Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn lansio podlediad newydd gyda dwy gyfres; un Saesneg - The O Word - ac un yn Gymraeg - Cipolwg. Bydd y ddwy gyfres yn anelu at roi cipolwg ar waith mewnol cwmni opera teithiol gan dynnu sylw at berthnasedd opera heddiw hefyd.
Cyflwynir y gyfres Saesneg The O Word gan Gareth Jones, newyddiadurwr â diddordeb brwd mewn opera. Mae Gareth wedi gweithio fel darlledwr gyda nifer o sefydliadau adnabyddus sy'n amrywio o'r BBC i Genhedloedd Unedig Genefa. Bu iddo ennill nifer o wobrau am ei gyfres enwog a oedd yn dilyn milwyr o Gymru yn Irac ac Affganistan, ac yn ystod y blynyddoedd diweddaraf arbenigodd mewn creu rhaglenni dogfen ar gyfer BBC Radio 4.
Bydd y gyfres yn cynnwys cyfweliadau gyda chantorion ac unigolion allweddol o fyd y celfyddydau a thu hwnt, wrth i Gareth geisio datrys rhai o bynciau llosg byd opera. Yn y bennod gyntaf, caiff Gareth sgwrs â'r tenor Gwyn Hughes Jones er mwyn darganfod beth sy'n ofynnol - yn gorfforol, yn feddyliol ac yn ysbrydol - i fod yn ganwr opera.
Cyflwynir y gyfres Gymraeg, Cipolwg, gan y digrifwr a'r newyddiadurwr Lorna Pritchard, sydd wedi bod â diddordeb mewn opera byth ers yr opera gyntaf a welodd yn Y Rhyl pan oedd hi'n chwe blwydd oed. Cychwynnodd Lorna ei gyrfa fel newyddiadurwr darlledu gan weithio i BBC Cymru am bedair blynedd, yna gweithiodd fel gohebydd sgrin i ITV Wales am saith mlynedd. Yn 2018 cychwynnodd weithio'n llawrydd i gydbwyso newyddiaduraeth gyda gyrfa ym myd comedi 'stand-up'. Mae Lorna wedi perfformio mewn sawl gŵyl a gig Cymraeg a Saesneg ledled y DU, gan gynnwys Gŵyl Gomedi Machynlleth ac Edinburgh Fringe Festival deirgwaith.
Bydd y gyfres yn dangos y gwaith caled sy'n digwydd wrth greu opera, yn ogystal ag edrych ar effaith ehangach cwmni opera ar y gymuned. Yn y bennod gyntaf, mae Lorna yn cwrdd ag Arweinydd Llawryfog Opera Cenedlaethol Cymru, Carlo Rizzi er mwyn trafod poblogrwydd parhaus Giuseppe Verdi.
Llwyddwyd i recordio'r cyfresi gan lynu at fesurau pellhau cymdeithasol a'r cyfyngiadau gan ddefnyddio llwyfannau digidol. Mae cwmni Opera Cenedlaethol Cymru wedi cydweithio'n agos â stiwdio recordio Tŷ Cerdd, gyda chynhyrchwyr a pheirianwyr yn gweithio o bell i gynorthwyo gyda'r broses olygu.
Byddwch yn gallu lawrlwytho'r podlediad o nifer o gyfarwyddiaduron podlediadau, gan gynnwys Apple Podcasts, Google Podcasts a Spotify- dim ond chwilio am 'Opera Cenedlaethol Cymru' a thanysgrifio sydd angen ei wneud.