Newyddion

Dathlu Opera Americanaidd ar gyfer Diolchgarwch

23 Tachwedd 2023

Heddiw, dydd Iau 23 Tachwedd 2023, bydd miliynau o Americanwyr yn yr Unol Daleithiau a ledled y byd yn dod at ei gilydd i ddathlu Diolchgarwch. Mae Opera Cenedlaethol Cymru wrth ei fodd yn perfformio operâu a cherddoriaeth o bob rhan o’r byd, a pha ffordd well o ddangos ein gwerthfawrogiad o gerddoriaeth o’r ochr arall i’r na thrwy archwilio rai o operâu gorau America?

Dechrau'r 20fed Ganrif

Nid tan ddechrau'r 20fed ganrif y dechreuodd perfformiadau o opera Americanaidd ddod i'r amlwg yn yr UDA. Roedd cyfansoddwyr opera Americanaidd y dydd yn cynnwys Scott Joplin a’r émigrés Kurt Weill ac Erich Wolfgang Korngold, ac yn y cyfamser roedd comisiynau pwysig gan The Metropolitan Opera yn cyflwyno operâu gan Deems Taylor a Howard Hanson.

Mae'r clip hwn yn dangos efallai'r gân enwocaf o opera enwog George Gershwin, Porgy and Bess (1935), Summertime, sydd bellach yn gân jazz sylfaenol erbyn hyn.

Canol yr 20fed Ganrif

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dechreuodd cynhyrchiad opera Americanaidd gartref o ddifrif yng ngweithiau Gian Carlo Menotti, Carlisle Floyd, Aaron Copland, Samuel Barber a Virgil Thomson.

Roedd y cyfansoddwr a'r arweinydd Leonard Bernstein yn ffigwr allweddol yn ystod y cyfnod hwn. Yn gynharach eleni, perfformiodd WNO ei opereta fywiog Candide (1956). Roedd Bernstein bob amser yn dyheu am gyfansoddi operâu a chwblhaodd dwy arall; Trouble in Tahiti (1952) a A Quiet Place (1983).

Diwedd yr 20fed Ganrif i droad y Mileniwm

Yn ddiweddarach, gwelodd America'r cyfansoddwyr cyfoes mawr Philip Glass a John Adams yn dod i'r amlwg ar y byd rhyngwladol. Ynghyd â John Corigliano, Anthony Davis, Mark Adamo, Jake Heggie a Meredith Monk, archwiliodd operâu’r cyfansoddwyr hyn ddiwylliant modern a materion gwleidyddol dadleuol.

Perfformiodd WNO opera gyntaf Jake Heggie, Dead Man Walking (2000) fel rhan o'n Tymor RHYDDID yn 2019. Wedi'i ailwampio o gofiant yr actifydd gwrth-gosb marwolaeth Chwaer Helen Prejean, mae bellach yn un o'r operâu cyfoes a berfformir fwyaf yn America, gan fod ar y llwyfan fwy na 40 o weithiau ar draws y cyfandir gogleddol. 

21ain Ganrif

Mae cyfansoddwyr opera Americanaidd yn yr 21ain ganrif wedi parhau i archwilio pynciau dadleuol ac anodd gyda gweithiau newydd cwbl wreiddiol. Diolch byth, yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu amrywiaeth enfawr o gyfansoddwyr Americanaidd, gyda llawer mwy o fenywod a chyfansoddwyr o liw yn ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, yn eu plith roedd Terence Blanchard, Matthew Aucoin, Nico Muhly, Shara Nova, Ellen Reid, Kate Soper, Tobias Picker a Laura Kaminsky.

Mae opera Jeanine Tesori Blue (2019) yn archwilio effaith creulondeb yr heddlu ar deulu o bobl ddu yn yr Unol Daleithiau, gan amlygu’r anghyfiawnder a’r anghydraddoldeb sy’n dal i fodoli yn eu cymunedau heddiw.

Migrations(2022)

Migrations WNO a gafodd ei pherfformiad byd cyntaf y llynedd yng Nghaerdydd. Er nad yw mewn gwirionedd yn opera Americanaidd (fe'i hysgrifennwyd gan y cyfansoddwr Prydeinig Will Todd), mae un o'i storiâu’n canolbwyntio ar daith llong y Mayflower, a gludodd yr ymfudwyr cyntaf o Loegr ar draws Môr yr Iwerydd i America yn 1620. Dywedwyd mai’r pereinion hyn oedd wedi rhannu'r dathliad Diolchgarwch cyntaf gyda'r bobl Wampanoag brodorol yn 1621.

Os ydych yn dathlu dydd Iau yma – dymunwn Ddiolchgarwch Hapus iawn i chi.