Ystyr lythrennol yr ymadrodd Eidalaidd bel canto yw ‘canu bendigedig’ – traddodiad a welwyd mewn canu opera Eidalaidd poblogaidd o ganol y ddeunawfed ganrif hyd at ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y syniad wrth ei wraidd oedd y dylid rhoi harddwch y llais uwchlaw popeth arall; ond naturioldeb oedd y nod, ni waeth faint o hyfforddiant yr oedd yn rhaid ei wneud.
Caiff yr arddull opera hon ei chysylltu’n arbennig gyda chyfansoddwyr Eidalaidd o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn cynnwys Rossini, Bellini a Donizetti, gyda’u harddull ddigrif, ysgafnach, symlach yn ymwneud â chariad a serch rhamantaidd, ochr yn ochr â golygfeydd gwallgof yn aml, ond bob amser yn llawn melodïau llyfn, hir. Aeth cyfansoddwyr diweddarach o’r Eidal a mannau eraill ati i ddynwared yr arddull, neu daethant dan ei dylanwad – o gyfnod cynnar Verdi, sydd fel pe bai’n parhau yn ôl troed Donizetti, hyd at gyfansoddwyr dramatig fel Wagner, er i natur y straeon sobreiddio a difrifoli.
Yr Eidalwyr yw meistri bel canto o hyd, ac yn ystod Tymor yr Hydref 2018 buom yn perfformio La Cenerentola gan Rossini. Ar gyfer sawl canwr Eidalaidd yn y cast, sy’n enwog am eu repertoire bel canto, hwn oedd eu perfformiad cyntaf gyda’r Cwmni: Giorgio Caoduro fel Dandini, Matteo Macchioni fel Don Ramiro a Fabio Capitanucci fel Don Magnifico. Mae’r mezzo-soprano o Iwerddon, Tara Erraght – sef Angelina, a elwir yn ogystal yn Sinderela – hefyd wedi ennill ei phlwyf fel cantores bel canto, ac os na wnaethoch lwyddo i’w gweld yn ein cynhyrchiad, ceir clip ar y BBC y gallwch wrando arno, lle y mae’n canu’r aria fendigedig ‘Non più mesta’.
Mae Donizetti yn un arall o blith y ‘tri arbenigwr’ bel canto, ac yn dilyn Roberto Devereux a berfformir y Tymor hwn byddwn yn cynhyrchu Don Pasquale ar raddfa fach, gan fynd â’r opera ar daith i leoliadau ar hyd a lled Cymru a Lloegr yn ystod yr haf. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Roberto Devereux, comedi hynod ddoniol yw Don Pasquale, ond ceir rhywfaint o ganu bel canto bendigedig fel yn aria Norina, ‘Quel guardo, il cavaliere’. Mae’r Cyfarwyddwr Daisy Evans a’r Arweinydd Stephen Higgins wedi sicrhau bod ein cynhyrchiad newydd yn gwbl gyfoes. Erbyn hyn, mae’r themâu gwreiddiol – lle y caiff camsyniadau rhamantaidd hen lanc eu chwalu gan y cariadon iau, Ernesto ei nai a Norina, sy’n ei dwyllo – i gyd yn troi o amgylch busnes fan gwerthu ‘cebabs doner’. Fodd bynnag, yr un yw’r stori yn ei hanfod, dim ond ei bod wedi cael gwedd fodern sy’n argoeli bod yn ddehongliad afieithus o’r clasur bel canto hwn.
Er yr ystyrir mai Lucia di Lammermoor, gyda’r aria ‘Spargi d'amaro pianto’, yw’r enghraifft orau gan Donizetti o bosibl, gellir ystyried Elisabetta yn Roberto Devereux fel rôl gyffelyb i ganwr o ran gofynion y campau lleisiol, fel Norma gan Bellini. Aria agoriadol Norma, ‘Casta Diva’, yw un o’r enghreifftiau gorau erioed o bel canto, ond mae aria olaf Elisabetta, ‘Vivi ingrato – Quel sangue versato’ yn ‘aria benigamp o’r radd flaenaf’ (Sarah Lenton, rhaglen Gwanwyn 2019 Opera Cenedlaethol Cymru), ac mae’r campau lleisiol y mae’n rhaid i’r canwr eu meistroli’n debyg i’r rhai yn aria Brenhines y Nos yn The Magic Flute.
Nid yw Opera Cenedlaethol Cymru’n perfformio gwaith Bellini, eiriolwr hollbwysig olaf bel canto, mor aml. Yn wir, I puritani, o’n Tymor yr Hydref 2015, yw’r enghraifft ddiweddaraf. Bu ein Roberto Devereux presennol ni, Barry Banks – sy’n enwog am ei repertoire bel canto – yn canu rhan y prif gymeriad rhamantaidd Arturo yn y cynhyrchiad hwn hefyd, lle y mae’n ofynnol cael tenor penigamp mewn arias fel ‘A te o cara’.
O ran arddull canu bel canto, caiff cantorion eu mawrygu am eu gallu i gyflawni campau lleisiol – ar draws yr holl ystod o nodau ar gyfer y math hwnnw o lais. Dylai tôn y llais fod yn grwn, yn gyfoethog ac yn llyfn, a dylid ei chadw’n wastad. Yna, ceir yr angen i allu canu’n dawel, yna’n uchel, ac yna’n dawel yn ôl, heb golli tôn (na chymryd anadl!). Does fawr o syndod felly fod y rhai sy’n creu enw iddynt eu hunain mewn bel canto yn ymddangos dro ar ôl tro yng nghynyrchiadau’r mawrion, Rossini, Donizetti a Bellini.
Mae dal cyfle i weld ein cynhyrchiad o Roberto Devereux gyda Barry Banks y Gwanwyn hwn wrth i’r cynhyrchiad barhau ar ei daith i Fryste, Llandudno a Southampton. Bydd Don Pasquale yn agor yng Nghasnewydd ar 25 Mai, ac yn mynd ar daith wedyn.