Newyddion

Oeddech chi’n gwybod…? Così fan tutte

15 Ionawr 2024

Opera gomedi Così fan tutte gan Mozart yw un o’r operâu sydd wedi’i pherfformio fwyaf yn y byd, ac fel yn achos sawl cynhyrchiad, mae nifer o storïau diddorol yn gyd-destun iddo. Wrth i Opera Cenedlaethol Cymru baratoi ei gynhyrchiad newydd o stori ffraeth Mozart, a gyfarwyddir gan Max Hoehn, beth am ganfod rhagor am yr hanes sydd ynghlwm i’r clasur comedïaidd hwn.

Offeryn llai adnabyddus

Mae Così fan tutte yn cynnwys offeryn unigryw a ddefnyddiwyd yn helaeth yn ystod oes Mozart, ond na fyddai’n cael ei gynnwys yn aml mewn cyfansoddiadau operatig. Defnyddir y ‘fortepiano’, sef rhagflaenydd y piano modern, trwy gydol yr opera, i gyfeilio i’r cantorion, ac mae’r offeryn llawn mynegiant a dynamig hwn yn ychwanegu tro unigryw yn sgôr rhyfeddol Mozart.

Fu bron i Mozart beidio â chael y libreto

Roedd Lorenzo da Ponte yn libretwr cynhyrchiol trwy gydol y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif, ac roedd eisoes wedi gweithio gyda Mozart ar The Marriage of Figaro a Don Giovanni. Fodd bynnag, cynigiwyd libreto gwreiddiol da Ponte ar gyfer Così fan tutte i Salieri, yr oedd wedi cydweithio ag ef yn flaenorol, ar sawl achlysur. Yn y diwedd, cynigiwyd y libreto ar gyfer yr opera newydd i Mozart ar ôl ei adfywiad llwyddiannus o The Marriage of Figaro.

Chwarae cast o fewn sgôr Mozart

Ceir cryn dystiolaeth o hiwmor Mozart, a defnyddiodd y cyfansoddwr ifanc ei gerddoriaeth i ddifyrru ei hun weithiau. Roedd yn gas gan Mozart y soprano Adriana Ferrarese del Bene, er mai meistres da Ponte oedd hi. Yn ei libreto, ysgrifennodd da Ponte rôl Fiordiligi ar gyfer ei feistres, a chymerodd Mozart ei gyfle i geisio codi cywilydd arni yn yr opera. Gan wybod tueddiad y soprano i ostwng ei gên wrth ganu nodau isel, ac i daflu ei phen yn ôl ar nodau uchel, fe aeth Mozart ati i lenwi ei aria Come scoglio gyda neidiau parhaus yn ôl ac ymlaen o nodau uchel i isel, er mwyn gwneud i’w phen siglo i fyny ac i lawr fel iâr ar y llwyfan.

Perfformiadau anghyson Così

Nid oedd Così fan tutte bob amser yn un o brif gynheiliaid y repertoire o operâu. Cafodd y gyfres gychwynnol o berfformiadau’r opera yn Vienna ei chwtogi o ganlyniad i farwolaeth Ymerawdwr Awstria, Joseff II yn Chwefror 1790, ynghyd â’r cyfnod o alar cenedlaethol a ddilynodd hynny. Yn dilyn marwolaeth Mozart yn 1791, prin iawn oedd y perfformiadau o’r opera, gan y credai cynulleidfaoedd yn y 19eg a’r 20fed ganrif bod y stori’n rhy gywilyddus ac anfoesol, a, gan amlaf, byddai’r mwyafrif o berfformiadau yn y cyfnod hwn yn newid ac yn diwygio’r libreto i fod yn fwy addas. Fodd bynnag, nid oedd yn y cysgodion am byth, ac yn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, daeth yn fwy poblogaidd, ac mae’n cael ei pherfformio’n rheolaidd bellach ar hyd a lled y byd. 

Mae stori gomedïaidd Mozart o arbrawf i bennu diffuantrwydd cariad yn ymuno â Death in Venice a Ffefrynnau Opera yng Nghaerdydd, ac ar daith yn ystod Tymor y Gwanwyn hwn. Archebwch eich seddi nawr i sicrhau nad ydych yn methu hanes ystryw Don Alfonso, ac emosiynau clymog y cariadon ifanc.