Wedi’i sefydlu yn 1995, gan ei Sylfaenydd a Chadeirydd, Mathew Prichard CBE, mae Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston wedi rhoddi breindaliadau o The Mousetrap - dirgelwch llofruddiaeth eiconig a ysgrifennwyd gan nain Mathew, Agatha Christie - i gefnogi dros 180 o sefydliadau ledled y DU.
‘I ddathlu 30 Mlwyddiant yr Ymddiriedolaeth a mwy na 30,000 perfformiad o The Mousetrap ers i’r ddrama gychwyn ar yr 8fed o Fehefin 1952, roeddem yn awyddus i ddathlu mynegiant creadigol a’r grefft o adrodd stori, boed hynny drwy gerddoriaeth, opera, perfformiad, y celfyddydau gweledol, arddangosfeydd neu’r gair ysgrifenedig.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru wrth dderbyn grant yn falch iawn o dderbyn grant gan y Gronfa tuag at ein comisiwn newydd o The Flying Dutchman o waith Wagner. Mae ailddychmygiad newydd y Cyfarwyddwr o Gymru, Jack Furness, gyda dyluniad gan Elin Steele, yn cyfuno harddwch gerwin arfordir Cymru gyda phŵer sgôr eiconig Wagner. Bydd The Flying Dutchman yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 16 Ebrill, cyn mynd ar daith i Plymouth, Birmingham a Milton Keynes, a bydd yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus, yn ei gynhyrchiad olaf i’r cwmni.
Dywedodd Adele Thomas a Sarah Crabtree, Cyd-Gyfarwyddwyr Cyffredinol a Phrif Swyddogion Gweithredol Opera Cenedlaethol Cymru, ‘Mae'n fraint o'r mwyaf cael dwyn ynghyd ein Cyfarwyddwr Cerdd arbennig, Tomâš Hanus â thîm ifanc dawnus o Gymru, dan arweiniad Jack Furness sy'n perfformio am y tro cyntaf ar y prif lwyfan gyda WNO, ochr yn ochr ag Elin Steele y mae ei dyluniad hardd wedi'i ysbrydoli gan arwder a phrydferthwch eang arfordir Cymru. Roedd y comisiwn trawiadol newydd hwn yn bosibl gyda diolch i grant gan Gronfa 30 Mlwyddiant Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston a hoffem ddiolch iddynt am fod yn bartner hanfodol yn eich uchelgais i ddod ag opera radicalaidd, hygyrch o safon uchel, wedi’i hysbrydoli gan ddiwylliant Cymru, to i’r llwyfan i gynulleidfaoedd ei mwynhau.’
Dywedodd Mathew Prichard, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston ‘Mae Ymddiriedolaeth Colwinston yn falch iawn o fod yn dathlu 30 mlynedd o weithio gyda chymaint o sefydliadau celfyddydol o safon uchel ledled y DU drwy ddyfarnu Grant Pen-blwydd arbennig i Opera Cenedlaethol Cymru, i gefnogi eu cynhyrchiad o The Flying Dutchman, wrth iddynt ddathlu eu pen-blwydd yn 80 oed.
