Newyddion

Er cof am David Seligman OBE

25 Awst 2021

Llun trwy garedigrwydd Paul Seligman

Gyda thristwch mawr ein bod ni yn Opera Cenedlaethol Cymru yn cydnabod marwolaeth David Seligman OBE. 

Bu David ynghlwm â’r Cwmni am sawl blwyddyn, fel Aelod Bwrdd (1989 - 2000), Cyfaill WNO, Partner WNO, cefnogwr corfforaethol a chyfrannwr mawr. Cafodd David a’i ddiweddar wraig Philippa lawenydd mawr o rannu eu cariad at y celfyddydau perfformio ac roeddent yn gefnogwyr hael o waith WNO, yn benodol gyda phobl ifanc a doniau ifanc, yn annog a chefnogi nifer o berfformwyr ifanc dros y blynyddoedd, trwy eu cefnogaeth i Opera Ieuenctid WNO.


Mae marwolaeth David yn golled enfawr i WNO a phawb oedd yn ei adnabod. Dyn preifat ydoedd ac eto felly un rhoi o'i amser, ei ddiddordeb a'i garedigrwydd, i ddweud dim o'i haelioni. Roedd ef a Philippa yn bobl arbennig iawn ac rwy'n teimlo'n ffodus iawn fy mod wedi eu hadnabod

Sara Evans, WNO

Roedd David yn aelod hir sefydledig ac uchel ei barch o gymuned fusnes Caerdydd ac roedd ef a Philippa yn ddyngarwyr mawr, a fynegwyd trwy eu hymglymiad â llawer o sefydliadau celfyddydol yng Nghaerdydd a thu hwnt. 

Roedd David yn hael, caredig, diffuant, a llawn gwybodaeth. Bydd colled fawr ar ei ôl. 

Mae ein meddyliau a'n dymuniadau gyda'i deulu.