Y mis hwn, mae WNO yn ffarwelio â Syr David Pountney fel Cyfarwyddwr Artistig. Roeddem yn awyddus i ddiolch iddo am bopeth y mae wedi’i wneud i WNO ac edrych yn ôl ar rai o’i uchafbwyntiau ers iddo gychwyn yn y swydd yn 2011.
Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerdd WNOCyfarwyddwr opera gwych yw rhywun sy’n deall pob agwedd ar opera. Mae’n wych cael rhywun â barn bendant sy’n gwybod ystyr y stori ac sy’n cyflwyno hyn gerbron y gynulleidfa.
Kathryn Joyce, Pennaeth Rheolaeth ArtistigWrth weithio gyda David rydw i wedi dysgu llawer iawn am yr hyn sydd angen ei wneud i droi opera o fod yn syniad i fod yn gynhyrchiad llwyfan, ac yn sicr fe fydda’ i’n edrych yn ôl ar ei gyfnod fel Cyfarwyddwr Artistig fel profiad mwyaf cyffrous a llethol fy ngyrfa hyd yn hyn. Rydw i’n gwir gredu ei fod wedi fy ngwella fel perfformiwr artistig proffesiynol, ac rydw i’n ddiolchgar iawn iddo am yr amser y mae wedi’i roi imi; roedd drysau ei swyddfa a’i ystafell ymarfer ar agor bob amser.
Sally Bird, Swyddog Rhoddion UnigolTri gair i ddisgrifio David Pountney – deallus, ffraeth ac ysbrydoledig. I bwy bynnag a oedd yn ddigon lwcus i ddod i ymarfer, roedd ei wylio’n brofiad cwbl gyfareddol. Mae mor wybodus, ac mae’n awyddus i rannu’r wybodaeth honno. Pleser yw gwrando arno’n siarad am bob pwnc. Fy hoff operâu ganddo yw In parenthesis a War and Peace.
Cyfaill WNODiolch o galon i David Pountney am gynyrchiadau opera gwirioneddol wych gan WNO yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi eu fwynhau'n arw.
Carys Davies, y gath yn Brundibár 2019Mae gweithio gyda David yn brofiad mor arbennig, ar ôl gwylio cynifer o’i operâu dros y blynyddoedd, a phopeth. Mae’n anhygoel gweithio gydag ef – mor, mor fendigedig.
Sara Evans, Pennaeth DigwyddiadauErs iddo ddod yn Gyfarwyddwr Artistig mae David wedi cyfarwyddo nifer o gynyrchiadau enwog ar gyfer WNO. Y pedwar cynhyrchiad gorau gen i yw Lulu, In Parenthesis, Pelléas et Mélisande a War and Peace. Mae David yn ysbrydoledig, yn gweithio’n ôl y safonau gorau ar bopeth, ac mae’n feistr ar yr iaith Saesneg. Mae’n andros o dda ym mhopeth a wna!
Nid ffarwél unwaith ac am byth yw hwn, oherwydd byddwn yn gweld llawer mwy arno yn ystod y flwyddyn nesaf wrth iddo gyfarwyddo The Cunning Little Vixenyr Hydref hwn, diweddglo trioleg Verdi Les Vêpres Siciliennesyng Ngwanwyn 2020 a Bluebeard’s Castleyn Haf 2020. Diolch David Pountney am fod yn rhan mor fawr o WNO, ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn ôl, gobeithio, am sawl blwyddyn i ddod.