Newyddion

Cyfansoddwyr benywaidd Llundain

8 Chwefror 2021

Gyda sawl cerddorfa o'r radd flaenaf, rhai o'r lleoliadau perfformio mwyaf mawreddog yn y byd a llu o gwmnïau opera gan gynnwys The Royal Opera ac English National Opera, mae Llundain yn cynnig gwledd o brofiadau cerddorol o'r safon uchaf. Dyma rai o’r cyfansoddwyr benywaidd y mae’r ddinas wedi dylanwadu arnynt.

Ganed Ethel Smyth yn 1858 a daeth yn un o’r cyfansoddwyr Prydeinig mwyaf blaenllaw erioed. Astudiodd yng Nghonservatoire Leipzig, lle cyfarfu â chyfansoddwyr fel Grieg, Tchaikovsky a Clara Schumann a chafodd ei hannog gan Brahms a Dvořák. Mae ei gweithiau enwocaf yn cynnwys Mass in D a’r opera The Wreckers. Yn 1911, ysgrifennodd The March of the Women, a ddaeth yn anthem swyddogol y mudiad Swffragét. Cafodd y darn ei gynnwys yn ein comisiwn Rhondda Rips It Up!  gan Elena Langer ac Emma Jenkins yn 2018 a oedd yn adrodd stori Margaret Haig Thomas, Is-iarlles Rhondda, arwres ddi-glod y mudiad Swffragét yng Nghymru.

Fel nifer o’r actifyddion, cafodd Smyth ei charcharu am ddau fis yng Ngharchar Holloway. Pan aeth yr arweinydd Thomas Beecham i ymweld â hi, gwelodd swffragetiaid yn canu yn y cwadrangl, a Smyth yn pwyso allan o ffenest yn eu harwain gyda'i brws dannedd. Erbyn y 1930au, roedd Ethel wedi cael ei gwneud yn Fonesig a chymaint oedd y parch tuag ati bu i Beecham arwain cyngerdd yn y Royal Albert Hall i ddathlu ei phen-blwydd yn 75 oed.

Yn 1923, dechreuodd Elizabeth Maconchy ei hastudiaethau yn y Royal College of Music. Vaughan Williams oedd ei thiwtor, a disgrifiodd hi ei addysgu fel ‘cynnau golau’. Yn y Coleg, byddai grŵp o ddarpar gyfansoddwyr, gan gynnwys Imogen Holst a Grace Williams, yn cwrdd yn wythnosol i drafod a beirniadu gwaith ei gilydd. Daeth Maconchy i amlygrwydd yn 1930 pan berfformiwyd ei chyfres gerddorfa The Land am y tro cyntaf gan Henry Wood yn y Proms. Yn 1931 lansiodd yr arweinydd Iris Lemare, y feiolinydd Anne Macnaghten a'r cyfansoddwr Elisabeth Lutyens gyfres o gyngherddau i arddangos cerddoriaeth newydd. Yma daeth Maconchy o hyd i’r genre iddi hi - y pedwarawd llinynnol. Ysgrifennodd dri darn ar gyfer pedwarawd llinynnol yn y 1930au a gafodd eu darlledu yn eang gan y BBC a’u perfformio ar draws Ewrop.

Comisiynwyd gwaith Maconchy My Dark Heart gan y Royal College of Music fel rhan o’i ddathliadau canmlwyddiant a dwy flynedd yn ddiweddarach, ysgrifennodd Music for Strings ar gyfer Tymor Proms 1983. Mae’n addas iawn bod dau o’r sefydliadau a lansiodd gyrfa Maconchy wedi ei hanrhydeddu tuag at ei ddiwedd.

Roedd Llundain hefyd yn ddinas bwysig yn natblygiad Judith Weir. Perfformiwyd llawer o'i gweithiau yn y BBC Proms a rhwng 1995 a 2000 hi oedd Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Spitalfields. Mae Weir yn fwyaf adnabyddus am ei hoperâu a'i gweithiau theatrig gan gynnwys The Black Spider, A Night at the Chinese Opera a Blond Eckbert. Cafodd ei hopera ddiweddaraf, Miss Fortune, cyd-gynhyrchiad â'r Royal Opera House, ei pherfformio gyntaf yn y Bregenzer Festspiele yn 2011. Ym mis Gorffennaf 2014 penodwyd Judith Weir i’r swydd frenhinol 395 mlwydd oed sef Meistr Cerddoriaeth y Frenhines, yn olynol i Syr Peter Maxwell Davies.