Newyddion

Canllaw i Un ballo in maschera

21 Rhagfyr 2018

Mae ein tymor Gwanwyn yn agor gydag ail ran ein trioleg Verdi, Un ballo in maschera. Mae’r cynhyrchiad newydd sbon hwn, sy’n cael ei gyfarwyddo gan David Pountney a’i arwain gan Carlo Rizzi*, yn ailuno tîm creadigol La forza del destinoac yn defnyddio’r un set mewn ffordd newydd, hynod ddiddorol.

Os nad ydych yn gyfarwydd â stori Un ballo in maschera, dyma ganllaw cryno i’r prif blot.

Mae’r opera yn seiliedig ar stori wir llofruddiaeth y Brenin Gustav III o Sweden, a saethwyd yn ystod dawns fasgiau yn y Royal Opera House yn Stockholm. Roedd dewis Verdi o libreto yn ddewis peryglus iawn gan fod yr Eidal mewn gwrthryfel, gofynnwyd iddo newid pwnc ei waith. Cadwodd at y testun, ond yn awyddus i berfformio’r gwaith newidiodd y lleoliad ac enwau’r cymeriadau. Gosodwyd yr olygfa ymhell i ffwrdd yn Boston, ac israddiwyd y prif gymeriad i Riccardo, llywodraethwr y ddinas.

Rydym yn ymuno â’r cynnwrf wrth i Riccardo wirio’r rhestr o westeion a fydd yn mynychu’r ddawns fasgiau arfaethedig ac mae’n gwirioni o weld bod Amelia, ei wir gariad, ar y rhestr. Yn anffodus, mae hi’n briod yn barod i’w ffrind a chynghorydd, Renato. Mae Renato yn rhybuddio Riccardo am gynllwyn yn ei erbyn, ond mae’n anwybyddu’r rhybudd. Yna caiff Riccardo’r gwaith o ymchwilio i wraig dweud ffortiwn, Ulrica, sydd wedi ei chyhuddo o ddewiniaeth. Wrth ysbïo ar Ulrica, mae Riccardo yn gweld Amelia yn cyrraedd. Mae’n digwydd clywed Amelia yn dweud ei bod yn ei garu ac yn gofyn sut y gall ganfod heddwch.  Mae Ulrica yn ei chynghori i gasglu llysieuyn penodol gyda phwerau hudol ac mae Amelia yn gadael. Mae Riccardo mewn cuddwisg yn cyflwyno ei hun i Ulrica ac yn gofyn iddi ddweud ei ffortiwn. Mae Ulrica yn rhagweld y bydd yn cael ei ladd gan y dyn nesaf i ysgwyd ei law. Mae’n anwybyddu hyn, gan gynnig ei law i wŷr llys, ond mae pob un yn gwrthod. Mae Renato yn cyrraedd ac yn ysgwyd llaw Riccardo, gan wneud i broffwydoliaeth y ddewines ymddangos fel celwydd, o gofio cyfeillgarwch y dynion.

Mae Amelia ar gyrion y dref am hanner nos, er mwyn casglu’r llysieuyn. Mae hi’n rhyfeddu wrth weld Riccardo yno, ond mae’r ddau yn datgan eu cariad tuag at ei gilydd o’r diwedd. Mae Renato yn cyrraedd yn ddirybudd ac mae Amelia yn cuddio ei hwyneb cyn iddi gael ei darganfod. Mae Renato yn dweud wrth Riccardo bod cynllwynwyr ar ei ôl ac mae Riccardo yn ffoi, gan fynnu bod Renato yn hebrwng y ferch yn ôl i’r dref. Mae’r cynllwynwyr yn cyrraedd ac yn dod wyneb yn wyneb â Renato – mae gwrthdaro ac mae hunaniaeth Amelia yn cael ei datgelu. Mae Renato yn tybio bod ei wraig a’i ffrind yn gariadon ac mae’n gofyn i’r cynllwynwyr ei gyfarfod y diwrnod canlynol.

Mae Renato yn cynllwynio i ladd Amelia am ddwyn cywilydd arno. Mae hi’n erfyn arno ei bod yn ddieuog ac yn ymbil am gael gweld ei mab. Mae Renato yn ildio ac yn penderfynu mai Riccardo ddylai farw mewn gwirionedd. Mae Renato a’r cynllwynwyr yn cyfarfod ac yn tynnu blewyn cwta i weld pwy fydd yn lladd Riccardo. Mae Amelia yn cael ei gorfodi i dynnu’r enw a Renato yw’r un. Maent yn penderfynu y bydd y weithred yn cael ei chyflawni yn y ddawns fasgiau.

Mae Riccardo, yn y cyfamser, wedi addo ymwrthod â’i gariad tuag at Amelia ac anfon hithau a Renato yn ôl i Loegr. Fodd bynnag, mae Renato yn adnabod beth sydd gan ei elyn amdano, ac fel mae Riccardo yn dweud wrth Amelia am ei benderfyniad ac yn ffarwelio, mae Renato yn ei drywanu. Mae Riccardo, ar farw, yn cadarnhau - er ei fod mewn cariad ag Amelia, na wnaeth hi erioed dorri ei haddunedau priodas.

Drama, cariad a marwolaeth – noson berffaith yn yr opera!

 *Yng Nghaerdydd a Birmingham yn unig y mae Carlo Rizzi yn arwain perfformiadau