Newyddion

Dathlu #Rossini150

13 Tachwedd 2018

Mae pob cyfansoddwr eisiau bod yn llwyddiannus, yn uchel ei barch ac yn boblogaidd ond yn anaml y mae pob un o’r rhain yn cael eu gwireddu yn ystod oes y cyfansoddwr. Fodd bynnag, llwyddodd Rossini i wneud hynny. Roedd Gioachinio Antonio Rossini yn un o bon viveurs mawr cerddoriaeth glasurol a’r cyfansoddwr opera mwyaf poblogaidd, llwyddiannus a dylanwadol hanner cyntaf y 19eg ganrif. Yn cael ei gydnabod am ei arddangosfeydd lleisiol, hynod addurniadol, lled-glasurol, lliwiau egsotig a golygfeydd ysblennydd, ymgymerodd â'r dasg anferthol o lusgo'r ffurfiau beichus a marwaidd o opera Eidalaidd y 18fed ganrif i gyfnod newydd ar ei ben ei hun.

Wedi cyfansoddi bron i 40 o operâu mewn cynifer o flynyddoedd, mae selogion opera wedi cael eu cyffroi gan gampweithiau Rossini ers blynyddoedd. Ymhlith ei operâu comig ysgafn mwyaf adnabyddus mae The Barber of Seville (1816), La Cenerentola (1817), ac o’i operâu dramatig diweddarach, yr un a glywir amlaf yw William Tell (1829), ac mae pob un ohonynt wedi ymddangos yn WNO dros y blynyddoedd. Heddiw, ar ei ben-blwydd yn 150 oed; rydym yn edrych yn ôl ar y berthynas rhwng y cyfansoddwr o’r Eidal a WNO.

Perthynas WNO â Rossini mewn rhifau

410211919
operaCynhyrchiad newyddAdfywiadArweinyddLleoliad

Cymerodd Rossini tair wythnos yn unig yn 1816 i gwblhau The Barber of Seville, un o gampweithiau opera comig a’r opera Rossini cyntaf i WNO ei llwyfannu. Yn hydref 1956, llwyfannodd WNO gynhyrchiad newydd gan Harry Powell Lloyd, a oedd yn ddewis poblogaidd, ochr yn ochr â I Lombardi, La bohème, Cavalleria rusticana a Pagliacci, Tosca a Nabucco. Roedd y cast yn cynnwys William Dickie fel Figaro, Tano Ferendinos fel Count Almaviva, Barbara Wilson fel Rosina a Howell Glynne fel Dr Bartolo. Heddiw mae The Barber of Seville gan Rossini wedi ei gwreiddio'n gadarn yn repertoire WNO. Gyda 6 cynhyrchiad newydd a 17 adfywiad, dyma opera mwyaf poblogaidd Rossini yn WNO. Gallwch ail-fyw cynhyrchiad beiddgar a llachar Sam Brown, a ffurfiodd ran o'n tymor Figaro Forever yn ystod gwanwyn 2016 isod.

Ymddangosodd campwaith mwyaf Rossini, William Tell, am y tro cyntaf yn WNO yn 1961 gyda chynhyrchiad newydd gan John Moody, a benodwyd yn Gyfarwyddwr Cynyrchiadau WNO yn y flwyddyn flaenorol, dan faton Cyfarwyddwr Cerdd WNO ar y pryd, Charles Groves. Cafodd yr opera ei hadfywio'r flwyddyn ganlynol ond ni chafodd ei llwyfannu eto tan 2014 – cynhyrchiad newydd tywyll a chyfareddol, gan Gyfarwyddwr Artistig WNO, David Pountney, wedi’i arwain gan Arweinydd Llawryfol WNO Carlo Rizzi. Roedd y cast yn cynnwys David Kempster fel Tell, Leah-Marian Jones fel ei wraig ffyddlon Hedwige a Fflur Wyn fel ei fab dewr Jemmy.

Ymddangosodd Moses in Egypt, a gafodd yr is-deitl azione tragico-sacra, am y tro cyntaf yn WNO yn 1965, mewn cynhyrchiad newydd gan John Moody, wedi’i arwain gan Bryan Balkwill. Dyma'r tro cyntaf i'r opera gael ei gweld ym Mhrydain ers dros 100 mlynedd. Roedd cast cryf wedi ei ymgynnull gyda Michael Langdon fel Moses, Pauline Tinsley fel Sinaida, Lorna Elias fel Anna a Stuart Burrows fel Eleazor. Derbyniwyd y cynhyrchiad gyda diddordeb mawr a chafodd ei adfywio'r flwyddyn ganlynol. Bron i 50 mlynedd yn ddiweddarach, llwyfannodd WNO gynhyrchiad newydd gan David Pountney, a ffurfiodd ran o'r tymor Rhyddid neu Farwolaeth, ochr yn ochr â William Tell.

Yr opera olaf gan Rossini i ddod yn rhan o repertoire WNO oedd ei fersiwn ef o’r stori dylwyth teg, Sinderela. Ymddangosodd La Cenerentola gyntaf yn WNO yn 2007 gyda chynhyrchiad newydd rhyfeddol a lliwgar gan Joan Font, dan faton Carlo Rizzi. Yn hydref 2018 gwelwyd adfywiad o’r opera tebyg i bantomeim hon, sy'n cynnwys tad meddw, chwiorydd maleisus, a siop gyfnewid liwgar o ddillad a fenthycwyd. O dan faton Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus, mae'r cast yn cynnwys Tara Erraught fel Angelina, Aoife Miskelly a Heather Lowe fel Clorinda a Tisbe, Matteo Macchioni fel Don Ramiro, Giorgio Caoduro fel Dandini, Fabio Capitanucci fel Don Magnifico a Wojtek Gierlach fel Alidoro.

Mae ein hadfywiad o La Cenerentola ar daith ar hyn o bryd a bydd yn ymweld â Birmingham Hippodrome a Theatr Mayflower Southampton y mis hwn.