Newyddion

Canllaw i’n cyngerdd Caerdydd Glasurol nesaf

13 Mai 2022

Y mis hwn, bydd Cerddorfa WNO yn ymddangos ar lwyfan Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, gyda rhaglen o gyfansoddwyr blaenllaw a darn a newidiodd y byd cerddorol am byth. Bydd y cyngerdd hwn yn eich tywys ar daith gerddorol ac emosiynol unigryw, gyda choncerto bywiog i'r piano a symffoni bwerus yn nodi dyfodiad y cyfnod Rhamantaidd.

Bydd y cyngerdd yn dechrau gyda thaith drwy gefn gwlad Tsiecaidd gyda From Bohemia’s Woods and Fields, Smetana o'i gerddi disgrifiadol Má Vlast (Fy Ngwlad), sy'n portreadu hanes, chwedlau a thirlun ei famwlad. Yn fuan wedi dechrau gweithio ar y gyfres yn 1874, collodd Smetana ei glyw, ond gwrthododd adael i hynny ei rwystro, a heddiw, ystyrir ei gasgliad o chwe cherdd symffonig fel ei gampwaith mwyaf. Fe'i hystyrir gan lawer fel tad cerddoriaeth Tsiecaidd, am iddo blethu storiâu a lleoedd Tsiecaidd i mewn i'w waith. Yr enghraifft gorau o hyn yw Má Vlast, a phwy well i arwain y pedwerydd darn o fewn y campwaith Tsiecaidd hwn na'r arweinydd Tsiec ei hun, sy'n hen law ar gerddoriaeth y wlad, Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO.

Nesaf, cawn fwynhau Concerto Piano Rhif 2 Shostakovich, a gyfansoddwyd yn 1957 fel anrheg penblwydd i'w fab 19 oed, Maxim. Perfformiwyd y darn am y tro cyntaf yn ystod ei seremoni raddio yn y Moscow Conservatory. Mae'r darn yn bleser diymatal drwyddo, a chuddiodd Shostakovich amrywiaeth o gyfeiriadau teuluol o fewn y gerddoriaeth - jôcs mai dim ond ef a Maxim fyddai'n eu deall yn iawn. O gymharu â sawl gwaith arall ganddo, mae'r concerto hwn yn serennu o ran yr ymdeimlad o ryddid ac ymollwng a geir. Gall ail symudiad araf y darn hwn fod yn gyfarwydd i glustiau'r rhai sy'n hoff o ffilmiau yn eich plith am iddo gael ei ddefnyddio yn Bridge of Spies, gan Steven Spielberg sy'n serenni Mark Rylance a Tom Hanks. Bydd y pianydd gwefreiddiol Steven Osborne yn ymuno â'r Gerddorfa ar gyfer y darn hwn. Y tro diwethaf iddo berfformio â'r Cwmni oedd ym mis Ionawr 2020, pan wnaethom ail-greu cyngerdd epig Beethoven o 1808, sy'n arwain at y darn terfynol yn y rhaglen arbennig hon. 

Torrodd Symffoni Rhif 3 Beethoven (Eroica) sawl traddodiad o fewn y symffoni glasurol - o'r defnydd o harmoni i hyd y darn. Cyfansoddwyd Symffoni Eroica rhwng 1803-04, a chafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn Fienna ar 7 Ebrill 1805. Fe'i hystyrir gan lawer yn drobwynt yn y newid rhwng y cyfnod Clasurol a'r cyfnod Rhamantaidd. Dyma ddechrau cyfnod cyfansoddi 'arwrol' Beethoven, lle mynnodd y byddai'n creu 'llwybr newydd'. Nid oes darn arall yn cyfleu ei fwriad cystal, na'r feistrolaeth a oedd ei hangen i'w gyflawni.

Dim ond llond llaw o resymau'n egluro pam fod y cyngerdd hwn yn brofiad na ddylid ei fethu yw'r rhain. Cofiwch, os na allwch fod yn bresennol ar y noson, bydd Cerddorfa WNO yn mynd ar daith ledled Cymru a Lloegr yn ystod yr haf gyda dwy raglen wych o ffefrynnau cerddorol - Dathliad Ganol Haf a Chlasuron Opera – sy'n cynnwys gwaith gan Mendelssohn, Mozart, Verdi, Vaughan Williams a chomisiwn newydd gan y cyfansoddwr o Gymru, Owain Llwyd.