Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi perfformio sawl opera sydd wedi'u gosod yn Sbaen, gan gynnwys ein cynhyrchiad presennol, Ainadamar. Mae’r sioe Sbaenaidd yn uno opera a flamenco mewn corwynt 80 munud o hyd, yn ail-adrodd hanes bywyd Federico García Lorca yn ôl ei ffrind agos a’i awen, Margarita Xirgu. Wedi’i eni yn ninas Granada yn Sbaen, roedd Lorca’n fardd, yn ddramodydd a’n ymgyrchydd, a gafodd ei lofruddio gan y fyddin Ffalanchaidd yn ystod rhyfel cartref Sbaen am fod yn ‘sosialydd hoyw’. Ymroddodd Margarita ei bywyd i berfformio gwaith Lorca, yn benodol wrth chwarae’r brif rôl yn Mariana Pineda.
Ainadamar yw'r tro cyntaf i WNO berfformio yn Sbaeneg, ond nid dyma’r tro cyntaf ini gyflwyno elfen Sbaenaidd i’r llwyfan. O Granada i Seville, gadewch ini ail-ymweld â’n hoff operâu sydd wedi’u gosod yn heulwen Sbaen.
Wrth feddwl am ‘opera’ a ‘Sbaen’, mae’n debyg mai’r peth cyntaf fydd yn dod i’r meddwl yw aria Toreador, Votre toast, je peuxvous le rendre, o Carmen. Wedi'i lleoli yn Seville, mae opera Bizet yn adrodd hanes Carmen, merch ysgafnfryd a bywiog sy’n swyno’r milwr, Don José. Pan mae’n aberthu ei hen fywyd iddi hi, nid yw hi’n barod am y digwyddiadau a fydd yn datblygu. Yn y pen draw, mae dyn arall yn mynd â’i bryd, Escamillo, ac mae cenfigen Don José yn ffrwydro mewn diweddglo cyffrous.
Gan ein bod yn sôn am Seville, mae opera gomicRossini, The Barber of Seville, wedi’i lleoli o gwmpas plaza Sbaenaidd traddodiadol. Mae Iarll Almaviva wedi syrthio mewn cariad gyda Rosina, merch lanhau Doctor Bartolo, ond mae gan ei gwarchodwr gynlluniau eraill, ac mae’n bwriadu cadw Rosina i'w hun. Mae Almaviva yn gofyn am gyngor barbwr lleol, Figaro, i drechu ei gynlluniau, a thrwy gyfres o ddigwyddiadau doniol a thwyllodrus, mae Fiagro’n ymgymryd â rôl ciwpid.
Mae hanes ein ciwpid, Figaro, yn cael ei hadrodd yn The Marriage of Figaro pan mae Mozart yn ail-gydio yn y stori ar ôl Rossini. Wrth i ni barhau yn Seville, yng Nghastell yr Iarll Almaviva, rydym yn disgwyl gweld diwrnod hapusaf bywydau Figaro a Susanna. Fodd bynnag, mae’r Iarll yn benderfynol o fachu Susanna iddo’i hun. Mae Figaro yn ceisio trechu ei feistr er mwyn ennill anrhydedd ei wraig, ond mae Cherubino ifanc yn drysu pethau eto fyth.
Yn amlwg, mae Seville yn meithrin chwant a sgandal, wrth i Don Giovanni, cymeriad carismatig sydd wedi bod yn swyno ei ffordd o gwmpas Ewrop, lanio yn y ddinas yn Sbaen. Pan fo un o’i goncwestau’n darfod gyda llofruddiaeth, mae’n dianc, wedi’i ddilyn gan gyn-gariadon, dyweddïon a grym o du hwnt i’r bedd. Ond, pan mae’n gwrthod dangos ei fod yn edifarhau, mae ei orffennol yn ei lorio ac yn ei arwain at ei ddiweddglo terfynol.
Os ydym wedi codi'r awydd ynoch chi i fwynhau sioe Sbaenaidd, dewch i wylio Ainadamar ar daith tra medrwch chi; mae eisoes wedi syfrdanu cynulleidfaoedd yng Nghaerdydd a Llandudno, a bydd yn ymweld â Bryste, Plymouth, Birmingham, Milton Keynes a Southampton.