Newyddion

Tymor yr Hydref yn dechrau yr wythnos hon

10 Medi 2018

Yma yng nghartref WNO, Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, mae’r prysurdeb wedi cynyddu eto wrth inni gyrraedd y dyddiau olaf cyn noson agoriadol Tymor yr Hydref.

Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn wrth feddwl am weld canlyniad gorffenedig cynhyrchiad newydd sbon David Pountney o War and Peace gan Prokofiev. Bydd y perfformiad yn dechrau am 6.30pm ar nos Sadwrn y 15fed o Fedi. I’r rhan fwyaf ohonom, mae hon yn opera newydd yn ogystal â chynhyrchiad newydd ac, wedi inni ddod i arfer â’r ffaith fod gan bob aelod o’r cast lawer o wahanol rolau a bod yr opera’n seiliedig ar nofel 1,200 o dudalennau, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ei gweld yn dod yn fyw ar y llwyfan.

Bydd adfywiad o gynhyrchiad 2009 o La traviata yn dilyn, gan ddod â glamor ac ysblander i’r Tymor. Mae’r cynhyrchiad wedi ei osod yng nghanol y 19eg ganrif ac mae o hyd yn bleser cael ymgolli yng nghymdeithas Parisaidd Verdi. Eleni mae gennym ddwy brif ferch yn chwarae rhan Violetta, ac mae’r ddwy yn sicr o roi eu stamp eu hunain ar ran yr arwres wrth iddi wynebu cariad a cholled, yn arddull draddodiadol y byd opera. Os ydych yn dod i’r perfformiad cyntaf ar y 21ain o Fedi, cewch weld Linda Richardson, perfformwraig reolaidd gyda WNO, yn chwarae’r cymeriad eiconaidd hwn.

Bydd y Tymor yng Nghaerdydd yn dod i ben ar nodyn doniol yn ein hadfywiad cyntaf o La Cenerentola gan Rossini ers i ni berfformio’r cynhyrchiad hwn am y tro cyntaf yn 2007. Bydd yr addasiad lliwgar o stori Sinderela Rossini yn werth aros amdano. Gyda’r cast lleiaf o’r tair opera, bydd yn cynnwys chwech o gantorion ardderchog yn mwynhau eu profiad cyntaf mewn prif gynhyrchiad gan WNO ac ni allwn aros i’w clywed.

Unwaith y byddwn wedi gorffen yma yng Nghaerdydd, byddwn yn mynd wedyn i deithio am y Tymor, gan ymweld â Rhydychen, Llandudno, Bryste, Lerpwl, Birmingham, a Southampton, gan ddychwelyd ar ddiwedd mis Tachwedd. Noder na fydd War and Peace yn cael ei berfformio yn The Bristol Hippodrome nac yn y Liverpool Empire Theatre.

A pheidiwch ag anghofio – yn ogystal â Thymor ein prif gynyrchiadau, o dydd Mercher 3 Hydref, bydd ein cabaret operatig pum seren gyda naws theatr gerdd Edwardaidd (fel mae Caroline Clegg, y Cyfarwyddwr, yn ei ddisgrifio), sef Rhondda Rips it Up!, yn mynd ar daith unwaith eto. Bydd yn ymweld ag Abertawe, Rhydychen, Bangor, Swindon, Northampton, yr Wyddgrug a Chaer-wynt rhwng y perfformiad agoriadol a’r 20fed o Dachwedd.