Newyddion

Addasiadau operatig epig

13 Awst 2018

O’r cychwyn cyntaf dylanwadwyd ar opera gan nofelau mawrion y cyfnod. Adrodd stori a wna opera, felly nid yw’n syndod bod rhai o’r llenyddiaeth chwedlonol wedi’u haddasu i operâu rhagorol.

Yng ngoleuni ein cynhyrchiad newydd o War and Peace, y byddwn yn ei berfformio’r hydref hwn, credasom ei bod yn syniad llunio rhestr o rhai o’r addasiadau o nofelau gorau sydd wedi’ch cyrraedd chi drwy’r llwyfan opera ac, o bosibl, y bydd un neu ddau yn eich synnu. 

Eugene Onegin

Enghraifft o dymor Chwyldro Rwsia yn 2017, mae Eugene Onegin, wedi’i seilio ar y nofel gan Alexander Pushkin, a ystyrir yn nofel Rwsiaidd glasurol. Stori am ferch ifanc ddiniwed yn cwympo mewn cariad â’r trahaus a’r hunanol, Eugene Onegin. Cefndir y stori foesol hon yw Rwsia eiraog yn y 1820au ac mae wedi dylanwadu ar sawl addasiad, gydag opera, ballet, drama a nifer o ffilmiau – mae’n saff i ddweud bod Onegin gan Pushkin yn parhau i fyw heddiw. 

Carmen

Efallai y bydd rhai ohonoch wedi’ch synnu bod yr opera Carmen wedi’i seilio ar y nofel gan Prosper Mérimée sydd â’r un enw. I’r rhai ohonoch nad ydych yn ymwybodol, cwymp Don José, milwr ifanc sy’n disgyn mewn cariad â’r temptwraig, Carmen, yw sail y stori hon. Mae’n ei arwain ef ar gyfeiliorn gan ddisgyn mewn cariad â dyn arall felly yn ei wylltineb cenfigennus, mae Don José yn ei llofruddio hi.

La traviata

Opera arall, o’r Tymor yr Hydref sydd ar gyrraedd, sydd wedi’i seilio ar nofel, ac o bosibl, yr opera enwocaf yn y byd, La traviata. Ysgrifennwyd y stori wreiddiol gan Alexandre Dumas a’i theitl gwreiddiol oedd La Dame aux camélias, ond cyn y gwnaethpwyd hi yn yr opera sy’n gyfarwydd i ni heddiw ac sy’n agos at ein calonnau, addaswyd hi ar gyfer y llwyfan gan yr awdur ei hun. Ar ôl ei ymddangosiad llwyddiannus cyntaf ar y llwyfan ym Mharis yn 1852 nid oedd hi’n gyfnod hir cyn i Guiseppe Verdi ddechrau creu La traviata yn 1853. Ond nid yw’r dylanwad yn dod i ben yn fan hyn, La traviata oedd hefyd y sail ar gyfer y ffilm Moulin Rouge yn 2001, yn ogystal â chael rhan fawr yn y ffilm boblogaidd, Pretty Woman gyda Richard Gere a Julia Roberts yn serennu ynddi.

War and Peace

Wel, ni allwn beidio â rhoi sylw i War and Peace wrth drafod nofelau enwog a addaswyd yn operâu! Mae War and Peace, a ysgrifennwyd gan Leo Tolstoy, yn nofel glasurol sy’n cofnodi hanes goresgyniad y Ffrancwyr yn Rwsia yn 1812, ac mae ei safle o fewn llenyddiaeth y byd yn un o lwyddiannau mwyaf yr awdur. Nid yn unig yw’r stori hanesyddol hon wedi’i gwneud yn opera ond fe’i haddaswyd hefyd yn gyfres deledu a ffilmiau ac mae wedi ysbrydoli llenyddiaeth am byth. Roedd Prokofiev eisoes wedi meddwl ysgrifennu opera wedi’i seilio ar y nofel epig pan oresgynnodd yr Almaen yn Rwsia yn 1914. Rhoddodd y gwrthdaro go iawn a oedd o’i amgylch yr hwb iddo i gwblhau’r opera, a chyn pen dwy flynedd yr oedd wedi cyfansoddi ei fersiwn wreiddiol.


Gallwn barhau â’r rhestr ond mae gennym waith paratoi ar gyfer operâu – felly dyma ychydig mwy o straeon clasurol, efallai eich bod yn ymwybodol ohonynt neu ddim, sydd wedi’u haddasu i operâu…

Othello, Macbeth, The Merchant of Venice, The Merry Wives of Windsor (Falstaff) gan Shakespeare.

Mansfield Park gan Jane Austen

Scènes dela vie de bohème (La bohème) gan Henry Murger

Of Mice and Men gan John Steinbeck

The House of the Dead (From the House of the Dead Janáček) gan Dostoevsky

Manon Lescaut gan Antoine François Prévost