Newyddion

Teuluoedd Gelyniaethus mewn Opera

21 Awst 2024

A yw dadleuon teuluol yn troi’r gwres i fyny ar eich Haf? Mae dadlau o fewn eich teulu yn anochel mewn bywyd, ond mae’r byd opera yn mynd â ffraeo teuluol i'r eithaf. Dyma operau orau Opera Cenedlaethol Cymru ar gyfer ffraeo o fewn teulu, o’r cynllwyngar a’r doniol i’r hollol beryglus.

Jenůfa gan Janáček (1904)


Fe allech chi ddisgrifio JenůfaLeoš Janáček fel y drasiedi deulu operatig eithaf. Ymosodir ar ferch y pentref Jenůfa a chaiff ei boch ei thorri pan fydd yn gwrthod llysfrawd ei hanwylyd, Laca. Yn ddiweddarach caiff ei chuddio gan ei llysfam, Kostelnička, am roi genedigaeth i faban y tu allan i briodas. Mae tad y babi, Števa, yn gwrthod cydnabod ei fab felly mae Kostelnička yn troi at hanner brawd Števa, Laca, i weld a fydd yn ei phriodi a'u hachub rhag cywilydd ofnadwy i’r teulu. Gan ddweud wrtho fod y babi wedi marw o dwymyn, mae Kostelnička yn dwyn y bachgen bach i ffwrdd o Jenůfa gyda'r nos ac yn ei foddi yn yr afon.

Pelléas et Mélisande gan Debussy (1902)


Yn digwydd yn nheyrnas ddychmygol Allemonde, mae’r Brenin Arkel yn rheoli’r cyfan yng nghampwaith Ffrengig Claude Debussy, Pelléas et Mélisande (1902). Mae ei ŵyr, y Tywysog Golaud yn dod o hyd i’r Mélisande ifanc yn crwydro ar ei phen ei hun, ar goll yn y goedwig, ac yn dod â hi yn ôl i gastell y teulu lle mae’n ei phriodi. Yn fuan, fodd bynnag, mae Mélisande yn tyfu’n agos at hanner brawd iau Golaud, Pelléas, ac mae Golaud genfigennus yn ceisio datgelu perthynas y ddau, hyd yn oed yn defnyddio ei blentyn ei hun i ysbïo arnynt. Mae'r pâr ifanc yn cytuno i gwrdd yn y nos lle mae Pelléas yn cael ei daro i lawr yn ddiamddiffyn a'i ladd gan ei frawd hŷn; a Mélisande yn marw yn fuan wedyn yn ei galar ar ôl rhoi genedigaeth i ferch.

The Magic Flute gan Mozart (1791)

Yn ddialgar ac yn fileinig yn yr un modd, mae Brenhines y Nos yn The Magic Flute gan Mozart glamp o amharwr teuluol, cymaint nes ei bod yn rhwygo ei merch, Pamina, oddi wrth ei thad Sarastro, Offeiriad yr Haul. Mae'r Frenhines yn gorchymyn i Pamina lofruddio Sarastro, gan roi dagr iddi gyflawni'r weithred – yn ffodus nid yw Pamina yn cyflawni’r dasg, ac mae'r Frenhines a'i merched yn cael eu trechu yn Nheml yr Haul Sarastro.

Gianni Schicchi gan Puccini (1918)


Os ydych chi’n chwilio am opera o ffraeo teuluol ysgafnach, Gianni Schicchi gan Puccini yw eich dewis gorau. Mae’n stori am deulu barus (y Donatis) sydd wedi colli eu hetifeddiaeth o ffortiwn sylweddol gan eu perthynas yn ddiweddar, felly maen nhw’n ceisio cymorth Gianni Schicchi, twyllwr twyllodrus sy’n enwog ledled Fflorens, i helpu adennill eu hetifeddiaeth. Mae’n gomedi wych, cyflym, dim ond tua awr o hyd, sy’n gweld y teulu’n cecru eu hunain i ddarfodedigrwydd a Gianni Schicchi yn dod yn fuddugoliaethus.


Gallwch weld cynhyrchiad newydd WNO o Gianni Schicchi yn Il tritticoo 29 Medi yng Nghanolfan Mileniwm Cymru Caerdydd, cyn iddo fynd ar daith fel perfformiad dwbl Suor Angelica a Gianni Schicchi i Landudno, Plymouth a Southampton. Bydd perfformiad cyngerdd arbennig o Il tritticoyn cael ei gynnal yn New Theatre Rhydychen ar 25 Hydref 2024.