A hithau'n cael ei chydnabod fel un o'r 'Big 4', mae Wythnos Ffasiwn Llundain ochr yn ochr ag Efrog Newydd, Milan a Pharis fel un o'r dyddiadau pwysicaf yn y diwydiant Ffasiwn.
Yma yn WNO rydym ni wrth ein bodd â ffasiwn ac, ynghyd â rhai o felodïau mwyaf trawiadol Donizetti, byddwn yn cynnal ein gorymdaith ffasiwn ein hunain y gwanwyn hwn, am gyfanswm o 9 wythnos mewn lleoliadau amrywiol yng Nghaerdydd, Birmingham, Milton Keynes, Plymouth, Bryste, Llandudno a Southampton. Wedi'u dylunio gan Madeleine Boyd, ysbrydoliwyd y gwisgoedd yn ein cynhyrchiad clodwiw o Roberto Devereux gan un o frenhinesau ffasiwn Prydain, y Fonesig Vivienne Westwood, a oedd yn gyfrifol am ddod â ffasiynau pync modern a gwedd newydd i'r priflif.
Ar ddechrau'r opera, ymddangosai Elisabetta (enw'r Frenhines Elisabeth I yn yr opera) mewn ffrog goch drawiadol gyda thaffetta. Caiff ei hedrychiad ei gwblhau â staes lledr du 8-pecyn ac ychydig o ffrog gwallt du, a ddatgelir yn hwyrach yn yr opera wrth i'r plot ddatblygu. Os ydych wedi cerdded heibio siop flaenllaw Westwood yn Llundain yn ddiweddar (llun isod), byddwch yn cytuno nad oes dwywaith ei bod yn dylanwadu ar ddyluniad ein gwisgoedd, o gyfoeth y deunydd i siap y ffrog, heb anghofio'r brodwaith addurnol, gwyn o gwmpas y frest/gwddf.
Dyluniwyd y wisg gychwynnol hon i greu'r un darlun a beiriannwyd i Frenhines Elisabeth I yn ystod ei theyrnasiad. Roedd Brenhines Elisabeth I yn hynod ymwybodol o'i hedrychiad. Gwyddai bod ei gweithredoedd a'i hedrychiad yn ffurfio ei hunaniaeth, a ddaeth yn symbol o Loegr. Peiriannwyd ei hedrychiad, felly, i gyfleu cyfoeth, awdurdod a grym. Byddai ei morwynion yn gwisgo hen ffrogiau; a merched eraill yn ymdrechu i ddynwared steil y frenhines a'i merched. Byddai ffasiynau newydd yn hidlo'n araf i lawr o'r llys i'r gymdeithas yn gyffredinol, lle y tybiant yn agweddau symlach a mwy ymarferol na'r ffrogiau a wisgiwyd gan y frenhines a'i chymdeithion. Roedd hi'n broses gyffelyb i pan fydd ffrog a fodelir ar y rhedfa yn ymddangos ychydig fisoedd yn ddiweddarach ar y stryd fawr, wedi'i dylunio'n fwy ymarferol ac yn gofyn pris is. Daeth ffasiwn dynion a merched yn llawer prysurach ac yn fwy coeth wrth i deyrnasiad Elisabeth barhau. Daeth coleri yn uwch a mwy a daeth sgertiau a llewys yn fwyfwy llydan. Daeth bodisiau yn fwy addurnedig, wedi eu gorchuddio'n llwyr â brediau, trimiau, tlysau, metal a brodwaith sidan. Roedd gan Elisabeth y dylanwad grymusaf dros dueddiadau ffasiynol ei gwlad nag unrhyw deyrn o'i blaen ac ar ei hôl.
Fodd bynnag, mae ail wisg Elisabetta yn yr opera yn adlewyrchu agwedd hollol wahanol ar ei phersonoliaeth, gan aros yn driw i ffasiwn Elisabethaidd Lloegr yn y 16eg Ganrif. Unwaith y byddai Brenhines Elisabeth I wedi gwisgo ffrog neu ddilledyn un tro, yn aml byddai'n cael ei addasu i hwyluso ffasiynau a chwaethau newidiol. Yn aml iawn byddai rhannau o sgertiau yn cael eu hychwanegu neu eu tynnu, a dyma'n union y gwelwn yn ein cynhyrchiad. Ar ôl profi torcalon a brad gan Roberto Devereux, y dyn a garai, dychwela Elisbetta i'r llwyfan yn barod i ddial. Mae'n cyrraedd y llwyfan mewn staes lledr du, menig du hirion a chaiff y ffrog gwallt du a oedd oddi tan ei ffrog goch fywiog ei datgelu, gan wneud ei thrallod emosiynol a seicolegol yn weladwy i bawb ei weld.
Mae dwysedd dramatig a dyluniad trawiadol y cynhyrchiad hwn yn ychwanegu drama a golygfa i ddadleniad sydd eisoes yn ddwys. Mae Joyce El-Khoury yn ymgymryd â'r rôl hynod anodd o Elisabetta. Mae Roberto Devereux hefyd yn cynnwys Barry Banks fel y prif gymeriad; mae Roland Wood a Biagio Pizzuti yn rhannu rôl Nottingham; Justina Gringyte fel Sara, Duges Nottingham a gwrthwynebydd cudd y Frenhines. Bydd Arweinydd Llawryfol WNO Carlo Rizzi yn arwain yng Nghaerdydd a Birmingham a bydd James Southall yn arwain yn Milton Keynes, Plymouth, Bryste, Llandudno a Southampton.