyletswydd fel y gallaf fod yn rhan o brosiectau cerddorol eraill y tu allan i'r Cwmni. Un o fy uchafbwyntiau mwyaf diweddar oedd gweithio ar Tosca yn yr Abu Dhabi Festival gyda Syr Bryn Terfel, Kristine Opolais, Vittorio Grigolo. Rwyf hefyd yn ddigon ffodus i ddal swydd addysgu yn y RWCMD ac yn cael y pleser o weld talent newydd yn datblygu. 

Rhan orau'r swydd yw gweld llafur eich gwaith caled, gweld y cynnydd dros y cyfnod ymarfer. Pan mae popeth yn dod ynghyd ac yn swnio'n hardd, rwy'n cael rhyw deimlad cynnes y tu mewn. Mae rhywbeth arbennig am bobl (sydd o bosib heb gyfarfod o'r blaen) yn dod ynghyd i greu darn o gelf. Mae'n brofiad gwefreiddiol, ac yn foddhaus iawn.