Yn 2020, roedd y byd yn canolbwyntio ar newid, o'r frwydr barhaus i weithredu ar newid hinsawdd, i'r creulondeb sy'n parhau i uno pobl o bob hil yn Mae Bywydau Du o Bwys, i'r sylweddoliad bod cymdeithas fyd-eang, megis yr un rydym yn byw ynddi, yn gallu cychwyn pandemig, megis y pandemig sydd wedi taflu cysgod ar 2020. Yma yn Opera Cenedlaethol Cymru, cawsom weithio gyda'r tîm o artistiaid y tu ôl i'n hopera newydd, Migrations, ar Greu Newid - cyfres o ffilmiau digidol yn ymdrin â'r materion sy'n wynebu dynoliaeth mewn ffordd greadigol. Mae darn Shreya Sen Handley, The Pledge, yn archwilio beth allwn ni yn y Celfyddydau ei wneud i ddylanwadu ar newid.
Mae Shreya'n dweud wrthym 'Roedd gwarediadau hynafol yn troi at dduwiesau, yn enwedig duwiesau mamol, mewn argyfwng. Roedd y duwiesau hyn yn meithrin, adfywio ac ailadeiladu, yn wahanol i fwriad duwiau brwydrol o fod eisiau dinistrio a thramgwyddo dynoliaeth. Wrth galon fy ngherdd darluniedig, The Pledge, ceir ffigwr cyffelyb, cyfansawdd o nifer o ddylanwadau, ond wedi'i ysbrydoli'n bennaf gan dduwies famol Hindwaidd bwerus. Mae'r dduwies yn brwydro'n erbyn anwybodaeth, trais a chasineb. Ond mae'n cywiro nid dinistrio, yn cymodi nid rhwygo, yn trin arfau cydymdeimlo, goleuedigaeth a chreadigrwydd. Mae ein byd yn wynebu trychineb hinsawdd, trafferth pandemig, ac yn suddo i anwybodaeth, anghysondeb a difaterwch yn gyflym. Wrth ail ddychmygu ei rôl yn ein byd cythryblus, mae hi'n dod yn ymgorfforiad o gydbwysedd a chydraddoldeb.
Mae fy ngherdd yn galw ar dduwies o'r fath i roi cymorth i ni yn ystod y cyfnod hwn. Ond duwies fewnol ydyw. Hi yw'r cyfan o natur ddynol, a'r natur ddynol ym mhob un ohonom. Mae'n cynrychioli gobaith, cryfder, ac egni creadigol sydd ym mhob un ohonom, ac yn ymgnawdoli'r angen i'w defnyddio i greu newid cadarnhaol. Yn hynny o beth, nid natur ynom ni'n unig ydyw, hi yw'r celfyddydau. Mae gan y celfyddydau'r pŵer i wthio, gwella, a manteisio ar y rhinweddau hynny. Mae'r gallu i ymlacio, agor llygaid, yn dod â phobl ynghyd ac yn galluogi iddynt gydymdeimlo. Yr egni i ddylanwadu ac ysbrydoli ein byd i wella bob dydd, er mwyn i ni wneud newidiadau sydd eu hangen ar y blaned i iachau ac atgynhyrchu. Felly, mae The Pledge yn adduned gan yr artist i wneud popeth o fewn ei allu i wneud gwahaniaeth.
Drwy The Pledge, mae Shreya yn ein hysbrydoli ni i feddwl am beth allwn ni ei wneud i greu newid, sut allwn adfer - hyd yn oed mewn ffordd fychain - y ffordd rydym yn byw bywyd o ddydd i ddydd, i helpu ysgogi newid cadarnhaol, a chreu dyfodol gwell. Mae WNO wedi ymrwymo i agor y byd opera i bawb, adrodd straeon sy'n adlewyrchu profiadau pob aelod o'n cynulleidfa ac ehangu ein gwaith er mwyn apelio i'n holl gymunedau. Wrth i flwyddyn newydd 2021 barhau i greu heriau, beth fydd eich addewid chi?