Newyddion

Canllaw i Don Pasquale

30 Ebrill 2019

Ysgrifennwyd yr opera gomig, Don Pasquale, gan yr athrylith bel canto Gaetano Donizetti yn 1842 ac mae'n parhau i fod yn un o'r mwyaf poblogaidd o'i 60+ o weithiau operatig. Ystyrir hon yn un o'r opera buffas (term Eidalaidd sy'n golygu 'opera gomig') go iawn olaf, honnir bod Donizetti wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer Don Pasquale mewn 11 diwrnod. 


Y Cymeriadau

EnwDisgrifiadYnganiad
Don PasqualeMasnachwr cyfoethog: crintachlyd ac yn ofni moderneiddioPahs-KWAH-leh
ErnestoNai Don Pasquale sy'n ysu i fod yn ganwr/cyfansoddwr caneuon ehr-NEHS-toh
NorinaY ferch o freuddwydion Ernesto; pryfoclyd a chynllwyngarNoh-REE-nah
MalatestaUn o'r cymeriadau lleol a thwyllwrMah-lah-TEHS-tah


Y Stori 
Hyd yn oed gyda'r holl droi a throelli yn y naratif, mae'r hanes yn ddigon cyfarwydd.

Don Pasquale yw'r patriarch a wnaeth symud i Gaerdydd yn y 1970au i wneud ei ffortiwn ei hun. Mae'n prynu fan cebab ac yn gweithio'n ddygn i adeiladu ei ymerodraeth; mae bellach yn denu torf bob nos Wener. Dylai ei nai Ernesto etifeddu popeth, ond nid oes gan Pasquale fawr o feddwl o'r llanc ifanc sy'n hoffi ysgrifennu barddoniaeth ac felly mae'n penderfynu ei gau allan a chynhyrchu ei etifeddion ei hun. Mae penderfyniad Pasquale i chwilio am wraig yn sioc i Ernesto ac mae ef, ei gariad ifanc Norina a'u cyfaill Malatesta yn cynllwynio i dwyllo'r hen ŵr, er mwyn diogelu eu dyfodol a'i lusgo ef i'r 21ain ganrif. 


Y Cynhyrchiad
Mae'r cyfarwyddwr Daisy Evans, y cyfarwyddwr cerdd Stephen Higgins a'r dylunydd Loren Elstein wedi rhwygo'r llyfr rheolau ac wedi newid y dyluniad, y naratif a'r libreto i wneud opera Donizetti yn gyfoes. Fel arfer, mae Don Pasquale yn cael ei gosod yn Rhufain yn ystod y 19eg ganrif, ond mae Elstein wedi creu set ddyfeisgar sy'n eich cludo i ganol Caerdydd ac yn gosod y stori yn gadarn yn y presennol. Mae'r libreto yn dilyn strwythur y gwreiddiol yn agos iawn, ond mae'n adrodd y stori mewn ffordd newydd ac arloesol tra bod yr ad-drefniad yn parhau’n agos at sgôr wreiddiol Donizetti ar gyfer cerddorfa lawn. Mae ein cynhyrchiad newydd deniadol yn ffres, cyfoes ac unigryw ac mae wedi cael ei ail-ddychmygu ar gyfer cynulleidfa fodern gyda materion cyfoes yn gyrru'r gomedi glasurol hon yn ei blaen.

Dywedodd y cyfarwyddwr a'r libretydd Daisy Evans"Pasquale is proud of his kebab van but has grown mean-minded and scared of modernisation. Ernesto and Norina stand for the future – calling for less plastic use, eco-conscious dining and stripped back design. The two sides are pitted against each other in a comedy that is bound to have you laughing as well as thinking. This is Don Pasquale like you’ve never seen or heard before."



Mae cerddoriaeth Donizetti yn heriol, i ddweud y lleiaf, ac yn sicr nid yw'r celfyddydwaith na'r ddawn gerddorol yn cael eu haberthu yn ein cynhyrchiad ni sydd wedi'i lwyfannu'n fedrus. Yn ymlafnio’u ffordd o gwmpas her leisiol sgôr Donizetti mae Andrew Shore yn y brif ran, Nico Darmanin fel Ernesto, Artist Cyswllt WNO Harriet Eyley fel Norina a Quirijn De Lang fel Malatesta.

Mae Don Pasquale yn cynnwys cast bach ac ensemble ar y llwyfan sy'n creu profiad operatig cynnes lle mae'r gynulleidfa ar flaen y digwyddiadau.  Bydd y cynhyrchiad hwn yn cynnig persbectif newydd ar glasur Donizetti ac mae'n addas ar gyfer pob oed.

Bydd Don Pasquale yn ymweld â llwyfannau llai ar draws Cymru a Lloegr rhwng 25 Mai a 13 Gorffennaf.