Mae’n Fis Balchder, ac rydym yn tynnu sylw at gymeriadau chwedlonol sydd wedi gwneud cerddoriaeth glasurol yn fwy swnllyd, beiddgar a chwiar. O neuaddau cyngerdd i’r tŷ opera, mae cyfansoddwyr LHDTC+ wedi bod yn llywio sain cerddoriaeth glasurol ers cenedlaethau.
Roedd rhai yn byw yn gyfrinachol, ac eraill yn byw eu bywydau allan yn swnllyd. Ond mae pob un ohonynt wedi rhoi i ni gerddoriaeth sy’n apelio at yr enaid. Y mis hwn, rydym yn dathlu rhai o’r cyfansoddwyr hynny.
Leonard Bernstein
Roedd Leonard Bernstein yn sefyll ar reng flaen y sin gerddorol Americanaidd yn y 20fed ganrif. O hanes digyfnewid y sioe gerdd West Side Story i daith wyllt yr opereta Candide, roedd gwaith Bernstein heb os yn drydanol.
Ond roedd Bernstein yn fwy na chyfansoddwr. Roedd yn weithredydd brwd dros y mudiad hawliau sifil, gan alw am ddiarfogi niwclear ac annog gweinyddiaeth Reagan i gydnabod argyfwng AIDS.
Roedd yn ddeurywiol agored mewn cylchoedd personol, gan geisio cynnal priodas gymhleth gyda’r actores Felicia Montealegre tra’n cael perthnasoedd rhamantaidd gyda dynion. Roedd ei rywioldeb, er mai anaml y câi ei rannu’n gyhoeddus ar y pryd, yn treiddio i’w gerddoriaeth gyda themâu o gariad a pherthyn, yn arbennig mewn gweithiau hynod bersonol megis Mass.

Julius Eastman
Roedd Julius Eastman yn gyfansoddwr avant-garde oedd yn torri tir newydd, yn ddatgeiniad ac yn ymgyrchydd yr oedd ei gerddoriaeth yn herio confensiwn. Ac yntau’n ddyn du hoyw balch oedd yn gweithio ym myd haearnaidd cerddoriaeth glasurol y 1970au a’r 1980au, roedd Eastman yn cyfuno themâu lleiafsymiaeth, jazz a phrotest yn ei waith.
Roedd ei gyfansoddiadau yn fwriadol bryfoclyd ac wedi’u creu’n fwriadol er mwyn dod wyneb yn wyneb gyda hiliaeth a homoffobia’n uniongyrchol. Roedd teitlau ei weithiau’n ennyn dadleuon; fodd bynnag, roedd ei neges gyffredinol yn eglur: mae lleisiau du cwiar yn perthyn i fyd cerddoriaeth glasurol.
Ni chafodd cyfansoddiadau megis Gay Guerilla dderbyniad da, er eu bod yn bwysig o ran eu neges. Fodd bynnag, gyda diddordeb o’r newydd yn ei waith, mae Julius yn ein hatgoffa bod rhyddid werth ymladd drosto bob amser.
Y Fonesig Ethel Smyth
Does dim dwywaith nad oedd Ethel Smyth yn rhywun a oedd o flaen ei hamser. Hi oedd y cyfansoddwr benywaidd cyntaf i dderbyn teitl bonesig ac roedd yn eiriolwr penderfynol dros fudiad pleidlais i fenywod. Cyfansoddodd operâu, gweithiau corawl ac anthemau wnaeth ennill calonnau a herio’r sefyllfa oedd ohoni.
Roedd Smyth yn lesbiad eofn a chafodd sawl perthynas angerddol gyda merched, gan gynnwys perthynas ddwys gydag arweinydd y swffragetiaid Emmeline Pankhurst. Daeth ei thema deimladwy y March of Women yn gri heriol dros y mudiad pleidlais i fenywod. Roedd hi’n fwy nag ymgyrchydd a chyfansoddwr. Mae’n eicon sy’n ymgorffori union ysbryd Mis Balchder.
Ivor Novello
Mae Ivor Novello yn parhau i fod yn un o drysorau cenedlaethol mwyaf Cymru. Mae’n bosib y byddai rhai sy’n ymweld â’r opera yn rheolaidd yn ein lleoliad ym Mae Caerdydd yn ei adnabod fel y cerflun sy’n eistedd yn falch y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru. Yn gyfansoddwr, ddramodwr a pherfformiwr, ac fe gododd Novello i enwogrwydd gyda’i lwyddiant ysgubol Keep the Home Fires Burning yn 1914, anthem deimladwy yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Er iddo fyw yn ystod cyfnod lle roedd rhagfarn eang, roedd cyfunrhywiaeth Novello yn gyfrinach agored. Rhannodd bartneriaeth 35 mlynedd gyda’r actor Robert ‘Bobbie’ Andrews. Mae ei etifeddiaeth yn parhau hyd heddiw, nid yn unig drwy ei gerddoriaeth, ond yn y theatr yn y West End sy’n dwy’n ei enw.
